Cydnabyddiaeth gan wobr genedlaethol i Wasanaethau Arlwyo

Mae Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych ar y rhestr fer ar gyfer “Perfformiwr Gorau” a’r “Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Gwella Fwyaf” drwy raglen meincnodi Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n tynnu sylw at waith rhagorol timau arlwyo ysgolion ledled y sir.
Cyflwynir y gwobrau hyn drwy Rwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus, un o wasanaethau meincnodi llywodraeth leol arweiniol y DU.
Mae Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus yn galluogi cynghorau i gymharu ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau rheng flaen yn erbyn awdurdodau lleol eraill ledled y DU, gan ddarparu asesiad annibynnol o berfformiad a gwelliant parhaus.
Mae’r ddwy gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu’r cynnydd sylweddol gan Wasanaethau Arlwyo Sir Ddinbych i ddarparu prydau ysgol maethlon o safon uchel wrth gynnal safonau gwasanaeth rhagorol a chyflawni perfformiad cryf yn erbyn meincnodau cenedlaethol.
Meddai Hayley Jones, Prif Reolwr y Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gyflawniad anferthol sy’n adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad ein timau arlwyo sy’n gweithio mewn ysgolion bob dydd. Mae cael ein cydnabod fel y Perfformiwr Gorau a’r Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Gwella Fwyaf yn y categorïau hyn yn arwydd o’n pwyslais ar welliant parhaus wrth ddarparu prydau maethlon o ansawdd uchel sy’n cefnogi iechyd a lles disgyblion.”
Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Ddinbych yn darparu miloedd o brydau i ddisgyblion bob dydd ac mae wedi parhau i arloesi ac addasu i fodloni galwadau sy’n newid. Mae’r gwasanaeth wedi canolbwyntio ar wella ansawdd prydau, sicrhau bod mwy yn cymryd prydau ysgol, cefnogi menter Bwyta'n Iach mewn Ysgolion gan Lywodraeth Cymru, hyrwyddo bwyta’n iach a sicrhau gwerth am arian i ysgolion, disgyblion a theuluoedd.
Mae llwyddiant y gwasanaeth wedi cael ei lywio gan ymroddiad y tîm rheoli arlwyo, Cogyddion a Chynorthwywyr Arlwyo ledled y sir, wedi’i gefnogi gan gydweithio agos gydag ysgolion a phenderfynoldeb ar y cyd i ddarparu’r profiad gorau bosibl i ddisgyblion Sir Ddinbych.
Mae cydnabyddiaeth Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod perfformiad cyffredinol cryf y gwasanaeth ond hefyd y gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diweddar, sy’n arwydd o ymroddiad Sir Ddinbych i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.
Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwasanaeth am y gydnabyddiaeth hon. Mae cael eu cydnabod yn genedlaethol yng nghategorïau'r Perfformiwr Gorau a’r Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Gwella Fwyaf yn arwydd o waith caled ein timau arlwyo a’u heffaith bositif ar ysgolion ledled Sir Ddinbych bob dydd.”