Peidiwch â gwastraffu Calan Gaeaf

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion y gallant ailgylchu eu heitemau Calan Gaeaf yn ystod y cyfnod Calan Gaeaf eleni.
Mae’r gwaith paratoi ar y gweill i gerfio pwmpenni er mwyn dychryn pobl mewn cartrefi ar hyd a lled y sir ar Galan Gaeaf.
Ar ôl gorffen gyda’r bwmpen, mae angen eu rhoi yn y cadi gwastraff bwyd ac nid y bin gwastraff cyffredinol. Bydd yn rhaid tynnu’r holl addurniadau oddi ar y pwmpenni cyn y gellir eu hailgylchu. Gall pwmpenni fod yn niweidiol i anifeiliaid megis draenogiaid, felly ni ddylid eu gadael yn yr ardd na’r tu allan i gartrefi ar ôl 31 Hydref.
Gellir ailddefnyddio addurniadau Calan Gaeaf bob blwyddyn, fydd yn arbed deunyddiau a chostau i deuluoedd. Os nad oes eu hangen arnoch, gellir eu rhoi i siopau elusen lleol fel bod cartrefi eraill yn gallu eu mwynhau.
Gall trigolion gael gwared ag addurniadau na ellir eu hailddefnyddio gan ddefnyddio’r cynhwysydd priodol neu mewn parc ailgylchu a gwastraff.
Gellir ailddefnyddio gwisgoedd Calan Gaeaf bob blwyddyn, neu gellir eu rhoi i siop elusen leol os nad ydynt eu hangen mwyach.
Gan y bydd chwarae cast neu geiniog yn digwydd, cofiwch na ellir ailgylchu papurau siocled a fferins.
Ond gellir ailgylchu batris a ddefnyddir mewn addurniadau yn y cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Ceisiwch ddefnyddio batris ailwefru lle bo modd.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gwyddom fod Calan Gaeaf yn amser cyffrous i lawer o drigolion o bob oed, a bydd gwisgoedd ac addurniadau’n cael eu harddangos yn falch mewn cartrefi a digwyddiadau. Cofiwch geisio ailgylchu’n gywir yn ystod cyfnod Calan Gaeaf, gan fod gennym sawl math o gymorth ailgylchu fydd yn eich cefnogi i’w ddathlu mewn ffordd werdd.”