llais y sir

Newyddion

Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu'n parhau drwy gydol y Nadolig

Am fod Dydd Nadolig ar ddydd Mawrth eleni, bydd y mwyafrif o breswylwyr Sir Ddinbych yn cael fod eu dyddiau casglu ailgylchu ac ysbwriel yn newid dros yr ŵyl. Preswylwyr sydd yn derbyn casgliad ar ddyddiau Llun fel arfer yw’r unig rai na fydd yn cael eu heffeithio.Bin with snow

Nodir y newidiadau i’r rhaglen gasgliadau dros gyfnod y Nadolig isod.

Caiff tanysgrifwyr i'r gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd eu hatgoffa y bydd casgliadau’n digwydd dros gyfnod y gwyliau.

Mae manylion llawn y dyddiau casglu ar y calendrau a ddosbarthwyd yn ystod mis Tachwedd, neu mae modd dod o hyd iddynt ar win gwefan.

DYDDIAD CASGLU ARFEROL DYDDIAD CASGLU NEWYDD
Dydd Llun 24 Rhagfyr aros yr un fath Dydd Llun 24 Rhagfyr
Dydd Mawrth 25 Rhagfyr newid i Dydd Mercher 26 Rhagfyr
Dydd Mercher 26 Rhagfyr newid i Dydd Iau 27 Rhagfyr
Dydd Iau 27 Rhagfyr newid i Dydd Gwener 28 Rhagfyr
Dydd Gwener 28 Rhagfyr newid i Dydd Sadwrn 29 Rhagfyr
Dydd Llun 31 Rhagfyr aros yr un fath Dydd Llun 31 Rhagfyr
Dydd Mawrth 1 Ionawr 2019 newid i Dydd Mercher 2 Ionawr
Dydd Mercher 2 Ionawr newid i Dydd Iau 3 Ionawr
Dydd Iau 3 Ionawr newid i Dydd Gwener 4 Ionawr
Dydd Gwener 4 Ionawr newid i Dydd Sadwrn 5 Ionawr

YMHOLIADAU

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y trefniadau casglu dros gyfnod yr ŵyl, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor Sir ar 01824 706000.

Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Am yr holl wybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ewch i'n gwefan.

Caniatau trefn gwastraff ac ailgylchu newydd yn Sir Ddinbych

Mae cynlluniau i newid casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Sir Ddinbych wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd y newidiadau i'r gwasanaeth ailgylchu yn cynnwys:

  • casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy megis papur, gwydr, caniau a phlastig
  • casgliad wythnosol newydd ar gyfer cewynnau a gwisg anymataliad
  • casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd
  • casgliad newydd pob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan

Y nod yw annog mwy o ailgylchu na chyfraddau cyfredol y Cyngor (64%) i gyrraedd targed 70% Llywodraeth Cymru erbyn 2025, gyda disgwyliad y bydd y targed yn codi i 80% yn y dyfodol.

Os yw trigolion yn defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu yn gywir, dim ond ychydig iawn o wastraff gweddilliol fydd yn cael ei greu. Felly mae'r Cyngor yn bwriadu newid y casgliad o wastraff na ellir ei ailgylchu i bob pedair wythnos ar gyfer y mwyafrif o gartrefi.

Bydd gallu i breswylwyr ddewis biniau du mwy pe bai angen, ond yn gyffredinol, byddai gan gartrefi fwy o allu bob wythnos ar gyfer rheoli eu gwastraff nag sydd ganddynt gyda'r gwasanaeth presennol.

Bydd y gwasanaeth ailgylchu wythnosol (gan ddefnyddio system Trollibloc) yn darparu mwy o gynhwysedd i ailgylchu o'i gymharu â'r casgliad pob pythefnos presennol gyda'r bin olwyn glas. Gallai pobl greu hyd yn oed mwy o le yn eu bin du trwy ddefnyddio'r gwasanaethau ailgylchu newydd ymyl y ffordd ar gyfer tecstilau, nwyddau trydanol bach, batris, cewynnau a gwastraff anymataliad. Mae'r Cyngor o'r farn y dylai cynyddu maint y biniau i'r rhai  newydd a chyflwyno
casgliadau ailgylchu wythnosol  ddiwallu anghenion trigolion.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo £ 7.9 miliwn tuag at y gwasanaeth arfaethedig. Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r seilwaith angenrheidiol i alluogi'r cyngor i newid y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: "Mae hwn wedi bod yn benderfyniad mawr i’r Cyngor ac mae’r cynigion wedi cael eu trafod a’u craffu mewn manylder.

“Rydym yn hapus bod y cynigion wedi cael eu derbyn a rŵan mae’r gwaith caled yn cychwyn i baratoi ar gyfer y newidiadau.  Rydym wedi cymryd sylw o’r sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym am weithio i sicrhau bod y newid yn digwydd mor llyfn â phosib. 

“Bydd y modd newydd o weithio yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, yn gwneud i drigolion gysidro beth i’w ailgylchu a hefyd yn arbed arian drwy gyflwyno gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon”.

Dros y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn lansio ymgyrch wybodaeth er mwyn hysbysu trigolion o’r newidiadau a’r effaith arnynt a’u cymunedau. Mae disgwyl i’r cyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi’r gwasanaeth fod mewn lle erbyn cynnar 2021, gyda’r bwriad o drosglwyddo pob cymuned i’r gwasanaeth newydd erbyn Gorffennaf 2021.

Bydd rhagor o wybodaeth i’w gael ar: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu

Neges gan y Prif Weithredwr, Judith Greenhalgh

Erbyn hyn, rwyf wedi bod gyda chi yn Sir Ddinbych, fel eich Prif Weithredwr, am wyth mis. Mae’r amser wedi hedfan ac rwy’n teimlo’n hynod o lwcus a breintiedig o weithio mewn rhan mor brydferth o Gymru a'r DU. Yn ddaearyddol, mae Sir Ddinbych yn Sir eithaf bychan, ond mae gennym bopeth yma – traethau a morlin godidog, trefi marchnad hanesyddol, cymunedau pentref sy’n ffynnu a’n cefn gwlad anhygoel – pob un o fewn tafliad carreg i’w gilydd.CEO

Balch o weithio i Sir Ddinbych

Rwy’n falch iawn o'r Cyngor. Rydym wedi bod yn Gyngor sy’n perfformio’n uchel yn gyson ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ond yn fy misoedd cyntaf rwyf wedi bod yn edrych ar bopeth a wnawn, er mwyn archwilio i weld os oes posib gwneud pethau’n fwy effeithlon ac effeithiol, gan fod lle ar gyfer gwella bob amser. Gyda’r toriadau yn y gyllideb yn parhau a gofynion a disgwyliadau ein gwasanaethau yn tyfu, rhaid i mi a fy nhîm rheoli sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau yn y ffordd orau bosib. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar gynhyrchu incwm ac ar ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau; yn ddiweddar bûm yn ymgynghori â’n preswylwyr ar newidiadau i’n model gwastraff a fydd yn cynyddu’r nifer o gasgliadau a dylai gynyddu faint yr ydym yn ei ailgylchu. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno prosiectau i wella ein heffeithlonrwydd mewnol a phrosiectau a fydd yn newid y ffordd y darparwn ein gwasanaethau. Rwy’n gweithio gyda fy rheolwyr i ystyried y rhain, nid yn unig i fodloni’r heriau cyllido a wynebwn ond hefyd er mwyn gwella ein gwasanaethau ymhellach fyth.

Gweithio i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol

Pan ymunais â Chyngor Sir Ddinbych, rhoddodd Arweinydd y Cyngor a’i gabinet y dasg i mi o gyflawni eu cynllun corfforaethol, a gafodd ei greu yn 2017 yn dilyn ‘Sgwrs y Sir’ eang, lle gofynnwyd i’n preswylwyr fynegi eu barn ar yr hyn oedd yn bwysig iddynt. Rwy’n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni’r blaenoriaethau hyn; tai, cymunedau cysylltiol a chadarn, yr amgylchedd a phobl ifanc. Mae hi dal yn ddyddiau cynnar o ran cyflawni ein cynllun, ond hyderaf y gallwn wneud gwahaniaeth yn y meysydd sy’n bwysig i chi. Ynghyd â’n cynllun corfforaethol, mae gwasanaethau pwysig eraill y mae’r Cyngor yn eu darparu bob dydd ar eich rhan; ar lefel ddwys i’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn ac yn fwy cyffredinol i gyfran ehangach o’n poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ein llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, a wyddwn sy'n bwysig iawn i chi ac mae'r Cyngor wedi buddsoddi swm sylweddol o arian i'w gwneud ymysg y gorau yn eu dosbarth. Os nad ydych wedi cael cyfle i ymweld ers tro, gwnewch hynny, rwy’n siŵr y cewch eich synnu.

Edrych i’r dyfodol

Bydd y flwyddyn newydd, 2019, yn dod â nifer o heriau a chyfleoedd i ni. Yn gynnar yn y flwyddyn, gobeithiwn gyflawni telerau Bargen Dwf Gogledd Cymru, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd yn dod â miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i’n rhanbarth, gan greu swyddi, datblygu tai a busnesau, cyllido datblygiad sgiliau a gwella ein hisadeiledd cludiant a digidol hanfodol. Mae hwn wir yn gyfle unwaith mewn bywyd ar gyfer Gogledd Cymru, a bydd yn hwb mawr i’n rhanbarth, gan ein helpu i fynd i’r afael â nifer o broblemau a materion yr ydych yn ei wynebu. Byddaf yn gweithio’n galed gydag arweinwyr a phrif weithredwyr eraill ar draws y rhanbarth i sicrhau bod hyn yn digwydd i ni.

Dymuniadau gorau i chi oll, eich ffrindiau a theuluoedd, am Nadolig llawen a blwyddyn newydd hapus a heddychlon.

Nawdd ar gael i helpu’r rheiny mewn gwaith i ddatblygu eu gyrfaoedd

Mae modd i weithwyr sy’n dymuno gwella eu sgiliau i ddatblygu eu gyrfaoedd gael help llaw diolch i gynllun newydd y Cyngor.

Mae bwrsari cyflogaeth pobl ifanc y Cyngor ar agor i weithwyr rhwng 18 a 35 mlwydd oed yn Sir Ddinbych ac mae nawdd ar gael i dalu am gyrsiau hyfforddi i’w helpu i ddatblygu o fewn y gweithle presennol neu ennill swydd â chyflog uwch gyda chyflogwr newydd yn Sir Ddinbych. 

Mae posib i'r Cyngor helpu hyd at 80 unigolyn y flwyddyn gyda nawdd rhwng £250 a £2,000 y pen fel rhan o waith y Cyngor i sicrhau bod pobl ifanc eisiau byw a gweithio o fewn y sir a gyda’r sgiliau i wneud hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r dull arloesol hwn gan y Cyngor yn anelu i helpu pobl ifanc cyflogedig i ddatblygu eu gyrfa a chreu cyfleoedd newydd iddynt.

“Rydym eisiau annog pobl ifanc sy’n gweithio yn y sir i ddatblygu a thyfu yn eu gyrfaoedd ac ennill cyflogau uwch, a fydd o fudd i fusnesau’r sir gan gadw unigolion talentog a chrefftus.”

Gellir defnyddio’r nawdd ar gyfer cyrsiau Addysg Bellach ynghyd â sgiliau proffesiynol a hyfforddiant. 

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Gall buddsoddiad mewn person ifanc, drwy dalu am gwrs hyfforddiant, wneud gwahaniaeth mawr drwy eu helpu i wneud ceisiadau am swyddi â chyflog uwch, a fydd yn cynyddu eu potensial enillion drwy gydol eu gyrfaoedd.

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd gwell i bobl ifanc, ac mae’r bwrsari yn ein helpu i gyflawni hyn.”

I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod rhwng 18 a 35 mlwydd oed, byw yn Sir Ddinbych, ac yn ennill o dan gyflog canolrif y sir o £20,326, yn gweithio ar hyn o bryd (lleiafswm o 16 awr) a gallu dangos argaeledd swyddi addas gyda chwmni wedi’i leoli yn Sir Ddinbych unwaith mae’r sgiliau wedi eu hennill.

Am ragor o fanylion gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan www.sirddinbych.gov.uk/bwrsariaeth-sgiliau 

Hosbis i elwa o gasgliad gwasanaeth carolau

Diolch i’r rheiny ohonoch fynychodd ein gwasanaeth carolau elusennol ac ein helpu ni i gasglu £400 tuag at Hosbis Sant Cyndeyrn.

Roedd y gwasanaeth, a gynhaliwyd yn Eglwys Plwyf Llanelwy yn cynnwys perfformiadau gan Côr Cytgan Clwyd, Côr Sain y Sir (yn cynnwys staff y Cyngor), unawdydd Owain John o Ysgol Glan Clwyd, y delynores Angharad Huw o Ysgol Brynhyfryd a pherfformiad difyr gan Gerddoriaeth Sir Ddinbych Ensemble pres cydweithredol i orffen y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor: "Mae ein gwasanaeth carol wedi sefydlu ers ei hun fel un o wasanaethau cyntaf tymor y carolau. Roedd yn noson wirioneddol hudol, yn cynnwys perfformiadau traddodiadol a modern. Cyflwynodd staff a chynghorwyr stori'r Nadolig trwy ddarlleniadau ac roedd yr eitemau cerddorol yn diddanu'r gynulleidfa ac yn ychwanegu rhywbeth arbennig at y noson.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau hael ac edrychwn ymlaen at basio'r casgliad ymlaen i Hosbis Sant Cyndeyrn.

Ensemble Cerddoriaeth Sir Ddinbych

Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych yn gwella bywydau trigolion

Mae cynllun pum mlynedd i wella bywydau trigolion Sir Ddinbych yn cael effaith yn barod.

Bydd Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn buddsoddi £135miliwn mewn meysydd allweddol er budd y sir.

Mae’r prosiectau’n cynnwys adeiladu tai cyngor newydd, buddsoddi mewn cludiant a seilwaith digidol, amddiffyn a gwella'r amgylchedd a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.

Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion wedi elwa ar adeiladau ysgol newydd, ac mae miloedd o goed wedi cael eu plannu fel rhan o gynllun i greu sawl hafan werdd yn nhrefi’r sir.

Meddai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Ein bwriad yw gwneud newidiadau yn ein cymunedau fydd yn gosod sylfaeni iddyn nhw lwyddo a ffynnu yn y tymor hir.

“Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bum maes allweddol sy’n cynnwys yr amgylchedd, pobl ifanc, tai yn ogystal â chlymu cymunedau cryf.

“Rydym eisoes wedi cychwyn adeiladu tai cyngor newydd – fydd i gyd yn effeithlon o ran ynni – ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â chymunedau a darparwyr i wella ein seilwaith digidol.

“Hyd yma, mae pethau’n datblygu ar gyflymder da ac at safon dda, ac rydym yn croesawu’r nodau heriol y mae ein trigolion wedi’u gosod i ni. Mae 18 mis cyntaf y cynllun wedi gosod sylfaen cadarn ar gyfer gwaith parhaus y Cynllun Corfforaethol.

“Byddwn hefyd yn cydweithio’n agos â’n trigolion i’w gwneud yn haws iddyn nhw ymdopi â heriau yn eu bywydau, drwy wella’r gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â gwrando’n fwy gofalus ar ein cymunedau a’u helpu i gyrraedd eu nodau.”

Fel rhan o’r Cynllun Corfforaethol, fydd yn rhedeg tan 2022, mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn Y Rhyl a chymorth ychwanegol i’r bobl hynny sy’n chwilio am waith neu eisiau datblygu eu gyrfaoedd.

Mae Mesuryddion Atebolrwydd Cyhoeddus 2017-18 a gyhoeddwyd gan Ddata Cymru yn gynharach eleni, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dangos bod Sir Ddinbych yn y chweched safle allan o 22 o gynghorau Cymru.

Cynnig Gofal Plant 30 Awr i Gymru

Mae'r Cyngor yn falch iawn o gadarnhau y bydd cynllun Llywodraeth Cymru sy’n cynnig 30 awr o addysg a gofal plant wedi’i gyllido'r wythnos yng Nghymru yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2019, a bydd y sir i gyd yn elwa o gyflwyno’r cynllun ar yr un pryd.

Bydd modd i blant cymwys fanteisio ar y cynnig o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.

Bydd gan blant cymwys hawl i 30 awr o ofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar am ddim, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gyda rhieni’n cael dewis unrhyw leoliad sydd wedi’u cofrestru sy’n addas ar gyfer eu hamgylchiadau personol a theuluol.

I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, mae’n rhaid i rieni / gofalwyr fodloni cyfres o feini prawf: Rhaid i’w plentyn fod yn 3 neu 4 oed; rhaid i rieni / gofalwyr weithio ac ennill cyfwerth ag 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol o leiaf, neu fod yn derbyn budd-daliadau gofal penodol a rhaid iddynt fyw yn Sir Ddinbych.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer y cynnig a gwybodaeth gyffredinol am ofal plant ar ein gwefan https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/cymunedau-a-byw/gofal-plant-a-rhianta/gofal-plant-a-rhianta.aspx neu drwy Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01745 815891.

Cofrestr Tai Fforddiadwy newydd i helpu pobl i ddod o hyd i gartref delfrydol

Mae darpar brynwyr tai a thenantiaid yn cael eu hannog i ymuno â chofrestr tai fforddiadwy ar-lein newydd er mwyn gwella eu siawns o sicrhau eu cartref delfrydol.  

Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau lleol, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn symleiddio’r dull y mae pobl yn gwneud cais am gartref fforddiadwy.

Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.

Grŵp Cynefin sy’n arwain y prosiect. Yn ogystal â Grŵp Cynefin, mae partneriaid eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a saith awdurdod lleol : Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Powys, Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir Ynys Môn.

Y cymdeithasau tai eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Tai Pennaf, Tai Gogledd Cymru, Tai Wales & West, a Cartrefi Conwy.

Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio’r gofrestr tai cyngor perthnasol yn eu hardal.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan: www.taiteg.org.uk

Lansio fideo newydd sbon ar ddiogelu

Mae fideo sy'n codi ymwybyddiaeth o'r angen i roi gwybod am bryderon am gamdriniaeth o unrhyw fath wedi'i lansio gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Mae Lansio 'Gweld Rhywbeth, Dywedwch Rhywbeth' yn canolbwyntio ar ddwy sefyllfa go iawn sy'n dangos nifer o wahanol fathau o gamdriniaeth yn digwydd a sut mae unigolion mewn penbleth rhwng yr angen i ymyrryd ai peidio.

Mae'r golygfeydd yn dangos dau unigolyn sy'n dod ar draws rhywfaint o dystiolaeth o gamdriniaeth gorfforol, emosiynol ac ariannol sy'n cael ei gadarnhau wrth i'r stori ddatblygu.

Dywedodd Jenny Williams, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru: "Gyda chymaint o sylw ar yr wythnos ddiogelu genedlaethol, mae'n amser delfrydol i godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol fathau o gamdriniaeth a allai fod yn digwydd yn ein cymunedau.

Mae hwn yn fideo gyda stori ysgytwol ac mae hynny am reswm. Rydyn ni wir am iddi wneud pobl i feddwl ac rydym wedi dod â'r mater i fywyd trwy ddweud storïau  yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn, gall helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall y problemau cymhleth hyn. Deall y cefndir i’r straeon hyn yw'r cam cyntaf tuag at unigolion a sefydliadau i fod yn fwy hyderus i gynorthwyo'r rhai sydd mewn perygl yn well.

"Rydyn ni am i'r fideo hwn gael ei rannu ymhell ac agos er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth, gwneud i bobl feddwl ac yn bwysicach fyth wneud i bobl weithredu os oes ganddynt unrhyw fath o bryder".

Llwyddiant Gwasanaeth Cerdd yn Sir Ddinbych

Mae gwasanaeth cerdd cydweithredol arloesol a sefydlwyd yn Sir Ddinbych yn 2015 erbyn hyn wedi dyblu mewn maint.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych yn sefydliad  nid er elw sy’n cynnig gwersi cerdd i ddisgyblion ar draws Sir Ddinbych, ac yn fwy diweddar, sir Wrecsam.  Sefydlwyd y gwasanaeth mewn ymateb i doriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych.  Gweithiodd tiwtoriaid a gyflogwyd yn flaenorol gan Wasanaeth Cerdd William Mathias gyda Chyngor Sir Ddinbych i sefydlu model cydweithredol amgen a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerddoriaeth barhau.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r gwasanaeth wedi tyfu gyda dros 4,000 o bobl ifanc yn cael gwersi – dwbl y nifer oedd ar y llyfrau ar y dechrau, ac mae dros 50 o diwtoriaid arbenigol yn awr yn rhannu eu profiad er budd y genhedlaeth bresennol o gerddorion ifanc.

Meddai Heather Powell, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych:  “Pan gyhoeddwyd y toriad i’r gyllideb, daeth y tiwtoriaid at ei gilydd i edrych ar fodel cydweithredol ar gyfer gwasanaethau cerdd ac roeddent o’r farn ei fod yn fodel da iawn.  Wedi hynny cafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych a chawsom gefnogaeth ganddynt ar  ffurf offerynnau a swm o arian i ddechrau gwasanaeth a dyna oedd cychwyn y cyfan.

“Mae wedi bod yn her, ond dros y tair blynedd rydym wedi tyfu ac mae gennym fwy o fyfyrwyr yn cael gwersi a llawer mwy o diwtoriaid - 50 yn Sir Ddinbych erbyn hyn.  Bu modd i ni addasu'r hyn yr ydym yn ei gynnig i ysgolion, gan ddarparu athrawon llanw gydag arbenigeddau cerddorol ac yn y celfyddydau perfformio ac mae gennym raglenni anghenion addysg arbennig a rhaglenni ‘mwy abl a thalentog’ ar gael i ysgolion.

“Rydym hefyd wedi ennill llawer o wobrau. Yn y 12 mis diwethaf enillom wobr Dewis y Beirniaid y Daily Post, Gwobr Co-operative Cymru ‘One to Watch’, ac yn fwy diweddar enillom wobr 50 Busnes Mwyaf Radical y DU papur newydd yr Observer, felly mae’n amser digon cyffrous i ni i gyd.

“Rydym yn cynnig gwersi llais ac offeryn arbenigol i bob ysgol yn Sir Ddinbych, sy’n amrywio o wersi canu i wersi telyn.  Rydym hefyd yn rhedeg gwersi theori a cherdd llafar i’n holl ddisgyblion ac yn cefnogi gwersi cerdd TGAU a Lefel A. Rydym yn rhedeg sawl ensemble ar ôl yr ysgol – mae gennym gorau, bandiau pres, band jas, grwpiau gitâr ac offerynnau taro. Ar hyn o bryd mae gennym 4,000 o ddisgyblion yr wythnos yn defnyddio’r gwasanaeth, sydd ddwywaith maint y gwasanaeth pan ddechreuodd.  

“Rydym wedi dechrau rhedeg a chefnogi  gwasanaeth yn Wrecsam ac rydym yn gwybod fod sawl awdurdod lleol arall yn edrych ar y model, sydd yn gyffrous dros ben.  Rydym yn gobeithio dal ati i gynyddu a gwella’r hyn sydd ar gael i ysgolion ac ymgysylltu â mwy o ddisgyblion ar draws Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw-Hilditch Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol dros Blant, Pobl Ifanc, Addysg a’r iaith Gymraeg:  “Nid oedd y penderfyniad i dorri cyllideb y gwasanaeth cerdd yn un a gymerwyd yn ysgafn ac roeddem eisiau dod o hyd i ateb arall a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerdd barhau, ond mewn ffordd wahanol.

“Edrychom ar y syniad o greu cydweithredfa gyda’r tiwtoriaid ac roeddem yn meddwl ei fod yn ateb ymarferol a hyfyw.  Gyda chymorth ymarferol ac ariannol gan y Cyngor a llawer o ymrwymiad a brwdfrydedd ar ran y tiwtoriaid, sy’n cael eu harwain mor abl gan Heather a’r tîm, ganed y gwasanaeth cydweithredol. 

“Mae’r gwasanaeth erbyn hyn wedi mynd o nerth i nerth ac rydym wrth ein bodd gweld cenhedlaeth newydd o ddisgyblion yn cael mynediad i wersi cerdd a diwallu’r galw amlwg sydd am wasanaeth o’r fath.  

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid