llais y sir

Gaeaf 2018

Neges gan y Prif Weithredwr, Judith Greenhalgh

Erbyn hyn, rwyf wedi bod gyda chi yn Sir Ddinbych, fel eich Prif Weithredwr, am wyth mis. Mae’r amser wedi hedfan ac rwy’n teimlo’n hynod o lwcus a breintiedig o weithio mewn rhan mor brydferth o Gymru a'r DU. Yn ddaearyddol, mae Sir Ddinbych yn Sir eithaf bychan, ond mae gennym bopeth yma – traethau a morlin godidog, trefi marchnad hanesyddol, cymunedau pentref sy’n ffynnu a’n cefn gwlad anhygoel – pob un o fewn tafliad carreg i’w gilydd.CEO

Balch o weithio i Sir Ddinbych

Rwy’n falch iawn o'r Cyngor. Rydym wedi bod yn Gyngor sy’n perfformio’n uchel yn gyson ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ond yn fy misoedd cyntaf rwyf wedi bod yn edrych ar bopeth a wnawn, er mwyn archwilio i weld os oes posib gwneud pethau’n fwy effeithlon ac effeithiol, gan fod lle ar gyfer gwella bob amser. Gyda’r toriadau yn y gyllideb yn parhau a gofynion a disgwyliadau ein gwasanaethau yn tyfu, rhaid i mi a fy nhîm rheoli sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau yn y ffordd orau bosib. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar gynhyrchu incwm ac ar ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau; yn ddiweddar bûm yn ymgynghori â’n preswylwyr ar newidiadau i’n model gwastraff a fydd yn cynyddu’r nifer o gasgliadau a dylai gynyddu faint yr ydym yn ei ailgylchu. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno prosiectau i wella ein heffeithlonrwydd mewnol a phrosiectau a fydd yn newid y ffordd y darparwn ein gwasanaethau. Rwy’n gweithio gyda fy rheolwyr i ystyried y rhain, nid yn unig i fodloni’r heriau cyllido a wynebwn ond hefyd er mwyn gwella ein gwasanaethau ymhellach fyth.

Gweithio i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol

Pan ymunais â Chyngor Sir Ddinbych, rhoddodd Arweinydd y Cyngor a’i gabinet y dasg i mi o gyflawni eu cynllun corfforaethol, a gafodd ei greu yn 2017 yn dilyn ‘Sgwrs y Sir’ eang, lle gofynnwyd i’n preswylwyr fynegi eu barn ar yr hyn oedd yn bwysig iddynt. Rwy’n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni’r blaenoriaethau hyn; tai, cymunedau cysylltiol a chadarn, yr amgylchedd a phobl ifanc. Mae hi dal yn ddyddiau cynnar o ran cyflawni ein cynllun, ond hyderaf y gallwn wneud gwahaniaeth yn y meysydd sy’n bwysig i chi. Ynghyd â’n cynllun corfforaethol, mae gwasanaethau pwysig eraill y mae’r Cyngor yn eu darparu bob dydd ar eich rhan; ar lefel ddwys i’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn ac yn fwy cyffredinol i gyfran ehangach o’n poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ein llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, a wyddwn sy'n bwysig iawn i chi ac mae'r Cyngor wedi buddsoddi swm sylweddol o arian i'w gwneud ymysg y gorau yn eu dosbarth. Os nad ydych wedi cael cyfle i ymweld ers tro, gwnewch hynny, rwy’n siŵr y cewch eich synnu.

Edrych i’r dyfodol

Bydd y flwyddyn newydd, 2019, yn dod â nifer o heriau a chyfleoedd i ni. Yn gynnar yn y flwyddyn, gobeithiwn gyflawni telerau Bargen Dwf Gogledd Cymru, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd yn dod â miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i’n rhanbarth, gan greu swyddi, datblygu tai a busnesau, cyllido datblygiad sgiliau a gwella ein hisadeiledd cludiant a digidol hanfodol. Mae hwn wir yn gyfle unwaith mewn bywyd ar gyfer Gogledd Cymru, a bydd yn hwb mawr i’n rhanbarth, gan ein helpu i fynd i’r afael â nifer o broblemau a materion yr ydych yn ei wynebu. Byddaf yn gweithio’n galed gydag arweinwyr a phrif weithredwyr eraill ar draws y rhanbarth i sicrhau bod hyn yn digwydd i ni.

Dymuniadau gorau i chi oll, eich ffrindiau a theuluoedd, am Nadolig llawen a blwyddyn newydd hapus a heddychlon.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...