llais y sir

Caniatau trefn gwastraff ac ailgylchu newydd yn Sir Ddinbych

Mae cynlluniau i newid casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Sir Ddinbych wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd y newidiadau i'r gwasanaeth ailgylchu yn cynnwys:

  • casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy megis papur, gwydr, caniau a phlastig
  • casgliad wythnosol newydd ar gyfer cewynnau a gwisg anymataliad
  • casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd
  • casgliad newydd pob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan

Y nod yw annog mwy o ailgylchu na chyfraddau cyfredol y Cyngor (64%) i gyrraedd targed 70% Llywodraeth Cymru erbyn 2025, gyda disgwyliad y bydd y targed yn codi i 80% yn y dyfodol.

Os yw trigolion yn defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu yn gywir, dim ond ychydig iawn o wastraff gweddilliol fydd yn cael ei greu. Felly mae'r Cyngor yn bwriadu newid y casgliad o wastraff na ellir ei ailgylchu i bob pedair wythnos ar gyfer y mwyafrif o gartrefi.

Bydd gallu i breswylwyr ddewis biniau du mwy pe bai angen, ond yn gyffredinol, byddai gan gartrefi fwy o allu bob wythnos ar gyfer rheoli eu gwastraff nag sydd ganddynt gyda'r gwasanaeth presennol.

Bydd y gwasanaeth ailgylchu wythnosol (gan ddefnyddio system Trollibloc) yn darparu mwy o gynhwysedd i ailgylchu o'i gymharu â'r casgliad pob pythefnos presennol gyda'r bin olwyn glas. Gallai pobl greu hyd yn oed mwy o le yn eu bin du trwy ddefnyddio'r gwasanaethau ailgylchu newydd ymyl y ffordd ar gyfer tecstilau, nwyddau trydanol bach, batris, cewynnau a gwastraff anymataliad. Mae'r Cyngor o'r farn y dylai cynyddu maint y biniau i'r rhai  newydd a chyflwyno
casgliadau ailgylchu wythnosol  ddiwallu anghenion trigolion.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo £ 7.9 miliwn tuag at y gwasanaeth arfaethedig. Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r seilwaith angenrheidiol i alluogi'r cyngor i newid y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: "Mae hwn wedi bod yn benderfyniad mawr i’r Cyngor ac mae’r cynigion wedi cael eu trafod a’u craffu mewn manylder.

“Rydym yn hapus bod y cynigion wedi cael eu derbyn a rŵan mae’r gwaith caled yn cychwyn i baratoi ar gyfer y newidiadau.  Rydym wedi cymryd sylw o’r sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym am weithio i sicrhau bod y newid yn digwydd mor llyfn â phosib. 

“Bydd y modd newydd o weithio yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, yn gwneud i drigolion gysidro beth i’w ailgylchu a hefyd yn arbed arian drwy gyflwyno gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon”.

Dros y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn lansio ymgyrch wybodaeth er mwyn hysbysu trigolion o’r newidiadau a’r effaith arnynt a’u cymunedau. Mae disgwyl i’r cyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi’r gwasanaeth fod mewn lle erbyn cynnar 2021, gyda’r bwriad o drosglwyddo pob cymuned i’r gwasanaeth newydd erbyn Gorffennaf 2021.

Bydd rhagor o wybodaeth i’w gael ar: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid