Sgiliau crefft traddodiadol yn gweddnewid safle natur ym Mhrestatyn
Mae safle natur ym Mhrestatyn wedi cael ei weddnewid yr hydref hwn gyda sgil traddodiadol i gefnogi bywyd gwyllt lleol.

Mae safle natur ym Mhrestatyn wedi cael ei weddnewid yr hydref hwn gyda sgil traddodiadol i gefnogi bywyd gwyllt lleol.
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi bod yn plygu gwrychoedd ym Mharc Bodnant.
Fe ddatblygwyd y safle yn 2023 yn rhan o Brosiect Creu Coetir y Cyngor i roi cefnogaeth gryfach i natur a’r gymuned gyfagos.
Fe blannwyd bron i 1,500 o goed, yn cynnwys coed perthi ar y safle a oedd yn cynnwys coed ffrwythau, gwrych bywyd gwyllt a choed brodorol wedi’u gosod ymhell oddi wrth ei gilydd i helpu i ddarparu cysgod a chadw lleoliad cynefin y parcdir.
Fe grëwyd pwll hefyd i ddal lefel isel o ddŵr i greu’r amodau perffaith i nifer o rywogaethau ffynnu a gall ymwelwyr â’r safle weld perllan a dôl o flodau bywyd gwyllt yn eu tymor.
Fe blygwyd y gwrychoedd ar y safle ger llinell y coed perllan i helpu i roi hwb i fioamrywiaeth ac i wella edrychiad yr ardal i bobl sydd yn ymweld.

Meddai Matt Winstanley, Ceidwad Cefn Gwlad: “Rydym wedi gweithio’n galed i ailosod a gweddnewid y gwrych yma, cafodd ei blannu gyntaf yn 2019, felly torri hen bren neu bren marw er mwyn gwneud lle i’r boncyffion iau gael eu plannu. Mae hyn yn cael ei wneud bob saith mlynedd fel arfer a bydd yn helpu i barhau i reoli’r gwrych a chynyddu ei oes.
“Mae’r dechneg hon yn gyffredin a ddefnyddir gan dirfeddianwyr i reoli eu ffiniau. Daeth dulliau mecanyddol o gynnal a chadw gwrychoedd yn fwy cyffredin, ond mae astudiaethau wedi dangos bellach bod y dull hŷn hwn yn llawer mwy effeithiol ar gyfer aildyfiant gwrychoedd.
Ychwanegodd: “Wrth i’r gwrychoedd ddod yn fwy ffres ac iau yn eu hymddangosiad, mae’r sgil hefyd yn galluogi i waelod y gwrych i dewychu gan roi cynefin mwy dwys er mwyn i fioamrywiaeth ffynnu.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae gwrychoedd yn gynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt, a bydd y gwaith yma gan y Ceidwaid a gwirfoddolwyr ym Mharc Bodant yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r rôl sydd gan y safle wrth gefnogi natur. Mae’n wych gweld sut mae’r gwaith ychwanegol yma’n rhoi edrychiad ffres i’r safle y bydd aelodau’r gymuned yn ei werthfawrogi wrth gerdded heibio hefyd.”