Mwy na 1,000 o blant Sir Ddinbych yn cymryd rhan yng nghynllun Bwyd a Hwyl
Bu dros 1,000 o blant lleol yn cymryd rhan yng nghynllun Bwyd a Hwyl eleni, rhaglen 12 diwrnod o hyd a gynhaliwyd gan Ysgolion Iach Sir Ddinbych.
Cafodd y cynllun, sy’n addysgu plant am fwyta’n iach ac yn darparu gweithgareddau diddorol i bobl ifanc ar draws y Sir, ei gynnal yn ystod gwyliau’r haf, a bu plant o ysgolion cynradd ac uwchradd Sir Ddinbych yn cymryd rhan.

Fe amrywiodd y gweithgareddau o ddrymio a sesiynau cerddoriaeth i ysgol y goedwig a sgiliau syrcas. Rhoddodd y sesiynau bwyta’n iach y cyfle i blant ddysgu am ddiet cytbwys, trio bwydydd newydd a datblygu sgiliau coginio mewn ffordd hwyliog a diddorol, tra’n datblygu eu gwybodaeth am faeth, ffyrdd o fyw iach a phwysigrwydd cadw’n heini.
Wedi’i lansio yn wreiddiol yng Nghymru yn 2015, cafodd Bwyd a Hwyl ei ddatblygu i fynd i’r afael â phryderon am blant llwglyd dros y gwyliau, arwahanrwydd cymdeithasol a llai o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol yn ystod gwyliau haf ysgolion.
Ers hynny, mae’r rhaglen wedi cefnogi miloedd o blant ar hyd a lled Cymru trwy ddarparu prydau maethlon, gweithgareddau cyfoethogi a phrofiadau cadarnhaol mewn amgylchedd ysgol diogel a chyfarwydd. Pan gynhaliwyd sesiynau mewn ysgolion uwchradd, bu modd i blant ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd yr ysgol, helpu i leddfu pryderon a chefnogi cyfnod pontio cadarnhaol o addysg gynradd i uwchradd.
Dywedodd cynrychiolydd o dîm Ysgolion Iach Sir Ddinbych:
“Mae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn rhaglen Bwyd a Hwyl eleni. O ddysgu sgiliau coginio newydd a thrio bwydydd iach i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cyffrous, mae’r plant a phobl ifanc wedi croesawu pob cyfle.
Nid yn unig mae’r rhaglen wedi cefnogi eu hiechyd a’u lles, ond mae wedi helpu iddynt fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a chreu atgofion dros wyliau’r haf. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cydlynwyr a staff ysgol, partneriaid a gwirfoddolwyr a fu’n helpu i wneud y rhaglen yn gymaint o lwyddiant.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae cynlluniau fel hyn yn helpu plant i ddysgu a deall pwysigrwydd ffordd o fyw iach a phwysigrwydd cadw’n heini.
Cymerodd mwy na 1,000 o blant ran eleni, ac fe hoffwn ddiolch i dîm Ysgolion Iach Sir Ddinbych am eu gwaith caled yn cynnal y sesiynau yma ar hyd a lled ein Sir.”