Beth sydd nesaf?
Cilfannau parcio di-dâl – Meysydd Parcio Ffordd Morley a Gorllewin Stryd Cilmael, Y Rhyl
Yn dilyn llwyddiant y cilfannau parcio di-dâl am 1 awr yn Ninbych a Rhuthun, byddwn yn lledaenu’r cynllun i’r Rhyl. Bydd y cilfannau ym Maes Parcio Gorllewin Stryd Cilmael a Maes Parcio Ffordd Morley. Bydd y cilfannau'n cael eu marcio fel rhai parcio di-dâl gydag arwyddion cysylltiedig.
Peiriannau talu ac arddangos newydd
Byddwn yn disodli 14 o’n peiriannau talu ac arddangos presennol cyn diwedd Mawrth 2019. Bydd y peiriannau newydd yn cynnig talu trwy gerdyn. Y meysydd parcio a nodwyd ar gyfer y peiriannau newydd yw:
- Ward y Ffatri, Dinbych
- Heol y Dwyrain, Llangollen
- Heol y Farchnad, Llangollen
- Heol y Felin, Llangollen
- Heol y Parc, Rhuthun
- Ffordd Llys y Nant (Canolog), Prestatyn
- Cefn Nova, Prestatyn
- Rhodfa’r Brenin, Prestatyn
- Ffordd Morley, Y Rhyl
- Gorsaf Drenau, Y Rhyl
- Crispin Yard, Rhuthun
Meysydd Parcio Ffordd Llys y Nant (Canolog) a Rhodfa Rhedyn, Prestatyn
O 1af Ionawr 2019 bydd prisiau newydd yn berthnasol yn y meysydd parcio uchod. Y prisiau newydd yw:
- Hyd at 4 awr – am ddim (Cyngor Tref Prestatyn sy’n noddi hyn)
- Dros 4 awr – £3.50
Fe all cwsmeriaid sy’n defnyddio’r meysydd parcio hyn bob dydd brynu hawlenni o Siop Un Alwad Prestatyn ac mae dewisiadau ychwanegol ar gyfer gwneud cais i’w gael ar ein gwefan >>> www.sirddinbych.gov.uk/parcio.
Prosiect cyfnewid byrddau prisiau
Yn fuan, byddwn yn dechrau prosiect i adnewyddu ein holl fyrddau prisiau. Mae enghraifft o’r bwrdd prisiau newydd i’w weld isod.
Hysbysebu ar gefn ein tocynnau Talu ac Arddangos
Fe fydd gan y Cyngor rhai cyfleoedd i fusnesau hysbysebu ar gefn ein tocynnau talu ac arddangos. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â James Parson ar 01824 706889 neu e-bostiwch ef ar james.parson@sirddinbych.gov.uk.