Hwb i ynni solar i ysgolion cynradd Rhuthun

Mae isadeiledd ynni solar ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni ar safle addysg ysgol gynradd yn Rhuthun.

Mae isadeiledd ynni solar ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni ar safle addysg ysgol gynradd yn Rhuthun.

Mae gwaith wedi’i gwblhau yn Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras i osod paneli ffotofoltaig ychwanegol ar do’r adeilad, gan helpu i leihau dibyniaeth ar ynni’r grid cenedlaethol, costau hirdymor ac allyriadau carbon o’r adeilad.

Mae’r cyfan yn rhan o ymdrech Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd a chostau ynni mewn adeiladau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol.

Mae Tîm Ynni’r Cyngor wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor yn cynnwys ysgolion, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau carbon a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.

Bu iddynt helpu adran Addysg y Cyngor o ran asesu sut i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad.

Roedd y gwaith yn cynnwys cynyddu’r system solar ffotofoltäig 16.80kWp presennol ar do’r ysgol i system solar ffotofoltäig 56.85kWp.

Bydd y paneli ffotofoltaig newydd, ochr yn ochr â’r rhai presennol, yn helpu i ddefnyddio ynni o’r haul i bweru’r safle, gan leihau’r pwysau ar y system grid lleol a helpu i leihau allyriadau carbon ar y safle.

Bydd pob cilowat a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltaig ac a ddefnyddir gan yr ysgolion yn arbed tua 22 ceiniog.

Bydd y paneli solar ffotofoltäig ychwanegol yn arbed oddeutu 43,000kWh i’r safle ac yn lleihau allyriadau carbon o dros wyth tunnell.  

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Bydd y gwaith hwn o gymorth i ddefnydd ynni cyffredinol y ddwy ysgol ac mae’n gam ymlaen tuag at gynyddu’r gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ein hadeiladau addysgol.  Mae’r gwaith o’u gosod yn ymdrech ar y cyd rhwng ein tîm Addysg ac Ynni, sy’n cydweithio i helpu i leihau costau ynni hirdymor ac allyriadau ar yr un pryd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein Tîm Ynni’n ddiolchgar iawn i staff y safle am ganiatáu i ni gynnal y gwaith ychwanegol hwn i helpu’r ysgol i leihau defnydd ynni a lleihau costau hirdymor, gan hefyd greu amgylchedd dysgu a lles brafiach i gefnogi disgyblion a staff.

 “Dyma ddarn pwysig o waith sy’n cefnogi ein hymdrech barhaus i leihau defnydd ynni a chostau a lleihau olion troed carbon ar draws ein hystâd adeiladau, ac mae’n wych gweld yr ysgolion a’n Tîm Ynni yn cydweithio i gyflawni hyn.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw