llais y sir

Cadwch yn ddiogel ac archebwch eich tacsi dros gyfnod y Nadolig

Wrth i’r Nadolig nesáu, mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gadw’n ddiogel dros gyfnod yr ŵyl ac archebu tacsis ar gyfer eu nosweithiau allan o flaen llaw.

Mae tacsis didrwydded yn broblem gyffredin ledled y wlad ac wrth i dymor y partïon Nadolig gyrraedd ei anterth mae’n bwysig gwybod sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng tacsi didrwydded ac thacsi trwyddedig. 

Mae gan bob cerbyd trwyddedig blatiau sy’n cynnwys rhifau unigryw ar flaen a chefn y cerbyd ac mae gan gerbydau hacni arwydd ar y to hefyd ond bydd pob gyrrwr yn cario bathodynnau adnabod gyda nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Efallai bod tacsis didrwydded yn cynnig gwell pris ond nid yw’n werth rhoi’ch hun mewn perygl er mwyn arbed punt neu ddwy.

“Nid yw’r cerbydau hyn wedi’u hyswirio fel tacsis ac nid yw'r gyrwyr wedi bod yn destun y gwiriadau trwyadl sy'n rhan o'r broses drwyddedu.

“Bydd Swyddogion Trwyddedu yn cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes unrhyw dacsis didrwydded yn weithredol yn yr ardal. Peidiwch byth â mynd mewn tacsi heb wirio mai hwnnw yw’r tacsi a archeboch neu heb wirio a yw’n Gerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat dilys.”

Pan fyddwch yn chwilio am eich ffordd adref ar ddiwedd y parti, cofiwch y canllawiau hyn am dacsis trwyddedig y cyngor:

  • Mae gan Gerbydau Hacni blât ar flaen a chefn y cerbyd yn arddangos manylion y cerbyd a’i rif trwydded
  • Gall Cerbydau Hacni wneud cais i gael eu hurio o safleoedd tacsis dynodedig a gallant godi teithwyr sy’n eu fflagio
  • Mae gan Gerbydau Hurio Preifat arwydd glas sy’n dangos y drwydded ar ddrysau cefn y cerbyd a phlât ar gefn y cerbyd sy’n arddangos manylion y cerbyd a'r rhif trwydded
  • Gellir ond archebu Cerbydau Hurio Preifat o flaen llaw gan weithredwr

Peidiwch â cheisio mynd i mewn i gerbyd os nad yw’n arddangos plât priodol ar y cefn. Ni fydd ganddo yswiriant ac mae’n bosibl na fydd ganddo drwydded. Gofalwch bod y gyrrwr yn arddangos bathodyn gyrrwr sydd wedi’i gymeradwyo gan y cyngor. Er eich diogelwch eich hun, dylech bob amser ddefnyddio cerbyd trwyddedig y cyngor – bydd y gyrrwr a’r cerbyd wedi cael eu gwirio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd pwyllgor trwyddedu Sir Ddinbych: “Peidiwch â difetha noson dda trwy ddefnyddio tacsi didrwydded. Dylech bob amser archebu o flaen llaw neu wneud yn siŵr eich bod yn cadw rhifau ffôn nifer o gwmnïau tacsi lleol yn eich ffôn symudol cyn mynd allan.

“Cyn mynd mewn tacsi, gofalwch bod y gyrrwr yn gwybod i ble’r ydych am fynd ac eisteddwch yng nghefn y cerbyd bob tro. Gofalwch eich bod yn cael eich codi a’ch gollwng mewn man cyfarwydd sydd wedi’i oleuo’n dda, fodd bynnag os ydych yn teimlo’n anghyfforddus gyda’r gyrrwr, gofynnwch iddo stopio mewn lle prysur a chyfarwydd ac ewch allan.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid