Tîm y Cyngor yn dathlu cydnabyddiaeth am gydweithio cymunedol
Mae tîm yn y Cyngor wedi cael cydnabyddiaeth am chwarae ei ran yn cefnogi menter gymunedol yn y Rhyl sydd wedi ennill gwobrau

Mae tîm yn y Cyngor wedi cael cydnabyddiaeth am chwarae ei ran yn cefnogi menter gymunedol yn y Rhyl sydd wedi ennill gwobrau.
Derbyniodd Tîm A Dyfodol Mwy Disglair Dystysgrif Cefnogwyr Cymunedol yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026 am eu menter i lanhau’r amgylchedd yn y Rhyl gyda chefnogaeth sefydliadau eraill.
Er mwyn dathlu’r cyflawniad, cynhaliwyd cinio gwobrwyo yn y Rhyl ac fe wahoddwyd Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych i anrhydeddu eu cefnogaeth yn helpu i fwrw ymlaen â’r fenter hon ar draws y Rhyl.
Mae’r bartneriaeth wedi bod yn helpu i drawsnewid lleoliadau megis strydoedd cefn y Rhyl yn rhan o’r fenter i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol. Cefnogwyd y gwaith gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Nod y fenter yw creu mannau cymunedol sydd yn fwy glân, yn fwy gwyrdd ac yn fwy croesawgar y gall preswylwyr ymfalchïo ynddynt. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl leol, mae’r fenter yn annog newid ymddygiad cadarnhaol tra’n gwella ymddangosiad a bioamrywiaeth yr ardal.
Yn rhan o’r fenter, mae tîm y Cyngor wedi rhoi cyngor a gwybodaeth i breswylwyr sydd yn byw yn yr ardaloedd cyfagos am eu cyfrifoldebau i waredu gwastraff yn gywir ac effeithiau tipio anghyfreithlon.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol: “Rydym ni’n falch iawn y gofynnwyd i ni fod yn rhan o’r cinio gwobrwyo yma i ddathlu cydnabyddiaeth y cydweithio a grëwyd gan Dyfodol Mwy Disglair.
“Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda nhw a Chadwch Gymru'n Daclus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac adfer ardaloedd o amgylch y Rhyl i’w cyflwr gwreiddiol i wella’r amgylchedd lleol a bioamrywiaeth. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio mwy gyda nhw i helpu cymuned y Rhyl.
Ychwanegodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r cydweithio rhwng Dyfodol Mwy Disglair, Cadwch Gymru'n Daclus a’n Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn rhannau o’r Rhyl. Rydw i’n falch bod y grŵp wedi cydnabod cefnogaeth ein tîm i’w helpu i fwrw ymlaen â’r gwaith er budd y gymuned.”