Gradd, gyrfa a lle i’w alw’n gartref: Hanes prentisiaeth Alfie
Eisteddodd Llais y Sir i lawr gydag Alfie i ddysgu am ei lwybr gyrfaol a gafodd hwb drwy ei swydd gyda Thîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych.

Deuddydd ar ôl gorffen ei draethawd hir, symudodd Alfie Jones mewn i’w gartref ei hun. Roedd hi’n garreg filltir bersonol oedd yn bosibl meddai o, yn dilyn penderfyniad ar ôl ei Lefel A: i weithio tuag at radd tra’n ennill cyflog trwy brentisiaeth mewn maes newydd sy’n tyfu.
Eisteddodd Llais y Sir i lawr gydag Alfie i ddysgu am ei lwybr gyrfaol a gafodd hwb drwy ei swydd gyda Thîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych.
Ar ôl tyfu i fyny yng Nghefn-mawr, fe aeth Alfie i’r ysgol yn Rhiwabon cyn astudio ei Lefel A yng Ngholeg Cambria. Roedd o’n gwybod ei fod eisiau gradd, ond doedd y llwybr prifysgol traddodiadol ddim yn teimlo’n iawn iddo fo. Tra bod rhai o’i gyfeillion eisoes yn dechrau prentisiaethau, fe ddechreuodd chwilio am ei gyfle ei hun.
Cafodd gyfle yng Nghyngor Sir y Fflint trwy brentisiaeth datblygu tai, lle cafodd gyflwyniad i broffesiwn nad oedd yn gwybod fawr amdano cyn hynny.
Ynghyd â’r swydd, fe aeth i Brifysgol Wrecsam unwaith yr wythnos, gan astudio ynni adnewyddadwy mewn datblygiadau tai newydd a mesurau i wella effeithlonrwydd ynni.
Deunaw mis ar ôl cychwyn y brentisiaeth, roedd swydd Swyddog Ynni yng Nghyngor Sir Ddinbych yn gyfle i ddod â’i astudiaethau a’i waith o ddydd i ddydd yn nes at ei gilydd. Bu’n drobwynt.
Fe eglurodd Alfie fod y swydd yn llawer agosach at ei waith yn y brifysgol. “Fe ddechreuodd pethau glicio a bu gwelliant mawr yn fy ngraddau.”
Roedd y manteision yn ymestyn y tu hwnt i waith cwrs. Roedd ennill cyflog tra’n astudio yn gymorth iddo allu dod yn berchen ar gartref, gan roi arwyddocâd y tu hwnt i’r cymhwyster ei hun i’w ddewis o lwybr gyrfaol.
“Yn y pendraw y brentisiaeth gradd yw’r hyn a alluogodd i mi brynu fy nghartref fy hun oherwydd petawn i wedi dilyn y llwybr traddodiadol, fyddwn i heb fod yn ennill dim.
O fewn Tîm Ynni Sir Ddinbych, daeth ei astudiaethau yn rhan o’r wythnos weithio yn hytrach na rhywbeth ar wahân iddo. Roedd ei reolwr mewn cysylltiad â darlithwyr ac arweinwyr cwrs, tra bod Swyddog arall yn astudio’r un cwrs flwyddyn o danodd ac mae o bellach yn ei drydedd flwyddyn.
Wrth i bob modiwl ddechrau, edrychodd y tîm ar y briff aseiniad a chwilio am gyfleoedd i Alfie gael profiad perthnasol ar y safle. Roedd y cysylltiad yn help iddo roi’r hyn yr oedd wedi’i ddysgu ar waith a gwella ei farciau.
“Bob tro y byddai modiwl yn dod i fyny, byddem yn gofyn am gael gweld y briff aseiniad neu beth yw’r asesiad, a byddai’n ceisio fy anfon allan i safle i wneud pethau fyddai’n fy ngalluogi i gael marciau gwell, a dyna ddigwyddodd yn y pendraw.”
Ar gyfer aseiniadau oedd yn cynnwys adroddiadau ymgynghori, roedd hynny’n golygu archwilio defnydd ynni adeilad ac ystyried y gwahaniaeth y gallai mesurau megis paneli solar, ffenestri newydd a goleuadau LED eu gwneud. Cafwyd sail ymarferol i’r adroddiadau yma trwy fynediad i safleoedd y Cyngor, data ynni a gwybodaeth ymarferol.
“Yr hyn a alluogodd i mi gael graddau gwell yn y Brifysgol oedd fy mod wedi cael mynediad at y data a’r safleoedd yma,” meddai.
Mae o’n parhau i ddysgu yn ei rôl fel Swyddog Ynni. Mae ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn cynnwys cynhyrchu tystysgrifau arddangos ynni y Cyngor, gosodiadau mesuryddion newydd a chadw trac ar filiau papur. Ynghyd â’r tasgau hynny, mae prosiectau llai wedi rhoi cyfleoedd iddo gael profiad.
Mae un prosiect yn benodol yn sefyll allan: gwaith yn Ysgol Bro Dyfrdwy ar ôl i’w system rheoli adeilad fethu. Fe ymwelodd Alfie â’r ysgol, ymchwilio i’r broblem a chysylltu â’r contractwr, gan helpu iddo drefnu system newydd.
Gan weithio gyda phlymwr yn Ninbych, cafodd hefyd brofiad yn gwella system wresogi’r ysgol, yn cynnwys ei phedwar parth gwresogi, i helpu i reoli defnydd ynni’n fwy effeithiol. Cafwyd gwres ychwanegol yn yr ardal sy’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned yn sgil ymestyn capasiti’r system wresogi.
Pan ofynnwyd am ei uchafbwynt hyd yn hyn, fe soniodd Alfie am y cyfle cynnar i ymgymryd â phrosiect hyd at y diwedd.
“Ysgol Bro Dyfrdwy mae’n siŵr. Wnes i wir fwynhau hynny,” meddai. “O fewn y 10 mis cyntaf, fe wnes i lawer o brosiectau.”
Mae o hefyd wedi gwneud gwaith yn y Rhyl, lle cafodd brofiad yn gwella darpariaeth gwresogi llyfrgell y dref. Mae o hefyd yn gweithio gyda’r tîm ar gynnig i wahanu’r mesurydd nwy yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Rhyl, gan eu bod nhw’n rhannu mesurydd ar hyn o bryd.
“Rydym ni’n ystyried gosod is-fesurydd er mwyn i ni fesur beth mae pob safle yn ei ddefnyddio er mwyn gallu cael biliau mwy cywir,” eglurodd.
Mae gwaith ehangach y tîm yn cynnwys prosiectau PV solar ar adeiladau’r Cyngor i leihau dibyniaeth ar drydan o’r grid a lleihau costau hirdymor. Trwy brosiectau pyrth ceir solar yn Neuadd y Sir a Thŷ Russell, mae Alfie wedi gallu dysgu gan gydweithwyr a chyfrannu ei farn.
Mae’r cyflwyniad graddol hwnnw i waith prosiect wedi rhoi amser iddo ddatblygu heb orfod gwneud popeth ar unwaith. “Mae hi’n wych fy mod yn cael prosiectau yn raddol,” meddai, gan ddisgrifio manteision rheoli llwyth gwaith.
Ac yntau bellach wedi gorffen ei radd, mae Alfie yn edrych tua’r dyfodol. Fe hoffai symud ymlaen i swydd Swyddog Lleihau Carbon, er fe allai’r cyfle nesaf ddibynnu ar ydi’r tîm yn ehangu ai peidio. I Alfie, mae gwybod bod yna lwybr ymlaen yn bwysig.
“Yr hyn dwi’n ei hoffi am ‘fama yw’r llwybr gyrfaol amlwg. Mae’r graddau gyrfaol yn cael eu strwythuro ar brofiad a chymhwyster. Mae yna strwythur clir.”
Gan edrych yn ôl ar ddiwedd ei Lefel A, mae o’n cofio cyn lleied yr oedd yn ei wybod am y diwydiant y byddai’n ymuno ag o. Trwy hap a damwain y daeth o hyd i brentisiaeth yn Sir y Fflint meddai, ond mae o’n credu bod cyfleoedd o’r fath yn dod yn fwy pwysig.
Ei gyngor o i bobl eraill sy’n ystyried eu cam nesaf yw cadw llygad am brentisiaethau gradd a chydnabod nad oes rhaid i radd olygu dewis rhwng astudio ac ennill cyflog.
I Alfie, fe arweiniodd y dewis hwnnw at gymhwyster, gyrfa mae o eisiau ei ddatblygu a’i gartref ei hun.
“Rydych chi’n dysgu tra’ch bod yn ennill cyflog, felly mae’r dewis yn amlwg.”