Beth sydd nesaf?
Cilfannau parcio di-dâl – Meysydd Parcio Ffordd Morley a Gorllewin Stryd Cilmael, Y Rhyl
Yn dilyn llwyddiant y cilfannau parcio di-dâl am 1 awr yn Ninbych a Rhuthun, byddwn yn lledaenu’r cynllun i’r Rhyl. Bydd y cilfannau ym Maes Parcio Gorllewin Stryd Cilmael a Maes Parcio Ffordd Morley. Bydd y cilfannau'n cael eu marcio fel rhai parcio di-dâl gydag arwyddion cysylltiedig.
Peiriannau talu ac arddangos newydd
Byddwn yn disodli 14 o’n peiriannau talu ac arddangos presennol cyn diwedd Mawrth 2019. Bydd y peiriannau newydd yn cynnig talu trwy gerdyn. Y meysydd parcio a nodwyd ar gyfer y peiriannau newydd yw:
- Ward y Ffatri, Dinbych
- Heol y Dwyrain, Llangollen
- Heol y Farchnad, Llangollen
- Heol y Felin, Llangollen
- Heol y Parc, Rhuthun
- Ffordd Llys y Nant (Canolog), Prestatyn
- Cefn Nova, Prestatyn
- Rhodfa’r Brenin, Prestatyn
- Ffordd Morley, Y Rhyl
- Gorsaf Drenau, Y Rhyl
- Crispin Yard, Rhuthun