NEWYDDION
Cronfa Allweddol CGGSDd yn helpu i gryfhau trydydd sector Sir Ddinbych
Mae’r fenter yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Helpodd Cronfa Allweddol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSD) i gynyddu cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadau trydydd sector ledled Sir Ddinbych.
Mae’r fenter yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol y llywodraeth, gan gynnwys grymuso cymunedau lleol, rhoi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Mae Cronfa Allweddol eleni, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, wedi gweld galw cryf, gyda 99 o geisiadau wedi’u cyflwyno gan amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol ar draws y sir.
Yn dilyn proses asesu drylwyr, roedd 45 ymgeisydd yn llwyddiannus gan sicrhau cyllid hanfodol i gryfhau eu gweithrediadau. Mae Cronfa Allweddol CGGSDd wedi dyfarnu cyfanswm o £212,114 mewn grantiau Cyfalaf a £633,906 arall mewn grantiau Refeniw.
Mae’r grantiau hyn wedi’u cynllunio i helpu i sicrhau cadernid a chynaliadwyedd hirdymor sefydliadau trydydd sector Sir Ddinbych, ac mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol.
Mae’r Gronfa Allweddol yn rhan ganolog o waith ehangach CGGSDd dan raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n rhedeg tan 31 Mawrth 2026. Ochr yn ochr â chyllid grant, mae CGGSDd yn darparu pecyn eang o gefnogaeth gan gynnwys:
- Sesiynau hyfforddiant, dosbarthiadau meistr a gweithdai am ddim
- Rhaglen gefnogaeth GROW i gryfhau trefniadau llywodraethu a chynllunio strategol
- Rhaglen fentora gyffrous, sy’n paru uwch weithwyr proffesiynol o’r sector corfforaethol a’r sector cyhoeddus â grwpiau trydydd sector sy’n chwilio am gefnogaeth wedi’i thargedu
Gan siarad am effaith y Gronfa Allweddol, dywedodd Tom Barham, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd):
“Rydym wrth ein boddau o ail-lansio’r Gronfa Allweddol a gweld diddordeb mor gryf gan sefydliadau ar dras Sir Ddinbych. Bydd y cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael trwy’r rhaglen hon yn helpu i gryfhau cadernid ein trydydd sector, gan alluogi grwpiau i dyfu, addasu a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’n wych bod cynifer o sefydliadau trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau mor hanfodol i’r Sir yn gallu cael eu cefnogi trwy ail-lansiad y Gronfa Allweddol yn ogystal â gwasanaethau eraill mae CGGSDd yn eu darparu. Mae hyn yn enghraifft wych o’r gwaith partneriaeth cryf sy’n bodoli rhwng y Cyngor a’r sector gwirfoddol, trwy CGGSDd.”
Mae’r Gronfa Allweddol yn dangos ymrwymiad CGGSDd i rymuso sefydliadau lleol, creu cymunedau cryfach a sicrhau bod y trydydd sector yn Sir Ddinbych yn barod i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.
Gwelliannau i brif lwybr Dinbych
Bydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar gyffordd goleuadau traffig Stryd y Dyffryn fis nesaf

Bydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar gyffordd goleuadau traffig Stryd y Dyffryn fis nesaf.
Mae disgwyl i’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd ddigwydd rhwng 2 Tachwedd a 18 Tachwedd.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen cynnal a chadw ffyrdd barhaus y Cyngor i wella'r profiad gyrru i drigolion ac ymwelwyr ar draws rhwydwaith ffyrdd y sir.
Defnyddir system gonfoi Stop/Go a goleuadau traffig i reoli’r traffig yn ystod y gwaith.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol fod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chyflwr ein ffyrdd ledled y sir er budd y rhai sy'n defnyddio'r llwybrau hyn.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n trigolion sy’n byw yn yr ardal hon yn Ninbych a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.”
Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk
Cyngerdd Elusennol y Cadeirydd yng Nghadeirlan Llanelwy
Cynhelir noson o gerddoriaeth gorawl Gymreig ragorol yng Nghadeirlan Llanelwy nos Wener, 21 Tachwedd am 7.30pm, fel rhan o Gyngerdd Elusennol y Cadeirydd.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan ddau gôr lleol enwog, sef Meibion Marchan a Chôr Rhuthun. Gyda'i gilydd, byddant yn creu noson gofiadwy yn lleoliad godidog y Gadeirlan, un o dirnodau mwyaf eiconig Gogledd Cymru.
Trefnwyd y cyngerdd i godi arian ar gyfer elusennau dewisol y Cadeirydd, gyda'r holl elw yn mynd i gefnogi achosion pwysig yn y gymuned, sef Hosbis Sant Cyndeyrn ac Urdd Gobaith Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor: “Mae cerddoriaeth wedi dod â'n cymunedau at ei gilydd erioed, ac rwy'n falch iawn y bydd y cyngerdd hwn nid yn unig yn arddangos talent eithriadol Cymru ond hefyd yn cefnogi elusennau lleol hanfodol. Edrychaf ymlaen at groesawu pawb i'r hyn sy'n addo bod yn noson wych.”
Tocynnau yn £12 ac ar gael nawr oddi wrth:
- Siop Elfair: Rhuthun (01824 702575)
- Siop Clwyd: Dinbych (01745 813431)
- WISH: Rhuddlan (01745 591264)
- Tudor House: Prestatyn (01745 859528)
- Eleri Woolford: 01824 706196 (eleri.woolford@sirddinbych.gov.uk)
Sir Ddinbych yn dathlu statws Cyfeillgar i Oed gydag ymweliad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mewn dathliad yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ninbych ddydd Gwener 24 Hydref, ymunodd y gwestai arbennig, Rhian Bowen- Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â thîm Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych i ddathlu bod Sir Ddinbych wedi dod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed.
Dathliad yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ninbych.
Yn ystod y digwyddiad, cafwyd sgyrsiau gan gyn-gadeiryddion a chadeiryddion presennol rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, a fu’n sôn am eu taith hyd yma a sut y llwyddwyd i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed.
Comisiynydd gydag Aelodau'r Clwb Ieuenctid ac Alison Price, Age Connects Canol Gogledd Cymru.
Mewn sesiwn ryngweithiol o’r enw ‘Ffyrdd o heneiddio’n dda’, gofynnodd panel o bobl ifanc gwestiynau gwybodus, meddylgar a difyr i banel tebyg o bobl hŷn. Ffordd hwyliog a difyr o bontio’r bwlch rhwng y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau.
Cwestiwn ac ateb.
Eglurodd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies ei rôl a phwysigrwydd heneiddio’n dda a chafwyd siawns i’r rhai oedd yno ei holi.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Roedd yn wych bod Rhian Bowen-Davies, y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi ymuno â ni i ddathlu ein bod yn aelod o Rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd.
Ni fyddai dathlu’r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled partneriaid ymroddedig Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych.
Mae’n gyflawniad gwych, ond dim ond megis dechrau ydyn ni i barhau i wneud Sir Ddinbych yn lle gwych i dyfu’n hŷn.”
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Roedd hi’n wych bod yn ôl yng Ngogledd Cymru i ddathlu Sir Ddinbych yn ymuno â Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd, gan gydnabod yr holl waith caled sy’n cael ei wneud ar draws y sir i wneud cymunedau’n gyfeillgar i oedran a chefnogi pobl i heneiddio’n dda.
Roedd hi hefyd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am daith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych hyd yn hyn, a’r ffyrdd y mae’r tîm wedi gweithio gyda phobl hŷn a phartneriaid eraill i gyflawni cymaint, gan oresgyn amrywiaeth o heriau ar hyd y ffordd.
Fel bob amser, mwynheais siarad â phobl hŷn am fy rôl, ateb eu cwestiynau a chlywed yn uniongyrchol am y newid a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld, sydd bob amser yn werthfawr iawn.
Diolch i bawb a oedd yn rhan o’r broses am roi croeso mor gynnes i mi, a da iawn am gael eich cyflawniadau wedi’u cydnabod ar lwyfan y byd!”
Peidiwch â gwastraffu Calan Gaeaf

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion y gallant ailgylchu eu heitemau Calan Gaeaf yn ystod y cyfnod Calan Gaeaf eleni.
Mae’r gwaith paratoi ar y gweill i gerfio pwmpenni er mwyn dychryn pobl mewn cartrefi ar hyd a lled y sir ar Galan Gaeaf.
Ar ôl gorffen gyda’r bwmpen, mae angen eu rhoi yn y cadi gwastraff bwyd ac nid y bin gwastraff cyffredinol. Bydd yn rhaid tynnu’r holl addurniadau oddi ar y pwmpenni cyn y gellir eu hailgylchu. Gall pwmpenni fod yn niweidiol i anifeiliaid megis draenogiaid, felly ni ddylid eu gadael yn yr ardd na’r tu allan i gartrefi ar ôl 31 Hydref.
Gellir ailddefnyddio addurniadau Calan Gaeaf bob blwyddyn, fydd yn arbed deunyddiau a chostau i deuluoedd. Os nad oes eu hangen arnoch, gellir eu rhoi i siopau elusen lleol fel bod cartrefi eraill yn gallu eu mwynhau.
Gall trigolion gael gwared ag addurniadau na ellir eu hailddefnyddio gan ddefnyddio’r cynhwysydd priodol neu mewn parc ailgylchu a gwastraff.
Gellir ailddefnyddio gwisgoedd Calan Gaeaf bob blwyddyn, neu gellir eu rhoi i siop elusen leol os nad ydynt eu hangen mwyach.
Gan y bydd chwarae cast neu geiniog yn digwydd, cofiwch na ellir ailgylchu papurau siocled a fferins.
Ond gellir ailgylchu batris a ddefnyddir mewn addurniadau yn y cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Ceisiwch ddefnyddio batris ailwefru lle bo modd.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gwyddom fod Calan Gaeaf yn amser cyffrous i lawer o drigolion o bob oed, a bydd gwisgoedd ac addurniadau’n cael eu harddangos yn falch mewn cartrefi a digwyddiadau. Cofiwch geisio ailgylchu’n gywir yn ystod cyfnod Calan Gaeaf, gan fod gennym sawl math o gymorth ailgylchu fydd yn eich cefnogi i’w ddathlu mewn ffordd werdd.”
Penodi Prif Weithredwr newydd i Gyngor Sir Ddinbych
Heddiw (Dydd Gwener, 24 Hydref) mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.
Penodwyd Helen White, sy'n ymuno â Sir Ddinbych o Gymdeithas Tai Taf, i'r rôl.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn benodiad rhagorol i Sir Ddinbych a hoffwn longyfarch a chroesawu Helen i'r rôl newydd hon ar ran ein staff, aelodau etholedig a thrigolion ledled y sir.
“Mae'r broses recriwtio wedi bod yn drylwyr iawn ac roedd nifer o ymgeiswyr cryf, gyda phawb yn perfformio i safon eithriadol o uchel.
“Derbyniodd y cyngor ganmoliaeth yn ei Asesiad Perfformiad Panel ar ddiwedd 2024 am fod yn un sy’n cael ei ‘redeg yn dda’, ac mae uwch dîm arweiniol cryf yn ei le. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i arwain y tîm hwn a pharhau â'r llwyddiant i'r dyfodol.”
Yn siaradwr Cymraeg a fagwyd yn Henllan, mae Helen wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol gyda Thai Taf ers 2019. Ar ôl dechrau ei gyrfa ym maes tai a datblygu cymunedol, mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.
Meddai Helen, "Mae'n anrhydedd i mi fod yn ymgymryd â'r rôl Prif Weithredwr. Rwy'n ymwybodol ei bod yn gyfnod heriol i gynifer yn ein cymunedau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ymroddedig i helpu i gael effaith gadarnhaol yn y sir ble cefais fy ngeni a'm magu.
"Hoffwn ddiolch i Arweinydd y Cyngor a'r holl Aelodau Etholedig eraill am roi eu ffydd ynof fel Prif Weithredwr newydd."
Tîm yn paratoi i ddelio â thywydd y gaeaf
Mae paratoadau ar gyfer tymor cynnal a chadw’r gaeaf sydd i ddod wedi dechrau yn Sir Ddinbych.

Mae paratoadau ar gyfer tymor cynnal a chadw’r gaeaf sydd i ddod wedi dechrau yn Sir Ddinbych.
Mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn paratoi at dywydd gaeafol posibl ar draws y Sir allai amharu ar rwydwaith ffyrdd y rhanbarth.
Mae cerbydau graeanu wrthi’n cael eu gwasanaethau cyn y tymor ac mae gweithwyr wedi cwblhau hyfforddiant pan fo angen hynny. Mae gyrwyr newydd wedi cael eu hychwanegu at rota Cynnal a Chadw’r Gaeaf ochr yn ochr â gyrwyr wrth gefn at y criw sydd eisoes yn gyrru.
Fe fydd y Cyngor hefyd yn defnyddio llai ar y fflyd bresennol o gerbydau graeanu eleni, ac yn defnyddio wyth cerbyd graeanu newydd wedi cael eu harchebu i helpu i gefnogi dyfodol y gwasanaeth.
Mae rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn cwmpasu ffyrdd gwledig sy’n cael eu defnyddio’n anaml yn ogystal â’r ffordd Dosbarth A uchaf yng Nghymru. Mae hefyd yn ymestyn i ffyrdd strategol rhanbarthol hanfodol megis yr A55, a thraciau culion i eiddo anghysbell.
Mae’r rhwydwaith graeanu’n cael ei rannu mewn i naw Llwybr Graeanu â Blaenoriaeth: mae pedwar yn ymdrin â gogledd y Sir, mae tri yn ymdrin â chanol y sir a dau yn ymdrin â de y sir.
Mae’r naw llwybr yma’n cwmpasu tua 950km, ac mewn gwirionedd yn trin 605km o gyfanswm rhwydwaith Sir Ddinbych, sydd yn 1416km.
Wrth gynllunio’r naw llwybr graeanu, fe ystyrir y canlynol: Dyma’r ffyrdd a ystyrir yn Llwybrau Blaenoriaeth Gyntaf i gael eu graeanu pan fo angen gwneud hynny: - Cefnffyrdd yr A55, A5, A494, pob Ffordd Dosbarth 1 a Dosbarth 2, h.y. rhwydwaith ffyrdd A a B.

Ffyrdd pwysig eraill yn y Sir sydd yn lwybrau trwodd sydd â lefelau uchel o draffig; neu’n darparu o leiaf un mynediad i ganolfannau sy’n ymateb i argyfyngau neu’n derbyn derbyniadau argyfwng; Ffyrdd Dosbarth 2 neu 3 y Sir, sydd yn darparu o leiaf un mynediad i drefi a phentrefi.
Darperir cymorth pellach gan gontractwyr amaethyddol allanol yn ystod tywydd gwael ac eira, ac mae’r rhwydwaith yn cael ei rannu mewn i 31 llwybr ychwanegol.
Mae gan Sir Ddinbych dros 1500 o finiau graean ar draws y Sir sydd wedi cael eu hail-lenwi ar ôl y cyfnod diwethaf o dywydd gwael yn y Sir.
Fe fydd y biniau’n cael eu hail-lenwi fel y bo angen y gaeaf hwn ac os byddant yn isel, fe fydd modd adrodd amdanynt ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.
Fel arfer ni fydd troedffyrdd yn cael eu graeanu. Fodd bynnag, rhoddir sylw i rew ac/neu eira ar droedffyrdd mewn ardaloedd trefol cyn gynted â phosibl yn amodol ar argaeledd adnoddau, gan ystyried dwyster uchel y llafur sy’n ymwneud â’r gwaith. Rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd siopa, dynesfeydd ysbytai, cyffiniau ysgolion, colegau, canolfannau iechyd, a sefydliadau sy’n gofalu am bobl oedrannus.
Mae gan depos y Cyngor yng Nghorwen, Rhuthun a Bodelwyddan lefelau isafswm ac uchafswm o stoc o halen sy’n cael ei gynnal, ac mae archebion wedi cael eu gwneud i gyrraedd y lefelau yma cyn cychwyn y tymor.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dwi’n gwybod bod y tîm wedi gweithio’n galed ar draws y Sir y gaeaf diwethaf i gadw ein rhwydwaith ffyrdd ar agor ac yn ddiogel i’w defnyddio, ac rydym ni’n ddiolchgar eu bod nhw’n paratoi eto i gefnogi ein preswylwyr wrth i’r gaeaf agosáu.
“Mae gwaith y staff, sydd yn aml ar alw drwy gydol y nos, i sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio, yn golygu y gall preswylwyr barhau gyda chyn lleied o amharu i’w diwrnod, a bod amwynderau hanfodol yn hygyrch er gwaetha’r tywydd gwael.”