Cabinet i ystyried newidiadau i daliadau am gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu
Ar 17 Tachwedd, bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod cynnig i newid y polisi ar gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu. Mae’r cynnig yn cynnwys:
- Caniatáu i bob preswylydd gyfnewid bag cardfwrdd glas a chadi bwyd oren o leoliadau dethol (Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i ddechrau); a
- Chaniatáu i aelwydydd ar y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor archebu un cynhwysydd ailgylchu am ddim y flwyddyn. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw gynhwysydd ailgylchu, nid bagiau cardfwrdd glas a chadis bwyd oren yn unig.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
"Rwyf wedi clywed pryderon preswylwyr ynghylch y bagiau ailgylchu cardfwrdd glas, ac rwy’n cydnabod eu rhwystredigaeth pan godir tâl am fag newydd. Rwy’n gwybod bod pobl ledled Sir Ddinbych eisiau cefnogi ymdrechion ailgylchu ein sir, felly rwyf am eu helpu drwy edrych ar opsiynau ymarferol sy’n ei gwneud yn haws ac yn rhatach i aelwydydd barhau i wneud eu rhan."
I weld papurau perthnasol y Cabinet am daliadau cynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu, ewch yma .