Gwaith i ddechrau ar do newydd ar gyfer Sinema’r Strand, y Rhyl

Mae gwaith am ddechrau ar do newydd ar gyfer Sinema’r Strand yn y Rhyl, a fydd yn sicrhau dyfodol un o leoliadau hamdden mwyaf adnabyddus y dref.

Mae gwaith am ddechrau ar do newydd ar gyfer Sinema’r Strand yn y Rhyl, a fydd yn sicrhau dyfodol un o leoliadau hamdden mwyaf adnabyddus y dref.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Twf Lleol, gydag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae’r adeilad yn eiddo i’r Cyngor, ac mae’n cael ei brydlesu i Merlin Cinemas, a bydd tîm Cynnal a Chadw Adeiladau yn rheoli’r prosiect.

Mae’r gorchudd to presennol wedi cyrraedd diwedd ei oes a bu’n rhaid ei atgyweirio sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd contractwr o ogledd Cymru, BrynBuild, yn newid y gorchudd presennol am system alwminiwm asiad sefyll modern. Bydd y to newydd yn gwella perfformiad thermol yr adeilad ac mae’n dod gyda gwarant hirdymor y gwneuthurwr.

Penodwyd BrynBuild drwy Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru; bydd y gwaith yn dechrau’n fuan mewn partneriaeth â Frame Four a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn nechrau 2027.

Bydd y sinema’n dal i fod yn agored yn ôl yr arfer drwy gydol yr amser pan wneir y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cyllid, Asedau a’r Economi Leol: “Mae’r Strand yn rhan o lan môr y Rhyl ac yn fan i deuluoedd lleol ac ymwelwyr fwynhau. Mae’r buddsoddiad hwn, a wnaed yn bosibl drwy’r Gronfa Twf Lleol, yn golygu y bydd yr adeilad yn cael ei ddiogelu am flynyddoedd i ddod, a gall y sinema barhau i fasnachu tra mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eu cefnogaeth, ac i Merlin Cinemas am weithio gyda ni ar y prosiect.”

Dywedodd Chris Wilkes o Merlin Cinemas: “Rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth frwdfrydig a dderbyniwyd ers ailagor y Strand – gan bobl yn y Rhyl ac ymwelwyr i lan y môr. Mae to newydd yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol y sinema, ac rydym yn ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am wneud i hyn ddigwydd. Cynlluniwyd y gwaith hwn fel y gall y sinema aros yn agored yn ôl yr arfer drwy gydol cyfnod y gwaith, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb am flynyddoedd i ddod.”

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw