Prosiect Cyflogwyr Cynhwysol yn helpu cyflogwyr lleol gyda’u recriwtio

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn elwa ar gymorth AD arbenigol wedi’i ariannu’n llawn i’w helpu i ddenu, recriwtio a chadw staff.

Mae’r Prosiect Cyflogwyr Cynhwysol yn cael ei gyflawni gan Sir Ddinbych yn Gweithio ar ran cynllun Peilot Arloesi Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw cefnogi 20 o fusnesau lleol i drawsnewid eu dulliau recriwtio er mwyn eu gwneud yn fwy cynhwysol a sicrhau eu bod yn hygyrch i ystod ehangach o bobl sy’n chwilio am waith.

Mae rhedeg busnes yn golygu bod angen cydbwyso blaenoriaethau a delio â phwysau ariannol. Mae’r Prosiect wedi bod yn helpu busnesau i ganolbwyntio ar wneud newidiadau ymarferol sy’n addas i’w busnes, er mwyn iddynt allu denu, recriwtio a chadw staff. Mae hyn nid yn unig yn arbed amser ac arian iddynt, ond hefyd yn eu galluogi i ddatblygu dull recriwtio mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:

“Mae agor cyfleoedd gwaith i ystod ehangach o bobl sy’n chwilio am waith, yn enwedig pobl sydd am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn sâl neu ar ôl cyfnod hir yn gofalu am rywun, neu bobl sydd â nam, yn golygu bod ein busnesau nid yn unig yn gallu dod o hyd i dalent leol y gallent fod wedi’i cholli fel arall, ond eu bod hefyd yn cyrraedd pobl sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac sy’n ei chael hi’n anodd gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.”

Os ydych yn fusnes yn Sir Ddinbych ac yn awyddus i recriwtio ar hyn o bryd, ond y gallai rhywfaint o gymorth fod o fudd i chi, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cysylltwch â dawn.johnson@sirddinbych.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw