Wal derfyn well yn Ysgol Pentrecelyn
Mae wal derfyn newydd sbon wedi cael ei gosod mewn ysgol yn ne Sir Dinbych, gan roi edrychiad newydd i flaen yr ysgol.
Yn dilyn archwiliad a ddaeth i’r casgliad bod rhannau o’r strwythur gwreiddiol yn anniogel, tynnwyd y wal wreiddiol at Ysgol Pentrecelyn i lawr, tra bod y gwaith o adeiladu wal newydd yn digwydd.

Fe adeiladwyd y wal newydd yn defnyddio calchfaen a defnyddiwyd tua 50 tunnell o garreg.
Trefnwyd y gwaith ailadeiladu llawn er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar yr ysgol, ac roedd angen cau’r ffordd yn llwyr tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Yn ystod y gwaith, tynnwyd rhan arall o’r wal i lawr, a gosodwyd tarmac yn yr ardal i ehangu’r maes parcio.

Meddai Andrew Evans, Pennaeth Ysgol Pentrecelyn:
“Mae’n bleser gennym weld y wal derfyn newydd yma wedi’i gorffen, ac mae wedi gwella ymddangosiad yr ysgol ac wedi cryfhau’r croeso rydym yn ei roi i ddisgyblion, teuluoedd ac ymwelwyr. Mae’r prosiect yn sicrhau bod y safle’n parhau’n ddiogel tra’n cadw cymeriad ein hysgol a’i lleoliad gwledig trwy ddefnyddio calchfaen traddodiadol.
Fe hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych a phawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni’r prosiect, yn enwedig am drefnu’r prif waith adeiladu yn ystod gwyliau’r haf i amharu cyn lleied â phosibl ar ein disgyblion a’r gymuned. Fe fydd y gwelliannau, yn cynnwys y ddarpariaeth parcio ychwanegol, o fudd enfawr i’r ysgol am sawl blwyddyn i ddod. Mae’r wal derfyn newydd wedi trawsnewid y fynedfa i Ysgol Pentrecelyn ac mae’n ased gwirioneddol i’n hysgol.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych gweld y gwelliant pwysig yma wedi’i gwblhau yn Ysgol Pentrecelyn. Mae’r prosiect newydd yma wedi gwneud y safle’n fwy diogel, wedi gwella’r fynedfa i’r ysgol a chadw cymeriad ei lleoliad gwledig.
Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o gyflawni prosiect o safon uchel a fydd o fudd i’r ysgol am nifer o flynyddoedd i ddod.”
Rysáit ar gyfer gwaith tîm yn Ysgol Dinas Brân!
Yn ddiweddar, cafodd disgyblion TGAU Bwyd a Maeth Ysgol Dinas Brân, Llangollen her goginio gyffrous gan Dîm Cogyddion y Corfflu Logisteg Brenhinol!

Rhoddodd y sesiwn ryngweithiol eu sgiliau ar brawf wrth iddynt gydweithio dan bwysau, heb unrhyw gynhwysion ffres wrth law. Roedd yr her yn ymwneud â llawer mwy na choginio yn unig – roedd angen i’r disgyblion gyfathrebu, dangos sgiliau arwain, datrys problemau a meddwl yn greadigol, gan addasu i sefyllfaoedd oedd yn newid, mewn awyrgylch hwyliog a chystadleuol.

Aeth y ddau ddosbarth ati i wynebu’r her yn wych, gan ddangos gwaith tîm, gwydnwch a chreadigrwydd arbennig wrth baratoi eu seigiau yn erbyn y cloc.

Dywedodd Miss King, Pennaeth Bwyd a Maeth yr ysgol: “Roedd gwaith tîm a phroffesiynoldeb y disgyblion, yn ogystal ag ansawdd y seigiau y llwyddon nhw i’w creu dan bwysau amser a heb gynhwysion ffres, wedi creu argraff fawr arnaf. Roedd yn ddiwrnod gwych!”
Roedd y profiad yn gyfle gwych i’n disgyblion roi eu sgiliau ar waith, magu hyder a datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr a fydd yn eu helpu yn eu hastudiaethau yn y dyfodol – wrth gael llawer o hwyl ar yr un pryd!

Disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan yn rhannu neges bwysig am bresenoldeb yn yr ysgol
Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan wedi rhoi cynnig ar fod yn gyflwynwyr newyddion er mwyn helpu i ledaenu neges bwysig am werth dod i’r ysgol bob dydd.
Cyn gwyliau’r haf, bu Miss Glover yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 i greu fideo ar ffurf rhaglen newyddion, gan atgoffa disgyblion a theuluoedd o bwysigrwydd mynychu’r ysgol yn rheolaidd, cyrraedd ar amser ac, lle bo modd, osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.
Gwnaeth y disgyblion waith gwych ac mae’r ysgol yn hynod falch o’r fideo gorffenedig – ac o’r neges bwysig y maent wedi’i rhannu.
Yn Ysgol Gymraeg Henllan, mae presenoldeb da yn flaenoriaeth allweddol. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn rhoi cyfle i blant ddysgu, datblygu cyfeillgarwch, magu hyder a chymryd rhan yn y llu o weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ysgol.
Mae gwella presenoldeb hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, gyda’r ysgolion a’r partneriaid yn cydweithio i gefnogi plant a theuluoedd a helpu i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.
Mae’r ysgol yn deall bod gwyliau teuluol yn gyfle pwysig i dreulio amser gyda’n gilydd a chreu atgofion. Fodd bynnag, gall mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol olygu bod plant yn colli dysgu gwerthfawr a gall amharu ar eu trefn ddyddiol.
Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn bwysig, ac mae’r ysgol yn annog teuluoedd i wneud y gorau o gyfnodau gwyliau’r ysgol lle bo modd, yn hytrach na gofyn am ganiatâd i gymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.
Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion, staff a rhieni a fu’n rhan o’r gwaith o greu’r fideo – rydyn ni’n meddwl eu bod wedi gwneud gwaith AMAZING!
Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth Ysgol Gymraeg Henllan:
“Mae presenoldeb rheolaidd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn hynod falch o’n disgyblion Blwyddyn 6 am yr ymdrech y maent wedi’i rhoi i greu’r fideo hwn ac am rannu neges mor bwysig gyda’n cymuned ysgol.
“Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau ei wylio gymaint ag y gwnaethom ni ei fwynhau wrth ei greu!”
Gallwch wylio'r fideo drwy glicio ar y ddolen yma, a fydd yn mynd a chi i dudalen Facebook yr ysgol.