llais y sir

Gaeaf 2017

Cartrefi newydd Sir Ddinbych yn cwrdd â'r galw lleol am dai o ansawdd

Mae dathliad i deuluoedd yn Sir Ddinbych, gan fod 12 o gartrefi newydd wedi'u dyrannu i bobl leol yn Llangollen, diolch i bolisi gosod lleol.

Ymwelodd cynrychiolwyr cymdeithas tai Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar â'r tenantiaid newydd yn eu cartrefi newydd yn Llys Brân a Threm yr Orsaf yn Llangollen, Sir Ddinbych.

Gwelodd y buddsoddiad gwerth £1.2 miliwn y cyn safle Ysbyty yn y dref yn cael ei datblygu i greu'r cartrefi newydd.

"Rydym yn awyddus i geisio cwrdd â'r galw lleol am ein datblygiadau newydd," esbonia Rhiannon Dafydd o Grŵp Cynefin. "Mae ein polisi gosod lleol yn golygu bod yna amodau ynghylch pwy all wneud cais am y cartrefi newydd hyn, gan roi blaenoriaeth i’r bobl sydd wedi byw a gweithio yn yr ardal am o leiaf bum mlynedd ar gyfer y cartrefi newydd.

"Rydym yn ddiolchgar i'r tenantiaid newydd am ganiatáu i ni ymweld â'r safle a gweld dros ein hunain y gwaith caled a'r ymdrech sydd wedi mynd i ddatblygu'r hen safle ysbyty dros nifer o fisoedd i chwe chartref newydd gwych a chwe fflat i bobl leol," esboniodd y Cynghorydd Tony Thomas o Gyngor Sir Ddinbych.

Cyn datblygu'r safle, datblygwyd noddfa ystlumod arbennig ar y safle, er mwyn diogelu cytref o'r ystlumod lleiaf cyn i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'r ystlumod wedi ymgartrefu'n dda i mewn i'w cartref newydd, sydd hefyd yn adeilad storio cymunedol ar gyfer y tenantiaid newydd.

"Cartrefi cost-effeithlon o ansawdd yw'r hyn yr ydym yn ymdrechu i’w gael fel un o'r prif gymdeithasau tai yng ngogledd Cymru," parhaodd Rhiannon Dafydd o Grŵp Cynefin.

"Rwyf wrth fy modd bod y tenantiaid newydd yma yn Llangollen wedi cyflawni hynny, cartrefi cynnes cyfforddus sy'n sicrhau y gallant barhau i fyw a gweithio yma yn eu hardal."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...