Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd i'r cyngor

Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd ar gyfer gweddill y flwyddyn fwrdeisiol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd ar gyfer gweddill y flwyddyn fwrdeisiol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

Yn dilyn y newid diweddar yn y cabinet, daeth cyn-Gadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Bobby Feeley, yn Aelod Arweiniol newydd dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Ymgysylltu â'r Gymuned, gan adael swydd Cadeirydd y cyngor yn wag.

Gan fod gan y cyngor ddyletswydd statudol i gael cadeirydd, etholwyd y Is-gadeirydd presennol, y Cynghorydd Peter Scott, yn Gadeirydd newydd y cyngor yng nghyfarfod llawn y cyngor, ac etholwyd y cyn Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Barry Mellor, yn Is-gadeirydd newydd.

Yn siarad ar ôl ei benodiad, dywedodd y Cynghorydd Peter Scott:

“Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych. Ar ôl gwasanaethu fel Is-gadeirydd, rwy'n edrych ymlaen at ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn a gweithio gyda'r Cynghorydd Barry Mellor, yn ei rôl fel Is-gadeirydd, am weddill y flwyddyn fwrdeisiol.

"Hoffwn hefyd ddiolch i’r Cynghorydd Bobby Feeley am ei gwasanaeth fel Cadeirydd, a dymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd. Edrychaf ymlaen at gynrychioli’r cyngor a gwasanaethu pobl Sir Ddinbych”.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw