llais y sir

Gaeaf 2017

Sir Ddinbych yn lansio ei fideo siopa Nadolig

Mae'r Cyngor wedi rhyddhau’r clip siopa Nadoligaidd er mwyn hyrwyddo’r amrywiaeth eang o gynnyrch sydd ar gael ar strydoedd mawr y sir.

Mae’r fideo dau funud o hyd yn cynnwys llu o fasnachwyr sy’n dangos beth sydd ar gael yn Sir Ddinbych gyda golygfeydd wedi eu ffilmio ym mhob un o’r wyth tref yn y sir.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau, preswylwyr a grwpiau sydd wedi helpu i wneud y fideo hwn yn bosibl.

 “Mae gan Sir Ddinbych bopeth y mae siopwyr eu hangen i helpu i ddathlu’r Nadolig yn ogystal â gwasanaeth gwych a staff cyfeillgar.

 “Mae siopa'n lleol o fudd i’r gymuned leol gydag arian yn cael ei wario'n lleol yn aros o fewn economi Sir Ddinbych, sydd o fudd i bawb yn y sir.

 “Mae Sir Ddinbych yn cynnig profiad siopa lle bydd siopwyr yn ymlacio a mwynhau llawer mwy nac wrth siopa yn y dinasoedd mwy a'r parciau siopau tu allan i'r trefi. Felly fe fyddwn yn annog preswylwyr i weld beth sydd gan Sir Ddinbych i'w gynnig y Nadolig hwn."

Y busnesau sydd i’w gweld yn y clip yw Nouveau Riche, Prestatyn; Detour Menswear, Y Rhyl; Gwesty a Sba yr Oriel, Llanelwy; The Little Cheesemonger, Rhuddlan; State of Distress, Rhuthun; Snow in Summer, Dinbych, Siop Fferm Stâd Rhug, Pethau Tlws, Corwen a Llangollen Baby.

Mae Sandra Griffiths wedi bod yn rhedeg Snow in Summer yn Ninbych ers tair blynedd gan werthu eitemau hen ffasiwn, cardiau cyfarch a nwyddau ac anrhegion wedi eu gwneud gan artistiaid lleol.

“Roedd yn braf iawn cymryd rhan yn y fideo siopa'n lleol,” meddai.

“Mae siopa’n lleol yn rhoi’r cyfle i gwsmeriaid i brynu nwyddau sydd wedi eu cynllunio a’u gwneud yn lleol, ac i brynu eitemau unigryw iddynt eu hunain neu ar gyfer y cartref."

Mae Cathy Challand yn rhedeg Nouveau Riche, siop ffasiwn marched ac ategolion ym Mhrestatyn.

“Mae siopa’n lleol yn helpu’r economi leol ac yn creu swyddi lleol,” meddai. “Rydych yn cael gwasanaeth mwy personol wrth siopa mewn siopau annibynnol lleol oherwydd yn hytrach na dilyn y ffasiynau diweddaraf mae gennym ein hunaniaeth a'n steil unigryw ein hunain, ac felly rydych yn fwy tebygol o ganfod rhywbeth gwahanol. 

 “Roedd cymryd rhan yn y fideo Nadolig yn hwyl. Rwyf wrth fy modd gyda fy nghwsmeriaid ac mae'n wych eu bod yn cefnogi busnesau lleol drwy ledaenu’r enw da i deulu a ffrindiau. Hebddyn nhw byddai bodolaeth ein strydoedd mawr byrlymus yn dod i ben.”

Cynhyrchwyd y fideo fel rhan o'r ymgyrch #CaruBusnesauLleol sy'n cefnogi masnachwyr lleol drwy annog cwsmeriaid a busnesau i roi lluniau o nwyddau a phrofiadau gwych ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar gyfer y golygfeydd terfynol a ffilmiwyd yn Rhuthun, fe aeth busnesau o’r dref yn ogystal â Cherdd Cydweithredol Sir Ddinbych, Clwb Rotari Rhuthun a Chilli Cow Ice Cream, a ddangosodd ei flas pwdin Nadolig, ati i helpu i greu byd siopa Nadolig rhyfeddol.

Heather Powell yw rheolwr gyfarwyddwr Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, a ddarparodd yr ensemble pres DMC6 oedd yn cynnwys disgyblion 12 i 16 oed o Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Dinas Bran.

“Roedd y band wrth eu bodd ac yn falch eu bod wedi cael y cais - maent bob amser yn hoff o gefnogi digwyddiadau lleol ac roeddent wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr,” meddai.

“Roedd y profiad yn wych iddynt. Fel busnes lleol mae siopa’n lleol yn hanfodol - rydym bob amser yn cefnogi busnesau eraill ac yn credu fod yna amrywiaeth eang o siopau lleol hyfryd."

Mae’r Cyngor hefyd yn darparu parcio am ddim ymhob un o’r meysydd parcio yng nghanol y trefi ar ôl 3pm tan Ragfyr 31.

 

Nodyn i olygyddion: Gweler y lluniau sydd wedi eu hatodi a dolen i fideo siopa Nadolig Sir Ddinbych https://www.youtube.com/watch?v=W7OPxWYGZkI

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...