Cyngor yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Stryd Fawr Prestatyn
Gall y Cyngor gadarnhau bod dyluniad wedi cael ei greu ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn.

Gall y Cyngor gadarnhau bod dyluniad wedi cael ei greu ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn.
Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.
Cafodd y cynigion eu siapio drwy ymgysylltu ac ymgynghori helaeth gyda phreswylwyr, busnesau, aelodau etholedig a budd-ddeiliaid eraill ers mis Ebrill 2025.
Cyflwynodd Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych, ynghyd ag aelodau o’r tîm prosiect a thîm dylunio y dyluniadau arfaethedig diweddaraf i Gynghorwyr ac aelodau Cabinet Cyngor Sir Ddinbych mewn cyfarfod diweddar.
Gan weithio’n agos gyda budd-ddeiliaid lleol, mae’r dyluniad terfynol wedi cael ei lunio gan ymateb i bryderon a fynegwyd ynglŷn â mynediad a pharcio ar y Stryd Fawr, ac o ganlyniad, mae yna gynnydd net yn y mannau parcio ar draws ardal y cynllun yn y dyluniad terfynol.
Yn dilyn pryderon a fynegwyd gan breswylwyr a budd-ddeiliaid ynglŷn â diogelwch cerddwyr a hygyrchedd ar hyd Stryd Fawr Prestatyn, mae’r trefniadau croesi arfaethedig ar Ffordd Penisardre a Ffordd y Bont hefyd wedi cael eu hadolygu a’u newid i ddarparu llwybrau diogel a chyfleus i gerddwyr. Mae’r newidiadau yma hefyd yn mynd i’r afael ag elfennau o osodiad y Stryd Fawr bresennol nad ydynt yn cwrdd â safonau hygyrchedd a dyluniad stryd fawr presennol, gan sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â gofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ac arferion gorau presennol.
Yn rhan o’r gwelliannau i barth cyhoeddus, mae cynigion plannu yn cael eu datblygu, ac mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer planhigion lluosflwydd newydd drwy botiau plannu a phlanhigion ychwanegol ar gyfer y potiau plannu dwy haen sy’n cael eu rheoli gan Gyngor Tref Prestatyn ar y Stryd Fawr ar hyn o bryd.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Threchu Amddifadedd:
“Fe hoffem ddiolch i bawb sydd wedi treulio amser yn ymgysylltu â’r prosiect hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r gymuned wrth i’r cynllun symud i gam nesaf y datblygiad. Tra ein bod yn cydnabod pryderon rhai preswylwyr ynglŷn â’r cynllun, rydym wedi gweithio’n galed i greu dyluniad sydd yn delio â’u pryderon.
“Mae’r adborth a gafwyd trwy gydol y broses hon wedi chwarae rôl hollbwysig wrth ddatblygu’r dyluniad a thrwy sicrhau bod barn leol wedi cael ei ystyried ym mhob cam. Mae’r dyluniadau diweddaraf yn adlewyrchu’r sgyrsiau rydym ni’n eu cael gyda phreswylwyr ac mae hynny wedi golygu bod y ddarpariaeth parcio sy’n gysylltiedig â’r cynllun bellach wedi cynyddu.
“Rydym ni hefyd wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda phartïon eraill sydd â diddordeb megis trefnwyr y carnifal a sioe geir er mwyn sicrhau y gall eu digwyddiadau barhau o dan y cynllun newydd.
“Mae ein ffocws yn parhau ar gyflwyno cynllun sydd yn gwella ymddangosiad, hygyrchedd a safon gyffredinol Stryd Fawr Prestatyn, gan greu canol y dref sydd yn fwy deniadol, croesawgar a bywiog i breswylwyr busnesau ac ymwelwyr”.
I weld y dyluniadau diweddaraf, cliciwch yma neu i gael mwy o wybodaeth am brosiect parth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn, cliciwch yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r dyluniad terfynol, e-bostiwch corporateprogrammeoffice@denbighshire.gov.uk.