llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Awyr Dywyll

Yn ddiweddar aeth y Tîm AHNE ar daith i AHNE’r Penwynion Gogleddol i ddysgu mwy am eu safle Darganfod yr Awyr Dywyll. Fel y byddwch efallai wedi clywed, mae gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ei huchelgeisiau Awyr Dywyll mawr ei hun! Hoffem wneud cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll ryngwladol (IDA) i gael cydnabyddiaeth swyddogol i ansawdd ein Hawyr Dywyll ni, sydd ymysg y gorau yng Nghymru. 

Fel ni, nid yw AHNE’r Penwynion Gogleddol eto wedi gwneud cais i’r IDA, fodd bynnag maent wedi buddsoddi mewn sawl safle Darganfod yr Awyr Dywyll.

Mae safleoedd Darganfod yr Awyr Dywyll yn llefydd i ffwrdd o’r llygredd golau lleol gwaethaf lle gellir gweld yr awyr yn glir, sydd â mynediad cyhoeddus da ac yn gyffredinol yn llefydd y gellir mynd iddynt ar unrhyw adeg.

Mae dehongli arloesol, hamogau, gwyliau gwylio’r sêr ac arsyllfa ymysg rhai o'r pethau y mae’r North Pennines wedi llwyddo i’w gwireddu fel rhan o’u gwaith Awyr Dywyll – dim pwysau ar AHNE Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd felly!  

Yn y rhifyn nesaf o Llais y Sir byddwch yn cyfarfod Swyddog Awyr Dywyll newydd Gogledd Cymru, swydd bartneriaeth rhwng tirweddau gwarchodedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, AHNE Ynys Môn a Phen Llŷn a ninnau. 

Cefnogwyd y siwrnai ddysgu drwy nawdd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a noddir drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Cadwyn Clwyd.

Fforwm Blynyddol yr AHNE – Twristiaeth Gynaliadwy ac Ymgysylltiad Busnesau

Bob blwyddyn bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n cynnal fforwm, a’r thema eleni oedd Twristiaeth Gynaliadwy ac Ymgysylltiad Busnesau.

Wrth gynllunio’r fath ddigwyddiad does dim ond un lle i fynd, sef yn syth at y busnesau eu hunain, yn benodol Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Chlwb Bwyd Da Dyffryn Dyfrdwy. Wedi bod yn rhan o sefydliad pob un o’r grwpiau hyn, yn naturiol nhw oedd y busnesau ar ben y rhestr.

Ymunom mewn partneriaeth a’r grŵp twristiaeth a gynhaliodd eu cyfarfod yr hydref rhwng 3-5pm cyn arddangos cynnyrch blasus y cynhyrchwyr bwyd lleol ar ei orau. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys:

  • Julie Masters a Jane Clough a roddodd gyflwyniad ar ‘Aros, Bwyta a Gwneud’, sef cyfle cyffrous i fusnesau’r ardal ffurfio clystyrau marchnata.
  • Peter McDermott, Rheolwr Twristiaeth CSDd, a roddodd ddiweddariad ar Strategaeth Twristiaeth y Sir.
  • Anna Bowen, Banc Datblygu Cymru, a siaradodd am gyfleoedd ariannol i fusnesau.
  • Sarah Jones, Cadwyn Clwyd, a siaradodd am y prosiect Llwybrau Digidol Gogledd Ddwyrain Cymru arloesol sydd ar waith mewn nifer o gymunedau.

Roedd rhai o uchafbwyntiau’r noson yn cynnwys:

  • Cillian Murphy o Gymdeithas Twristiaeth Loop Head, a ysgogodd frwdfrydedd y gynulleidfa gyda’i ddyfyniadau am Dwristiaeth Gynaliadwy, megis “’Nid twristiaeth ynddo’i hun yw'r nod, yn hytrach teclyn ydyw y gallwn ei ddefnyddio i adeiladu cymunedau cynaliadwy” a “Dylid mesur twristiaeth nid yn ôl niferoedd ymwelwyr ond yn ôl ei effeithiolrwydd i greu ffyniant, cyflogaeth, amgylchedd iach a manteision i'r gyrchfan", rhywbeth perthnasol dros ben i’n siaradwyr gwadd nesaf;
  • Graham Randles a Rebecca Armstrong o’r Sefydliad Economeg Newydd sydd wedi’u comisiynu gan yr AHNE i wneud gwaith ymchwil i werth rhai o'n safleoedd ‘pot mêl’ megis Parc Gwledig Moel Famau a Rhaeadr y Bedol (bydd y casgliadau’n cael eu cynnwys yn y rhifyn nesaf o County Voice) nid yn unig o safbwynt economaidd ond hefyd o ran iechyd a lles .

Denodd y digwyddiad dros 80 o bobl a thynnodd sylw go iawn at Dwristiaeth Gynaliadwy ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran mewn digwyddiad mor wych - da iawn!

Cafodd y digwyddiad ei gefnogi'n ariannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Cadwyn Clwyd.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid