Y Cyngor yn cynnal sesiynau ymgysylltu ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae'r cyngor yn adolygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, ac mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i leisio eu barn.

Mae'r cyngor yn adolygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, ac mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i leisio eu barn.

O dan Ddeddf Teithio Lesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd mapiau presennol Sir Ddinbych gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac maent i fod i gael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud dros y tair blynedd ddiwethaf.

Teithio Llesol yw'r enw a roddir ar siwrneiau beunyddiol, pellter byr, y mae pobl yn eu gwneud ar droed neu ar feic, fel mynd i'r gwaith, i’r ysgol, i’r coleg neu i gyrraedd y siopau a chyfleusterau eraill.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi adolygu'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol i gynnwys llwybrau presennol sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llwybrau’r dyfodol a allai fod angen gwelliannau er mwyn bodloni'r safonau gofynnol.

Mae'r mapiau wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad, ac mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i leisio eu barn cyn y dyddiad cau ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026. Yna, anfonir y mapiau diwygiedig at Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.

Mae digwyddiadau ymgysylltu hefyd wedi'u trefnu er mwyn i drigolion allu gweld y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, gyda sesiynau wedi'u trefnu ledled y sir. Mae manylion y sesiynau hyn i'w gweld isod:

  • Llyfrgell Llangollen:- 13 Tachwedd 2026 - 10am tan 12pm
  • Llyfrgell Dinbych:- 16 Tachwedd 2026 - 10am tan 12pm
  • Llyfrgell y Rhyl:- 18 Tachwedd 2026 - 12pm tan 2pm
  • Llyfrgell Rhuthun:- 19 Tachwedd 2026 - 1pm tan 3pm
  • Llyfrgell Prestatyn:- 24 Tachwedd 2026 - 10am tan 12pm

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

“Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Lesol (Cymru) yn wreiddiol yn 2013, gwnaeth y ddeddfwriaeth hon ofyniad cyfreithiol i Gynghorau yng Nghymru hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn eu hardal. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi adeiladu seilwaith newydd, wedi gwella llwybrau Teithio Llesol presennol ac wedi darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, pobl sy’n olwyno a beicwyr.

“Rydym am ddarparu rhwydwaith i Sir Ddinbych sy'n caniatáu i gerdded, olwyno a beicio dod y ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio o le i le ar gyfer siwrneiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt”.

I roi eich barn ar ddiweddariad Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Ddinbych, cliciwch yma.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw