Cyngor Sir Ddinbych a Hamdden Sir Ddinbych yn dangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn
Bydd adeiladau ledled Sir Ddinbych yn cael eu goleuo’n wyn wrth i’r Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych ddangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mercher, 25 Tachwedd.

Bydd yr ymgyrch yn gweld adeiladau Hamdden Sir Ddinbych yn cael eu goleuo’n wyn er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch a dangos ymrwymiad ar y cyd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Bydd baner y Rhuban Gwyn hefyd yn cael ei chodi yn Neuadd y Sir, Rhuthun, i nodi'r diwrnod.
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn gyfle blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd atal trais yn erbyn menywod a merched ac annog newidiadau cadarnhaol mewn agweddau ac ymddygiad.
Thema Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yw ‘Mae angen pob un ohonom’, gan dynnu sylw at y ffaith bod gan bawb rôl i’w chwarae wrth herio rhywiaeth, casineb at fenywod ac ymddygiad niweidiol, a helpu i greu cymdeithas lle mae menywod a merched yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu.
Mae’r ymgyrch hefyd yn annog dynion a bechgyn i fod yn gynghreiriaid gweithredol drwy herio agweddau ac ymddygiad annerbyniol, codi llais pan fyddant yn gweld rhywiaeth neu gasineb at fenywod, a helpu i hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol sy’n seiliedig ar gydraddoldeb a pharch.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych:
“Mae goleuo ein hadeiladau’n wyn yn ffordd weladwy i Hamdden Sir Ddinbych ddangos ein cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a helpu i godi ymwybyddiaeth o fater sy’n effeithio ar fenywod a merched ledled ein cymunedau.
“Mae gan bawb gyfrifoldeb i helpu i greu amgylcheddau diogel a chroesawgar, boed hynny yn ein gweithleoedd, ein cyfleusterau hamdden neu ein cymunedau ehangach. Rydym am annog sgyrsiau, herio ymddygiad annerbyniol a’i gwneud yn glir na ddylid byth oddef trais yn erbyn menywod a merched.
“Rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon a chwarae ein rhan i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:
“Ni ddylid byth dderbyn nac anwybyddu trais yn erbyn menywod a merched. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n cyfrannu ato, ac wrth greu cymunedau lle mae menywod a merched yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
“Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn gyfle pwysig i ddangos ein cefnogaeth, codi ymwybyddiaeth ac atgoffa pobl bod newid ystyrlon yn dechrau gyda gweithredoedd bob dydd. Boed hynny’n herio sylwadau amhriodol, codi llais yn erbyn rhywiaeth neu gefnogi rhywun sydd angen cymorth, mae pob gweithred yn cyfrif.
“Rwy’n falch o weld y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r ymgyrch hon ac atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu Sir Ddinbych sy’n fwy diogel ac yn fwy parchus.”
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a sut i gymryd rhan, ewch i www.whiteribbon.org.uk.
Sut i gael cymorth:
- Os ydych chi, eich plentyn neu unrhyw un yn eich teulu mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu ar frys - ffoniwch 999
- Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig, gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 nawr neu ewch i’r wefan https://llyw.cymru/byw-heb-ofn.
- Mae cymorth ar gael 24/7
#DiwrnodYRhubanGwyn #GwnewchYrAddewid #DimEsgusAmGam-drin