Taflu goleuni ar wasanaeth goleuadau stryd Sir Ddinbych yng ngwobrau cenedlaethol 2026

Fe allai gwasanaeth goleuadau stryd Cyngor Sir Ddinbych ennill gwobr genedlaethol ar ôl cael ei ddewis ar restr fer yng nghategori Perfformiwr Gorau mewn Goleuadau Stryd yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformio Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus 2026.

Fe allai gwasanaeth goleuadau stryd Cyngor Sir Ddinbych ennill gwobr genedlaethol ar ôl cael ei ddewis ar restr fer yng nghategori Perfformiwr Gorau mewn Goleuadau Stryd yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformio Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus 2026.

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, yn cydnabod gwasanaethau rheng flaen Cynghorau ar hyd a lled y DU.

Mae’r gwasanaeth yn gofalu am 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi’u goleuo ar draws Sir Ddinbych, gan helpu ein cymunedau i deimlo’n ddiogel a chefnogi lles preswylwyr

Mae Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn gweithio gyda Chynghorau ar draws y DU i gymharu gwasanaethau trwy feincnodi, gan ddarparu darlun cenedlaethol o sut mae gwasanaethau rheng flaen yn cael eu darparu.

Bob blwyddyn, mae Gwasanaeth Goleuadau Stryd Sir Ddinbych yn cyflwyno data sy’n ymwneud â hyfforddiant, datblygiad a phresenoldeb staff, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darparu a rheoli’r gwasanaeth. Mae Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cymharu’r wybodaeth hon gyda’r hyn a gyflwynwyd gan Gynghorau eraill.

Mae’r ffaith bod Gwasanaeth Goleuadau Stryd Sir Ddinbych ar y rhestr fer ar gyfer Perfformiwr Gorau yn darparu sbotolau cenedlaethol am ei waith yn cefnogi cymunedau lleol.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch bod ein staff Goleuadau Stryd wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gadw ein goleuadau stryd ymlaen i amddiffyn a chefnogi ein preswylwyr.

“Mae goleuo ein cymunedau bob dydd yn cymryd ymroddiad. Mae hyn yn cydnabod yr ymroddiad hynny, a gall pawb ymfalchïo o weld y gwasanaeth hollbwysig hwn yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.”

Cynhelir Seminar a Seremoni Wobrwyo’r Rhwydweithiau Perfformio ddydd Iau 3 Rhagfyr a dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026 yn y Village Hotel, Blackpool.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw