Ychwanegiad newydd i’r fflyd yn pweru gwasanaeth

Mae ychwanegiad newydd i Fflyd Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i yrru’r gwasanaeth yn ei flaen

Mae ychwanegiad newydd i Fflyd Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i yrru’r gwasanaeth yn ei flaen.

Mae swyddogion fflyd y Cyngor wedi caffael fan trydan Kia PV5 a fydd yn rhan annatod o leihau allyriadau carbon yn Nepo Fflyd Bodelwyddan.

Bydd y fan (wedi’i ariannu gyda chymorth o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru) ac sy’n gallu teithio am bellter o 258 milltir, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithrediadau cefnogi’r fflyd o ddydd i ddydd. Serch hynny, pan na fydd yn cael ei ddefnyddio, bydd gan y Kia PV5 rôl wahanol yn cefnogi’r gwasanaeth. 

Ar ôl cael ei barcio yn y depo, bydd y cerbyd sy’n cael ei bweru gan fatri trydan yn cael ei gysylltu i bwynt gwefru ‘Vehicle 2 Volume Energy Yield’ y depo, prosiect a arweiniwyd gan gwmni peirianneg Hangar19 mewn partneriaeth gyda CrowdCharge a DriveElectric.

Mae’r peiriant gwefru yn defnyddio cerrynt eiledol, yn hytrach na cherrynt uniongyrchol arferol. Mae hyn yn cyflwyno gwefru dau-gyfeiriad, gan alluogi i gerbydau trydan megis y Kia PV5 gymryd pŵer o’r grid trydan ac anfon pŵer yn ôl iddo.

Bydd cysylltu’r ychwanegiad newydd y fflyd i’r peiriant gwefru arloesol yma’n helpu i gefnogi defnyddio llai o bŵer a chreu arbedion gan arwain at ôl-troed carbon is ar gyfer y safle. 

Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae hi’n wych cynnwys y Kia PV5 a gafodd ei gaffael yn rhan o’n hymrwymiadau i leihau’r nifer o gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil, yn rhan o’r system gwefru cerbyd i’r grid.

“Mae’r fenter hon, sy’n gysylltiedig â’r paneli solar a batris storio a osodwyd yn ddiweddar yn nepo’r fflyd, yn rhoi’r potensial i ni leihau dibyniaeth ar y system grid hyd yn oed ymhellach.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Yn rhan o’n Hargyfwng Hinsawdd a ddatganwyd yn 2019, rydym yn parhau’n ymroddedig i leihau’r nifer o gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil ar draws ein fflyd, a’u disodli gyda cherbydau trydan pan yn briodol drwy gyllid grant neu pan maent yn dod i ddiwedd eu hoes.

“Mae hyn yn galluogi i ni leihau ein costau rhedeg a chynnal a chadw hirdymor, lleihau ein hôl-troed carbon ac yn bwysicach lleihau dibyniaeth ar gyflenwadau petrol a disel.  Mae cyflwyno fan Kia PV5 i gysylltu â’r system gwefru clyfar yn galluogi i ni fwrw ymlaen â’r ymrwymiad hwn yn y Gwasanaethau Fflyd.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw