llais y sir

Llwyddiant Gwasanaeth Cerdd yn Sir Ddinbych

Mae gwasanaeth cerdd cydweithredol arloesol a sefydlwyd yn Sir Ddinbych yn 2015 erbyn hyn wedi dyblu mewn maint.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych yn sefydliad  nid er elw sy’n cynnig gwersi cerdd i ddisgyblion ar draws Sir Ddinbych, ac yn fwy diweddar, sir Wrecsam.  Sefydlwyd y gwasanaeth mewn ymateb i doriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych.  Gweithiodd tiwtoriaid a gyflogwyd yn flaenorol gan Wasanaeth Cerdd William Mathias gyda Chyngor Sir Ddinbych i sefydlu model cydweithredol amgen a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerddoriaeth barhau.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r gwasanaeth wedi tyfu gyda dros 4,000 o bobl ifanc yn cael gwersi – dwbl y nifer oedd ar y llyfrau ar y dechrau, ac mae dros 50 o diwtoriaid arbenigol yn awr yn rhannu eu profiad er budd y genhedlaeth bresennol o gerddorion ifanc.

Meddai Heather Powell, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych:  “Pan gyhoeddwyd y toriad i’r gyllideb, daeth y tiwtoriaid at ei gilydd i edrych ar fodel cydweithredol ar gyfer gwasanaethau cerdd ac roeddent o’r farn ei fod yn fodel da iawn.  Wedi hynny cafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych a chawsom gefnogaeth ganddynt ar  ffurf offerynnau a swm o arian i ddechrau gwasanaeth a dyna oedd cychwyn y cyfan.

“Mae wedi bod yn her, ond dros y tair blynedd rydym wedi tyfu ac mae gennym fwy o fyfyrwyr yn cael gwersi a llawer mwy o diwtoriaid - 50 yn Sir Ddinbych erbyn hyn.  Bu modd i ni addasu'r hyn yr ydym yn ei gynnig i ysgolion, gan ddarparu athrawon llanw gydag arbenigeddau cerddorol ac yn y celfyddydau perfformio ac mae gennym raglenni anghenion addysg arbennig a rhaglenni ‘mwy abl a thalentog’ ar gael i ysgolion.

“Rydym hefyd wedi ennill llawer o wobrau. Yn y 12 mis diwethaf enillom wobr Dewis y Beirniaid y Daily Post, Gwobr Co-operative Cymru ‘One to Watch’, ac yn fwy diweddar enillom wobr 50 Busnes Mwyaf Radical y DU papur newydd yr Observer, felly mae’n amser digon cyffrous i ni i gyd.

“Rydym yn cynnig gwersi llais ac offeryn arbenigol i bob ysgol yn Sir Ddinbych, sy’n amrywio o wersi canu i wersi telyn.  Rydym hefyd yn rhedeg gwersi theori a cherdd llafar i’n holl ddisgyblion ac yn cefnogi gwersi cerdd TGAU a Lefel A. Rydym yn rhedeg sawl ensemble ar ôl yr ysgol – mae gennym gorau, bandiau pres, band jas, grwpiau gitâr ac offerynnau taro. Ar hyn o bryd mae gennym 4,000 o ddisgyblion yr wythnos yn defnyddio’r gwasanaeth, sydd ddwywaith maint y gwasanaeth pan ddechreuodd.  

“Rydym wedi dechrau rhedeg a chefnogi  gwasanaeth yn Wrecsam ac rydym yn gwybod fod sawl awdurdod lleol arall yn edrych ar y model, sydd yn gyffrous dros ben.  Rydym yn gobeithio dal ati i gynyddu a gwella’r hyn sydd ar gael i ysgolion ac ymgysylltu â mwy o ddisgyblion ar draws Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw-Hilditch Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol dros Blant, Pobl Ifanc, Addysg a’r iaith Gymraeg:  “Nid oedd y penderfyniad i dorri cyllideb y gwasanaeth cerdd yn un a gymerwyd yn ysgafn ac roeddem eisiau dod o hyd i ateb arall a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerdd barhau, ond mewn ffordd wahanol.

“Edrychom ar y syniad o greu cydweithredfa gyda’r tiwtoriaid ac roeddem yn meddwl ei fod yn ateb ymarferol a hyfyw.  Gyda chymorth ymarferol ac ariannol gan y Cyngor a llawer o ymrwymiad a brwdfrydedd ar ran y tiwtoriaid, sy’n cael eu harwain mor abl gan Heather a’r tîm, ganed y gwasanaeth cydweithredol. 

“Mae’r gwasanaeth erbyn hyn wedi mynd o nerth i nerth ac rydym wrth ein bodd gweld cenhedlaeth newydd o ddisgyblion yn cael mynediad i wersi cerdd a diwallu’r galw amlwg sydd am wasanaeth o’r fath.  

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid