Gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ffyrdd Sir Ddinbych
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir, mae’r gwaith cyntaf fod i ddechrau ar 23 Tachwedd 2026

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir, mae’r gwaith cyntaf fod i ddechrau ar 23 Tachwedd 2026.
Bydd y gwaith yma’n cynnwys gwagio gylïau, ysgubo a chynnal a chadw arwyddion. Bydd traffig yn cael ei reoli drwy ddefnyddio byrddau Stop/Go ac mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi ac amhariad.
Mae’r gwaith sydd wedi’i drefnu yn dibynnu ar amodau’r tywydd ac fe allai gael ei ohirio ar fyr rybudd os bydd y tywydd yn wael.
Y gwaith sydd wedi’i drefnu yw:
- A539 Ffordd Llangollen at ffin y Sir yn dechrau 23.11.26 am hyd at 5 diwrnod
- A525 Ffordd Uchaf Dinbych at gylchfan Tŷ Coch yn dechrau 07.12.26 am hyd at 5 diwrnod
- A5104 o gylchfan Tafarn Dywyrch i’w chyffordd gyda A494 yn dechrau 14.12.26 am hyd at 5 diwrnod
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fe fydd y gyfres o waith hanfodol yma’n gwella’r llwybrau yma i breswylwyr a busnesau lleol. Fe hoffem ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd yma am eu cefnogaeth a’u hamynedd tra’n bod yn gwneud y gwaith pwysig yma.”
“Fe wnawn ni bob ymdrech i orffen y gwaith sydd wedi’i gynllunio mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar ein preswylwyr.”