Prosiect Cerdded Dinbych yn derbyn sêl bendith
Mae llwybr cerdded newydd yn Ninbych wedi derbyn sêl bendith gan deulu lleol am gefnogi lles.

Mae llwybr cerdded newydd yn Ninbych wedi derbyn sêl bendith gan deulu lleol am gefnogi lles.
Ymwelodd Betty a Len Devine o Ddinbych, a’u merch Heather Devine y pwynt dechrau ger Siop y Parc ar gyfer y Llwybr Cerdded Lles newydd ar gyfer Dinbych Isaf.
Wedi’i reoli gan y Gwasanaethau Stryd, cymerodd y prosiect ei gamau cyntaf diolch i sicrhau cyllid grant drwy’r Cynllun Swm Gohiriedig Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.
Mae’r llwybr ar draws Dinbych Isaf a Dinbych Canolog yn cynnwys chwech o fannau stopio allweddol lle gall pobl gymryd seibiant ar feinciau cyfeillgarwch newydd sydd wedi’u creu yng Nghynnyrch Coed Meifod sydd wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.
Mae pob mainc yn cynnwys cod QR sydd wedi’i ysgrythu lle gall cerddwyr eu sganio i fynd i dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth iddynt am y natur o amgylch lle maent yn eistedd.
Mae’r llwybr wedi’i ddylunio i wella’r profiad i ymwelwyr mewn lleoliadau allweddol, sy’n ganolog i Sir Ddinbych ac annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, gan wella dealltwriaeth am werth bioamrywiaeth a chadwraeth yr ardaloedd yma a’u gwneud yn hygyrch i bob oed.
Roedd Betty a Len sy’n hoffi cerdded o amgylch Dinbych, wedi cymryd diddordeb yn y prosiect ar ôl cysylltu â’r Cyngor i roi mainc newydd mewn lleoliad a oedd yn bwynt dechrau newydd ar gyfer y llwybr.
Fe wnaethant gwrdd gydag arweinydd y prosiect, Neil Jones, Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, i ddysgu mwy am y llwybr ac i weld y fainc newydd a grëwyd gan Meifod, sydd wedi’i osod yn eu hoff leoliad.
Dywedodd Neil: “Cysylltodd eu merch Heather gyda mi yn gynharach eleni gan fynegi diddordeb mewn rhoi mainc newydd yn Siop y Parc ar ran ei rhieni, gan eu bod wedi eistedd a mwynhau’r hen fainc am gymaint o flynyddoedd,
“Ar y pryd roedd y prosiect yn ei anterth, felly fe soniais wrthi am y prosiect, ac roedd hi wrth ei bodd ac yn edrych ymlaen at weld ei rhieni yn mwynhau eistedd ar y fainc newydd.
Rhoddodd Betty, sy’n hoffi cerdded yn yr ardaloedd ger Brookhouse Mill, ei sêl bendith am roi lle i bobl stopio, cwrdd a mwynhau’r golygfeydd ar y fainc cyfeillgarwch wrth gerdded o amgylch y dref.
“Mae’n syndod faint o bobl hŷn fel fi sy’n mynd allan ac yn defnyddio llefydd fel hyn. Mae’n wych gallu eistedd yma a gwylio popeth sy’n mynd ymlaen,” dywedodd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych clywed cefnogaeth mor gadarnhaol ar gyfer y prosiect gwych hwn gan y gymuned leol ac rwy’n gobeithio y gall Betty a Len fwynhau mynd am dro i brofi’r holl feinciau cyfeillgarwch sydd wedi’u hadeiladu gan Meifod.”
I weld y llwybr, ewch i Taith Gerdded Lles: Dinbych Isaf