llais y sir

Gaeaf 2018

Cymorth ychwanegol ar gyfer siopau lleol y Nadolig hwn

Mae gan Sir Ddinbych ei ‘Queen of Shops’ ei hun i helpu siopau’r sir baratoi ar gyfer y tymor gwerthu hanfodol y Nadolig. 

Mae’r arbenigwr siopa Helen Hodgkinson wedi bod yn gweithio gyda pherchnogion siopau a busnesau ochr yn ochr â Thîm Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor Sir ar sut i wneud y mwyaf o’r Ŵyl. 

Mae Helen, cyn siopwraig ffasiwn a darlithydd coleg, wedi bod yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb gyda busnesau, ac mae’n awyddus i gyfleu’r neges fod gan siopau’r sir ddigon i’w gynnig i siopwyr ar gyfer y Nadolig. 

Mae'n rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol Cyngor Sir Ddinbych i annog pobl leol i ddefnyddio eu siopau a gwasanaethau lleol ac i fusnesau hyrwyddo eu hunain ac i bawb ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Twitter a Facebook i rannu eu profiadau cadarnhaol o Sir Ddinbych fel lle gwych i siopa. 

Dywedodd: “Mae’n rhaid i fusnesau fod yn barod ar gyfer y Nadolig gyda’u cynlluniau wedi’u sefydlu gan mai hwn yw’r amser pwysicaf o’r flwyddyn, ac mae’n rhaid i chi gael yr hanfodion yn iawn er mwyn elwa. 

“Mae yna gynnig gwych yn Sir Ddinbych, llawer o siopau annibynnol anarferol, unigryw ac arbenigol gan gynnig cynnyrch a gwasanaeth heb eu hail, ond mae angen iddynt gynllunio a gwybod sut i werthu eu hunain.  “Mae pobl eisiau prynu rhywbeth sydd ychydig yn wahanol, heb ei gynhyrchu mewn swmp, ac mae tarddle yn bwysig, o ble mae’n dod a sut caiff ei wneud, a bod stori tu ôl iddo, gan fod hyn oll yn ychwanegu gwerth.” 

Dechreuodd Helen o Ddyserth, ym myd manwerthu ar gyfer y gadwyn archfarchnad Fine Fare yn Buxton Swydd Derby, ac yna aeth ymlaen i weithio i’r cewri bwyd iechyd Holland and Barratt yn Buxton a Stockport, cyn symud i Ogledd Cymru, lle agorodd fusnes dillad moesegol yn Llandudno. 

Yna, bu’n dysgu yng Ngholeg y Rhyl lle sefydlodd FE Retail - FE am Further Education – fel busnes bach o fewn y coleg lle gallai myfyrwyr gael blas ar werthu. 

Bu hefyd yn dysgu cyfres o gyrsiau gan uwch ddewines manwerthu, y seren deledu Mary Portas, ar fanwerthu’n llwyddiannus a lansiodd Academi Fanwerthu yn y coleg a oedd yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych. 

Rŵan, mae’r Cyngor wedi galw ar sgiliau unwaith eto a dywedodd Arweinydd y Cyngor, Hugh Evans OBE: “Rydym eisiau helpu i hyrwyddo ein masnachwyr lleol y Nadolig hwn, fel rhan o'n gwaith i greu cymunedau gwydn. 

“Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol 2018 yn ddathliad o’r profiadau siopa amrywiol a bywiog sydd gennym yn ein Sir, ac mae wedi ei anelu at annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r hashnod #CaruBusnesauLleol i hyrwyddo busnesau yn Sir Ddinbych ar draws yr holl lwyfannau rhwydweithio cymdeithasol. 

“Rydym yn helpu i dynnu sylw at y cynnig manwerthu gwych sydd yma yn Sir Ddinbych ac yn annog siopwyr i weld beth sydd ar eu strydoedd mawr lleol. 

“Nid yn unig mae ein busnesau lleol yn cynnig gwerth gwych am arian ac amrediad eang o gynnyrch, maent hefyd yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog ac rydym eisiau chwarae ein rhan mewn arddangos y busnesau sydd gennym ledled Sir Ddinbych”.

Fel rhan o’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cyflwyno cyfres o glipiau fideo byr i amlygu’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig i siopwyr a bydd yr ymgyrch yn annog pobl leol i gefnogi busnesau annibynnol lleol trwy ddefnyddio’r hashnod ar Twitter a Facebook i rannu’r profiadau da maent wedi eu cael yn ogystal â hyrwyddo’r cynnyrch a gwasanaethau lleol maent wedi eu ‘caru’.  Bydd y fideos yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfnod y Nadolig, i helpu i hyrwyddo siopa’n lleol.  Ychwanegodd Helen: “Ddeg mlynedd yn ôl, manwerthu oedd manwerthu o hyd, ond mae pethau wedi symud ymlaen gymaint ers hynny, ac mae’n rhaid i fanwerthwyr symud ymlaen hefyd.  “Mae’n hanfodol cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n digwydd yn lleol ac i gymysgu eich cynnig er enghraifft mae llawer o fusnesau stryd fawr yn ychwanegu caffi ar eu heiddo, yn darparu samplau, yn cynnal dosbarthiadau nos a chymryd rhan yn y cyfryngau cymdeithasol.  “Rwyf wedi bod o amgylch pob un o wyth tref Sir Ddinbych ac mae pethau yn digwydd ar y stryd fawr, maent yn newid er gwell gyda busnesau newydd yn agor ac yn cynnig y rhywbeth bach gwahanol hwnnw sy’n denu siopwyr.  “Maent yn mynd un gam ymhellach ac yn ysbrydoli eu cwsmeriaid gan fod yna lawer iawn o bobl dalentog yn yr ardal ac mae yna lawer i'w ddathlu yn sîn fanwerthu Sir Ddinbych."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...