Ysgol Frongoch yn trawsnewid tir yr ysgol gyda dôl blodau gwylltion newydd
Mae disgyblion yn Ysgol Frongoch wedi torchi eu llewys i greu cynefin newydd i fyd natur yn eu hysgol

Mae disgyblion yn Ysgol Frongoch wedi torchi eu llewys i greu cynefin newydd i fyd natur yn eu hysgol.
Drwy gydweithio â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, bu’r plant yn plannu dôl blodau gwylltion newydd a fydd yn darparu bwyd a lloches i ystod o fywyd gwyllt lleol.
Mae'r disgyblion wedi cymryd rhan ymarferol drwy gydol y prosiect – paratoi'r tir, plannu dros 200 o flodau gwyllt, a dysgu sut mae dolydd yn cefnogi bioamrywiaeth. Bydd eu gwaith yn helpu i drawsnewid rhan o dir yr ysgol yn ofod awyr agored lliwgar ar gyfer natur a dysgu.
Mae’r blodau gwylltion a blannwyd gan y disgyblion yn cynnwys moronen y maes, llygad llo mawr, melynydd, blodyn neidr, y feddyges las, y bengaled, blodyn menyn, pysen y ceirw, gludlys gwyn, ytbysen y ddôl, a’r feillionen goch.
Wrth i’r ddôl newydd dyfu, bydd yn helpu i gynnal peillwyr fel gwenyn, gan roi ystafell ddosbarth ychwanegol i’r disgyblion yn yr awyr agored lle gallant arsylwi ar fywyd gwyllt a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd iach.
Cyflenwyd y blodau gwylltion gan blanhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych, sydd gerllaw Llanelwy.

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn bleser helpu’r plant i greu eu dôl newydd. Daethant ag egni a brwdfrydedd i’r gwaith plannu, ac rydym yn awyddus i ganfod sut y bydd y blodau gwylltion a dyfwyd yn ein planhigfa goed o fudd i fywyd gwyllt lleol a’r gymuned ehangach.
“Gall y disgyblion fod yn falch o’r cynefin y maent wedi ei greu ar gyfer planhigion, peillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt ar dir eu hysgol.”
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff Ysgol Frongoch am eu hegni ardderchog a’u gofal wrth greu’r ddôl hon, ac am groesawu ein tîm Bioamrywiaeth i’w helpu i greu’r cynefin gwerthfawr hwn.
“Bydd gwaith caled y plant yn rhoi cymorth i fywyd gwyllt ar dir yr ysgol, yn cynnal natur leol ledled Sir Ddinbych ac yn rhoi lle arbennig i ddisgyblion y dyfodol gael dysgu yn yr awyr agored.”