Cerbydau trydan yn pweru patrolau parcio mwy gwyrdd yn Sir Ddinbych
Bydd gwasanaeth y Cyngor yn rhedeg fflyd fwy gwyrdd i helpu i leihau ei ôl-troed carbon yn ystod oriau gwaith.

Bydd gwasanaeth y Cyngor yn rhedeg fflyd fwy gwyrdd i helpu i leihau ei ôl-troed carbon yn ystod oriau gwaith.
Mae Tîm Gorfodi Parcio Cyngor Sir Ddinbych wedi cael dau gerbyd trydan Toyota Urban Cruiser i gefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.
Mae’r cerbydau newydd hyn yn rhan o waith parhaus Gwasanaethau Fflyd y Cyngor i symud at lai o ddibyniaeth ar gerbydau sy’n llosgi tanwydd lle y bo’n briodol i helpu i dorri lawr ar gostau rhedeg a chynnal a chadw a llai o allyriadau carbon cyffredinol.
Ar ôl i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019, mae’r Gwasanaethau Fflyd wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.
Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, defnyddio systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.
Bydd y cerbydau, sy’n gallu teithio hyd at 260 milltir cyn bod angen eu gwefru, yn cefnogi’r tîm gorfodi wrth batrolio strydoedd a meysydd parcio’r Cyngor er mwyn gorfodi cyfyngiadau parcio, helpu i gadw llif traffig yn symud a sicrhau bod gofodau parcio yn hygyrch.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y cerbydau hyn yn helpu staff gorfodi â’r gwasanaeth y mae angen iddynt ei ddarparu wrth ddarparu milltiroedd mwy gwyrdd i’r tîm, gan leihau costau hirdymor o ran milltiroedd a gwaith cynnal a chadw rheolaidd.”