Sir Ddinbych yn lle pwysig ar gyfer goroesiad y Fôr Wennol Fach yn y DU
Mae’r Fôr Wennol Fach – un o’n hadar môr lleiaf a phrinnaf – yn nythu ar draethau tywod a graean bras agored ein harfordiroedd rhwng mis Mai a mis Awst bob blwyddyn. Wedi monitro’r adar ar draws y DU, gwelwyd fod eu niferoedd wedi lleihau bron bumed ers 2000 o ganlyniad i lai o lwyddiant bridio a’r bygythiadau lu y maent yn agored iddynt ar ein traethau. Roedd cais am gyllid, gyda’r RSBP yn bartner arweiniol, yn llwyddiannus.
Ganol fis Tachwedd cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol yn Norwich i ddathlu llwyddiant y prosiect pum mlynedd, a noddir gan yr UE, i ddiogelu’r Fôr Wennol Fach – ail aderyn môr prinnaf y DU. Mae ‘EU Life+ Little Tern Recovery Project’ yn brosiect partneriaeth gydag 11 o sefydliadau (gan gynnwys Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a sawl AHNE) ac fe’i noddir 50% â nawdd cyfatebol.
Meddai Susan Rendell-Read o’r RSPB, rheolwr prosiect y Fôr Wennol Fach: “Fe lwyddom i gyflawni’r hyn yr oeddem wedi gobeithio ei wneud a gosod y sylfeini ar gyfer adferiad hirdymor yr adar, ond nid yw dyfodol y Fôr Wennol Fach yn sicr o bell ffordd. Mae angen rhagor o arian ar frys i adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf ac i sicrhau y bydd ein harfordir yn parhau i fod yn lle croesawus i’r aderyn hyfryd hwn.”
Siaradodd Adrian Hibbert o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn y gynhadledd a dywedodd: “Un o’r safleoedd a fanteisiodd yn fawr o’r prosiect hwn oedd y warchodfa natur yn Nhwyni Gronant. Gan edrych ar y tueddiadau presennol gallai’r warchodfa fod yn gartref i un rhan o ddeg o boblogaeth bridio’r DU mewn ychydig flynyddoedd. Mae hyn yn newyddion gwych a dylem fod yn falch dros ben fod Sir Ddinbych yn helpu i arwain y ffordd tuag at eu hadferiad.
Nid yw’r Fôr Wennol Fach yn cael amser hawdd ac achosodd Storm Hector lawer o niwed eleni. Er gwaethaf hyn, yma ar arfordir Cymru daeth yr adar atynt eu hunain gan lwyddo i fagu 192 o gywion, sydd yn anhygoel. Cafodd ysglyfaethwyr eu cadw draw gyda ffensys trydan ychwanegol i rwystro llwynogod a gweithiodd bwydo dargyfeiriol y cudyll coch yn hynod o dda. Fe wnaethom hefyd dreialu tarthu am y tro cyntaf a thrwy hynny llwyddwyd i gadw brain i ffwrdd ar ddechrau’r tymor. Yn sicr byddai rhagor o wyau a chywion wedi’u colli heb yr ymyraethau hyn.
Gan na fydd cais am grant i Lywodraeth Cymru’n cael ei benderfynu tan fis Mawrth bydd yn arhosiad hir i weld os gellir diogelu’r adar i’r un lefel eto’r tymor bridio nesaf. Mae Grŵp y Fôr Wennol Fach Gogledd Cymru fodd bynnag wedi cyrraedd 200 o aelodau eleni ac mae hynny’n rhywbeth cadarnhaol dros ben yn y frwydr i helpu i achub yr aderyn môr prin hwn.
Natur er Budd Iechyd
A ydych yn dymuno bod yn weithgar a dysgu sgiliau newydd yn 2019? A hoffech chi gyfarfod pobl newydd ac archwilio eich ardal leol? Yna pam na chymerwch ran yn ein sesiynau gwirfoddoli cefn gwlad neu gerdded wythnosol, am ddim? Maent yn digwydd yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen, felly mae digon i ddewis ohonynt!
Dewch o hyd i’ch sesiwn leol isod, rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod yn Ionawr.
Sesiynau cerdded wythnosol:
|
Ble? Man Cyfarfod Pryd?
|
Llangollen
|
Pafiliwn Llangollen
|
Dydd Mawrth
|
1pm - 3pm
|
Corwen
|
Canolfan Hamdden Corwen
|
Dydd Mawrth
|
10am – 12pm
|
Prestatyn
|
Porth Morfa
|
Dydd Iau
|
1pm - 3pm
|
Y Rhyl
|
Glan Morfa, Marsh Tracks
|
Dydd Iau
|
10am – 1pm
|
Sesiynau gwirfoddoli wythnosol:
|
Ble? Man Cyfarfod Pryd?
|
Llangollen
|
Canolfan Gymunedol Pengwern
|
Dydd Mawrth
|
10am – 1pm
|
Corwen
|
Canolfan Hamdden Corwen
|
Dydd Mercher
|
1pm - 3pm
|
Prestatyn
|
Porth Morfa
|
Dydd Iau
|
10am – 1pm
|
Y Rhyl
|
Glan Morfa, Marsh Tracks
|
Dydd Iau
|
10am – 1pm
|
Mae’r sesiynau hyn yn ffurfio rhan o’r prosiect Natur er budd Iechyd, gyda’r nod o wella bywydau pobl drwy weithgareddau iechyd a lles. Rydym eisiau helpu unigolion a chymunedau yn Sir Ddinbych i gysylltu â chefn gwlad a mabwysiadu arferion iach am oes.
Mae Tai Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i ddarparu'r prosiect, gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Bydd y prosiect peilot 18 mis hwn yn rhedeg yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen.