Rhowch eich barn ar Lyfrgelloedd Sir Ddinbych wrth iddynt ddathlu blwyddyn o ddarllen
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cloi blwyddyn brysur a llwyddiannus o ddathlu darllen, dod â chymunedau ynghyd a chynnig gweithgareddau i bobl o bob oedran fel rhan o Flwyddyn Genedlaethol Darllen.
Drwy gydol y flwyddyn, mae llyfrgelloedd ledled y sir wedi cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys ymweliadau gan awduron, ymweliadau ag ysgolion, sesiynau i deuluoedd a heriau darllen, gyda'r nod o annog pobl i ddarganfod pleser darllen.
Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd yr Sialens Ddarllen yr Haf, gyda chynnydd yn nifer y plant yn y Rhyl a Phrestatyn a gwblhaodd yr her o gymharu â'r llynedd, fel rhan o Raglen Allgymorth Ysgolion lwyddiannus, a ariannwyd drwy Grant Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru.
Roedd thema'r her eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, yn cyfuno cerddoriaeth a darllen, gyda'r artist beatbocsio ac arloeswr dolennu llais, Mr Phormula, yn cynnal gweithdai dwyieithog difyr mewn llyfrgelloedd ledled y sir.

Artist beatbocsio ac arloeswr dolennu llais, Mr Phormula
Cafodd y plant hefyd gyfle i fwynhau ymweliadau gan y Welsh Whisperer a'r awdur lleol Oliver Sykes, gan helpu i ddod â straeon a darllen yn fyw.

Y Welsh Whisperer
Mae annog plant i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf yn arbennig o bwysig er mwyn eu helpu i gynnal eu sgiliau darllen a'u hyder, gan sicrhau eu bod yn barod am ddechrau cadarnhaol i'r flwyddyn ysgol newydd. Mae ymchwil yn dangos nad yw un o bob pedwar plentyn yn gallu darllen yn dda erbyn eu bod yn 11 oed, a gall hyn gael effaith sylweddol ar eu cyfleoedd a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae'n wych gweld ein llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rhan mor bwysig wrth feithrin cariad at ddarllen a dod â phobl ynghyd.
“Mae nifer y plant a gwblhaodd Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn gamp wirioneddol ac yn dangos brwdfrydedd pobl ifanc dros lyfrau a darllen pan fyddant yn cael cyfleoedd cyffrous i gymryd rhan.
“Mae llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy na mynediad at lyfrau. Maent yn fannau cymunedol croesawgar lle gall pobl o bob oed ddysgu, cymdeithasu, datblygu sgiliau newydd a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau. Byddwn yn annog pawb i fanteisio ar eu llyfrgell leol a'r cyfleoedd sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.”
Bu nifer o uchafbwyntiau eraill ar draws y Gwasanaeth Llyfrgelloedd hefyd, gan gynnwys Sialens Ddarllen i Oedolion, datblygu gardd gymunedol yn Llyfrgell Llanelwy a gosod Cwt y Synhwyrau yn Llyfrgell y Rhyl.

Gardd cymunedol Llyfrgell Llanelwy

Cwt y Synhwyrau yn Llyfrgell Y Rhyl
Bu ymwelwyr â Llyfrgell Rhuthun hefyd yn mwynhau ymweliad difyr gan yr awdur P. L. Handley, tra bo tîm Dechrau Da wedi parhau i gefnogi teuluoedd drwy ei sesiynau poblogaidd Chrwydro a Rhigwm, sy'n cael eu cynnal yn ogystal â rhaglen reolaidd y llyfrgell o weithgareddau.

Sesiynau Crwydro a Rhigwm
Wrth i'r tywydd oerach gyrraedd, bydd llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych hefyd yn cynnig Croeso Cynnes, gan ddarparu diodydd poeth am ddim a gweithgareddau cymdeithasol er mwyn rhoi cyfle i bobl fwynhau man cynnes a chyfeillgar yn eu cymuned leol.
Dweud eich dweud am Lyfrgelloedd Sir Ddinbych
I gloi'r flwyddyn, mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn arolwg cwsmeriaid a rhannu eu barn am eu llyfrgell leol.
Mae'n ofynnol i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru gynnal arolwg cwsmeriaid bob tair blynedd fel rhan o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r adborth a gesglir drwy'r arolwg yn helpu'r gwasanaeth i adrodd ar ei berfformiad ac, yn bwysig, yn cyfrannu at gynllunio datblygiadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd yn parhau i ddiwallu anghenion eu cymunedau.
Bydd yr arolwg yn rhedeg tan ddydd Llun, 30 Tachwedd a gellir ei gwblhau ar-lein neu wyneb yn wyneb yn unrhyw un o lyfrgelloedd Sir Ddinbych.
Anogir trigolion i dreulio ychydig funudau yn rhannu eu barn a helpu i lunio dyfodol eu llyfrgell leol.