Wal derfyn well yn Ysgol Pentrecelyn
Mae wal derfyn newydd sbon wedi cael ei gosod mewn ysgol yn ne Sir Dinbych, gan roi edrychiad newydd i flaen yr ysgol.
Yn dilyn archwiliad a ddaeth i’r casgliad bod rhannau o’r strwythur gwreiddiol yn anniogel, tynnwyd y wal wreiddiol at Ysgol Pentrecelyn i lawr, tra bod y gwaith o adeiladu wal newydd yn digwydd.

Fe adeiladwyd y wal newydd yn defnyddio calchfaen a defnyddiwyd tua 50 tunnell o garreg.
Trefnwyd y gwaith ailadeiladu llawn er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar yr ysgol, ac roedd angen cau’r ffordd yn llwyr tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Yn ystod y gwaith, tynnwyd rhan arall o’r wal i lawr, a gosodwyd tarmac yn yr ardal i ehangu’r maes parcio.

Meddai Andrew Evans, Pennaeth Ysgol Pentrecelyn:
“Mae’n bleser gennym weld y wal derfyn newydd yma wedi’i gorffen, ac mae wedi gwella ymddangosiad yr ysgol ac wedi cryfhau’r croeso rydym yn ei roi i ddisgyblion, teuluoedd ac ymwelwyr. Mae’r prosiect yn sicrhau bod y safle’n parhau’n ddiogel tra’n cadw cymeriad ein hysgol a’i lleoliad gwledig trwy ddefnyddio calchfaen traddodiadol.
Fe hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych a phawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni’r prosiect, yn enwedig am drefnu’r prif waith adeiladu yn ystod gwyliau’r haf i amharu cyn lleied â phosibl ar ein disgyblion a’r gymuned. Fe fydd y gwelliannau, yn cynnwys y ddarpariaeth parcio ychwanegol, o fudd enfawr i’r ysgol am sawl blwyddyn i ddod. Mae’r wal derfyn newydd wedi trawsnewid y fynedfa i Ysgol Pentrecelyn ac mae’n ased gwirioneddol i’n hysgol.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych gweld y gwelliant pwysig yma wedi’i gwblhau yn Ysgol Pentrecelyn. Mae’r prosiect newydd yma wedi gwneud y safle’n fwy diogel, wedi gwella’r fynedfa i’r ysgol a chadw cymeriad ei lleoliad gwledig.
Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o gyflawni prosiect o safon uchel a fydd o fudd i’r ysgol am nifer o flynyddoedd i ddod.”