Sir Ddinbych yn galw ar berchnogion tai gwag i fanteisio ar wasanaeth paru eiddo am ddim

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog perchnogion eiddo gwag ledled y sir i fanteisio ar ei Wasanaeth Paru Tai Gwag am ddim, a allai eu helpu i ddod o hyd i brynwr a dod â’u heiddo yn ôl i ddefnydd.
Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gweithredu ers chwe blynedd ac mae’n helpu i gysylltu perchnogion tai gwag â darpar brynwyr a buddsoddwyr sydd â diddordeb mewn prynu eiddo yn Sir Ddinbych.
Mae nifer o fuddsoddwyr posibl eisoes wedi cofrestru gyda’r cynllun, ond mae’r Cyngor yn awyddus i annog mwy o berchnogion tai gwag i gysylltu er mwyn creu rhagor o gyfleoedd i baru prynwyr ag eiddo a dod â mwy o dai yn ôl i ddefnydd.
Er na all y gwasanaeth warantu y bydd eiddo’n cael ei werthu, mae’n cynnig cyfle i berchnogion gysylltu â phrynwyr sydd â diddordeb ac yn cynyddu’r posibilrwydd o drafod bargen lwyddiannus.
Mae dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd yn rhan bwysig o ymrwymiad y Cyngor i dai drwy ei Gynllun Corfforaethol – Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl – gan helpu i wneud gwell defnydd o eiddo presennol a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i gartrefi addas.
Mae’r cynllun eisoes wedi helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i werthwyr a phrynwyr.
Un enghraifft yn ymwneud ag eiddo pedair ystafell wely wedi’i addasu a ddaeth yn wag ar ôl i’w berchennog fethu â byw’n annibynnol mwyach a bod angen gofal ychwanegol arno. Prynwyd yr eiddo gan gymdeithas dai ac yna fe’i darparwyd i deulu ag aelod anabl. Roedd y teulu wedi bod mewn perygl o fod yn ddigartref ar ôl i’w tenantiaeth rhentu preifat ddod i ben, ac nid oedd eu llety presennol yn diwallu eu hanghenion. Arweiniodd y paru at ganlyniad cadarnhaol i’r ddwy ochr, gan alluogi’r cyn-berchennog i werthu ei eiddo a rhoi cyfle i’r teulu gael cartref addas a oedd yn diwallu eu hanghenion yn well.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol dros Dai, Cynllun Datblygu Lleol a Chymunedau:
“Mae dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd yn rhan bwysig o’n gwaith i fynd i’r afael ag anghenion tai ledled Sir Ddinbych.
“Mae ein Gwasanaeth Paru Tai Gwag am ddim yn cynnig ffordd syml i berchnogion gysylltu â darpar brynwyr sy’n chwilio’n weithredol am eiddo yn y sir.
“Mae gennym nifer o fuddsoddwyr â diddordeb eisoes wedi cofrestru gyda’r cynllun, ond mae angen i fwy o berchnogion eiddo gwag gysylltu â ni er mwyn i ni allu creu rhagor o gyfleoedd.
“Os ydych yn berchen ar eiddo gwag yn Sir Ddinbych ac yn ystyried ei werthu, byddwn yn eich annog i gysylltu â ni i ganfod sut y gallai’r gwasanaeth eich helpu.”
Gall perchnogion eiddo gwag yn Sir Ddinbych sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth paru am ddim gysylltu â thîm Tai Strategol y Cyngor drwy e-bostio taistrategol@sirddinbych.gov.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael ar ein gwefan.