Llwyddiant mawr i ddigwyddiadau Calan Gaeaf Carchar Rhuthun

Daeth dathliadau Calan Gaeaf hanner tymor Carchar Rhuthun â nifer fwy nag erioed o ymwelwyr

Daeth dathliadau Calan Gaeaf hanner tymor Carchar Rhuthun â nifer fwy nag erioed o ymwelwyr i brofi’r safle hanesyddol mewn goleuni newydd.

Trwy gydol hanner tymor mis Hydref, bu teuluoedd yn mwynhau llwybrau arswydus, crefftau thema a straeon ysbryd yn amgylchedd atmosfferaidd y carchar Fictoraidd.

Yr uchafbwynt i lawer oedd y sesiynau agored hwyr y nos pan gafodd oriau agor arferol y carchar eu hymestyn tan 8pm, gan ganiatáu i ymwelwyr mwy dewr archwilio’r celloedd dan olau tortsh a datgelu rhai o straeon mwyaf iasol y safle.

Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth:

“Roeddem wrth ein boddau o groesawu cynifer o ymwelwyr dros gyfnod Calan Gaeaf. Mae fel pe bai wedi dal dychymyg ymwelwyr go iawn ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. O deuluoedd yn cymryd rhan yn ein llwybrau yn ystod y dydd i rai a ymunodd â’n teithiau gyda’r nos dan olau tortsh, mae wedi bod yn wych gweld pobl yn dod i gael profiad o’r Carchar mewn ffordd mor ddifyr a chofiadwy. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at gynllunio mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.”

Meddai Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych gweld bod cynifer o bobl wedi dod i fwynhau’r gweithgareddau a gynhaliwyd yn y Carchar dros Galan Gaeaf. Mae Carchar Rhuthun yn atyniad hynod boblogaidd yr ydym yn ffodus iawn i’w gael ar ein carreg drws yma yn Sir Ddinbych.

Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i ymweld a helpu i wneud digwyddiadau Calan Gaeaf yn gymaint o lwyddiant”.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau yng Ngharchar Rhuthun, gallwch ofyn am gael eich ychwanegu at restr bostio newyddlen fisol y gwasanaeth trwy anfon e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw