Anrhegion Nadolig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Chwilio am ysbrydoliaeth am anrhegion i’r Nadolig?
Beth am un o bosteri Dyffryn Dyfrdwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol? Mae gennym ystod o olygfeydd o Langollen i Gorwen, gan gynnwys y rheilffordd mewn meintiau A3 ac A2. Mae'r rhain ar gael o Ganolfan Groeso Llangollen (01978 860828) neu gallwch ymholi Parc Gwledig Loggerheads (01824 712738). Gallwch weld y casgliad llawn yn www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/dee-valley-posters/ <http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/dee-valley-posters/>
Fel arall, gallech godi un o'n Hampers yn llawn o gynnyrch lleol sydd bellach ar gael yn y siop ym Mharc Gwledig Loggerheads!