llais y sir

Adran Busnes

Busnesau Sir Ddinbych yn parhau’n obeithiol am y dyfodol

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn parhau'n obeithiol am y dyfodol, yn ôl arolwg diweddar.

Cafodd Arolwg Busnes blynyddol y Cyngor fwy na 470 o ymatebion, gyda'r mwyafrif yn dweud eu bod yn fwy hyderus ynghylch y dyfodol nag erioed o'r blaen.

Mae'r arolwg blynyddol yn bwydo i fis Mawrth Busnes y Cyngor, sy'n cynnig ystod eang o sesiynau hyfforddi, rhwydweithio a chynghori i fasnachwyr y sir, yn seiliedig ar adborth yn yr arolwg.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: "Hoffwn ddiolch i'r busnesau a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wrando ar anghenion entrepreneuriaid yn y sir ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth yn seiliedig ar eu hanghenion. Fel hyn, gallwn gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i fusnesau a fydd o fudd gwirioneddol iddynt wrth geisio tyfu.

"Rwy'n falch bod cymaint o fusnesau yn teimlo'n hyderus yn symud ymlaen. Mae Sir Ddinbych yma i gefnogi busnesau ac mae gennym ystod eang o brosiectau i helpu a chefnogi busnesau yn ein Strategaeth Uchelgais Cymunedol ac Economaidd.

"Rwy'n arbennig o falch o'r adborth ar anghenion hyfforddi, sy'n dangos ein bod wedi bod ar flaen y gad gyda'n ffocws ar sgiliau digidol dros y blynyddoedd diwethaf."

Canfu’r arolwg, a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor, fod mwy na 70 y cant o ymatebwyr yn dweud fod eu busnes yn gryfach nag oedd yn 2016, ac 1 y cant yn unig a ddywedodd ei fod yn wannach.

Roedd mwy na chwarter yn disgwyl cynyddu niferoedd staff, tra bod 63 y cant yn disgwyl i werthiannau gynyddu.

Yn ogystal, canfu'r arolwg fod mwy o fusnesau wedi cymryd band eang a band eang cyflym iawn yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gydnabod bod presenoldeb digidol a'r sgiliau i fanteisio ar hyn yn hollbwysig i lwyddiant busnes yn y dyfodol.

Y llynedd, gwelodd Mis Mawrth Busnes 400 o bobl yn manteisio ar 13 o ddigwyddiadau mewn 10 lleoliad, gyda mynediad at 45 o arbenigwyr busnes. Cyhoeddir rhaglen ddigwyddiadau 2018 yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â econ.dev@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706896.

Busnesau’n rhannu eu hawgrymiadau yn rhifyn cyntaf cylchgrawn Sir Ddinbych

Mae masnachwyr stryd fawr ar draws Sir Ddinbych wedi bod yn rhannu eu hawgrymiadau ar gyfer llwyddiant.Business Magazine Busnes y Dref

Mae'r Cyngor wedi bod yn parhau ei bolisi o siarad a gwrando ar fusnesau lleol drwy gynhyrchu e-gylchgrawn ‘Busnes y Dref’ yn seiliedig ar beth sydd ganddynt i’w ddweud.

Rhoddodd busnesau eu hawgrymiadau am lwyddiant yn ogystal â chyngor ar bynciau pwysig sy’n wynebu masnachwyr yn y sir fel rhwydweithio a hyrwyddo eu hunain drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Busnes y Dref hefyd yn rhoi gwybod pa help a chefnogaeth sydd ar gael gan y Cyngor a sefydliadau eraill.

Mae wedi’i ddosbarthu’n electronig i fusnesau yn y sir ac mae hefyd ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor yn ogystal ag ar dudalen Facebook #carubusnesaulleol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r cylchgrawn hwn yn rhoi llwyfan i fusnesau Sir Ddinbych i rannu eu gwybodaeth a’u hawgrymiadau am lwyddiant.

“Ein huchelgais yw cefnogi sector busnes preifat iach sy’n darparu lefelau da o ran cyflogaeth ac incwm i fusnesau a phreswylwyr yn ein trefi a’n cymunedau i gyd.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi canol trefi Sir Ddinbych, pob un gyda’i gymeriad unigryw ei hun, a gallwch weld hyn yn dod allan yn y sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda busnesau.

“Mae’r e-gylchgrawn hwn yn tynnu sylw at rai o’r amrywiaeth o fusnesau a grwpiau busnes sydd gennym ar ein stryd fawr yn Sir Ddinbych i roi blas ar yr holl bethau gallwn fod yn gadarnhaol amdanynt.

“Mae busnesau lleol bach yn cynnig cymaint i’n preswylwyr a’n hymwelwyr ac yn gwneud cyfraniad mawr i’r economi leol ac rydym wrth ein bodd o fod wedi gallu rhoi llais iddynt a rhannu eu stori."

Mae Busnes y Dref hefyd yn rhoi gwybodaeth i fasnachwyr am ymgyrch #carubusnesaulleol sy’n annog busnesau a siopwyr i sôn am gynnyrch lleol gwych ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch weld Busnes y Dref mewn fformat PDF yma  www.sirddinbych.gov.uk/busnesydref

Parcio Am Ddim ym Meysydd Parcio Canol Tref ar ôl 3pm

Bydd help llaw ar gael i siopwyr Sir Ddinbych dros gyfnod y Nadolig.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu parcio am ddim ar ôl 3pm yn ei feysydd parcio canol tref trwy gydol mis Rhagfyr.

Nod y cynllun parcio am ddim ar ôl 3 yw cefnogi canol trefi Sir Ddinbych ac annog cwsmeriaid i gymryd mantais o’r ystod eang o fasnachwyr sydd ar strydoedd mawr y sir.

Mae'r cynllun yn darparu parcio am ddim ym mhob maes parcio talu ac arddangos a weithredir gan y Cyngor yng nghanol trefi ar ôl 3pm yn ddyddiol hyd at 31 Rhagfyr.

I weld rhestr o’r meysydd parcio sy’n rhan o’r cynllun hwn, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/parcio

Cyrsiau cyfryngau cymdeithasol i helpu busnesau i ddod i arfer â bod ar-lein

Mae cyfres arall o gyrsiau hyfforddiant i fusnesau lleol ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnal gan Gyngor Sir Ddinbych.

Ar ôl cael ymateb brwdfrydig yn y sesiynau yn gynharach eleni, bydd mwy o gyrsiau Facebook a Twitter yn cael eu darparu yn y sir.

Mae'r rhaglen newydd yn cynnwys sesiynau lefel uwch a rhai cychwynnol ar gais y busnesau a ddaeth i'r sesiynau diwethaf.

Y tiwtor Helen Hodgkinson o Academi Sgiliau Manwerthu Grŵp Llandrillo fydd yn darparu’r cyrsiau ar ran y Cyngor.

Dywedodd: “Bydd sesiynau ar wahân ar gyfer technegau lefel uwch a rhai cychwynnol yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio ar y pynciau sy’n bwysig i’r grwpiau penodol.

 “Mae 'na enghreifftiau gwych yn Sir Ddinbych o fusnesau sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddenu mwy o gwsmeriaid a bydd y sesiynau lefel uwch yn caniatáu iddyn nhw wneud y gorau o'r gynulleidfa honno gan ddefnyddio dulliau effeithiol sy’n fwy technegol.

 “Bydd y sesiwn ‘sylfaenol’ yn rhoi arweiniad i’r rhai sydd heb arfer efo'r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion busnes, gan eu rhoi nhw mewn gwell lle i ddechrau ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a rhai newydd ar-lein. Bwriad y cyrsiau hyn yw trosi cyswllt gyda’r cyhoedd yn werthiant."

Bydd y cyrsiau rhyngweithiol poblogaidd yn cael eu cynnal yn y Rhyl, Dinbych a Llysfasi rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.

Gallwch gael gwybod mwy am y cyrsiau ar www.sirddinbych.gov.uk/digwyddiadaubusnes 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid