llais y sir

Gaeaf 2018

Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych yn gwella bywydau trigolion

Mae cynllun pum mlynedd i wella bywydau trigolion Sir Ddinbych yn cael effaith yn barod.

Bydd Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn buddsoddi £135miliwn mewn meysydd allweddol er budd y sir.

Mae’r prosiectau’n cynnwys adeiladu tai cyngor newydd, buddsoddi mewn cludiant a seilwaith digidol, amddiffyn a gwella'r amgylchedd a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.

Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion wedi elwa ar adeiladau ysgol newydd, ac mae miloedd o goed wedi cael eu plannu fel rhan o gynllun i greu sawl hafan werdd yn nhrefi’r sir.

Meddai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Ein bwriad yw gwneud newidiadau yn ein cymunedau fydd yn gosod sylfaeni iddyn nhw lwyddo a ffynnu yn y tymor hir.

“Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bum maes allweddol sy’n cynnwys yr amgylchedd, pobl ifanc, tai yn ogystal â chlymu cymunedau cryf.

“Rydym eisoes wedi cychwyn adeiladu tai cyngor newydd – fydd i gyd yn effeithlon o ran ynni – ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â chymunedau a darparwyr i wella ein seilwaith digidol.

“Hyd yma, mae pethau’n datblygu ar gyflymder da ac at safon dda, ac rydym yn croesawu’r nodau heriol y mae ein trigolion wedi’u gosod i ni. Mae 18 mis cyntaf y cynllun wedi gosod sylfaen cadarn ar gyfer gwaith parhaus y Cynllun Corfforaethol.

“Byddwn hefyd yn cydweithio’n agos â’n trigolion i’w gwneud yn haws iddyn nhw ymdopi â heriau yn eu bywydau, drwy wella’r gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â gwrando’n fwy gofalus ar ein cymunedau a’u helpu i gyrraedd eu nodau.”

Fel rhan o’r Cynllun Corfforaethol, fydd yn rhedeg tan 2022, mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn Y Rhyl a chymorth ychwanegol i’r bobl hynny sy’n chwilio am waith neu eisiau datblygu eu gyrfaoedd.

Mae Mesuryddion Atebolrwydd Cyhoeddus 2017-18 a gyhoeddwyd gan Ddata Cymru yn gynharach eleni, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dangos bod Sir Ddinbych yn y chweched safle allan o 22 o gynghorau Cymru.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...