Gwaith ail-wynebu ar fin dechrau ar Sgwâr Sant Pedr
Mae gwaith ail-wynebu ar fin dechrau wrth i brosiect Sgwâr St Pedr symud yn ei flaen.

Mae gwaith ail-wynebu ar fin dechrau wrth i brosiect Sgwâr St Pedr symud yn ei flaen.
Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Bydd gwaith ail-wynebu yn cael ei wneud ar Sgwâr Sant Pedr a Stryd y Ffynnon o ddydd Mercher 18 Tachwedd i ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, yn ystod y nos rhwng 6:30yh a 5:00yb.
Bydd Cwmni Adeiladwaith OBR yn gwneud y gwaith yn ystod y nos, pan fydd lefelau traffig ar eu hisaf, er mwyn lleihau'r tarfu ar ddefnyddwyr ffyrdd. Yn y cyfamser, bydd mesurau rheoli traffig dros dro, cau ffyrdd a chyfyngiadau ar barcio ar y stryd yn weithredol tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.
Rhaid cwblhau'r gwaith ail-wynebu er mwyn i'r contractwr allu gorffen y gwaith a gadael y safle cyn cyfnod y Nadolig, fel y cytunwyd ar ddechrau'r rhaglen. Bydd y gwaith yn ailddechrau ar 4 Ionawr, a disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027.
Gall preswylwyr siarad â Swyddog Cyswllt y Cyhoedd OBR yn yr Hen Lys bob dydd Mawrth, neu gysylltu drwy e-bost, i drafod pryderon, cael diweddariadau am waith sydd ar y gweill, a cheisio cymorth gydag unrhyw faterion lle bo hynny'n bosibl.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Threchu Amddifadedd:
“Mae Sgwâr Sant Pedr yng nghalon Rhuthun, ac mae’r prosiect hwn yn gyfle i wella’r amgylchedd a chefnogi bywiogrwydd hirdymor y dref. Mae’r gwaith ail-wynebu yn gam hanfodol tuag at gwblhau’r gwelliannau, a bydd cynnal y gwaith dros nos yn helpu i leihau’r tarfu.
“Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith yn achosi rhywfaint o anghyfleustra, ac rydym yn diolch i fusnesau lleol, preswylwyr ac ymwelwyr am eu hamynedd. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect yn helpu i greu canol tref sy’n fwy croesawgar, gan annog pobl i dreulio amser yn y sgwâr, archwilio siopau a busnesau lletygarwch Rhuthun, a mwynhau popeth sydd gan y dref i’w gynnig”.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma. Gellir cyfeirio unrhyw faterion at y Swyddog Cyswllt â'r Cyhoedd RuthinEnquiries@obrconstruction.com neu at Dîm y Prosiect swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk . Bydd OBR yn dosbarthu llythyrau i'r holl drigolion yr effeithir arnynt.