llais y sir

Gaeaf 2018

Peter Daniels yn ymuno â thîm halen a chynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf cyn y tymor eleni

Wrth i mi ymuno â thîm cynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf, gan gynllunio ar gyfer y gaeaf i ddod, mae'n eironig yn ddiwrnod clòs yng nghanol haf. “Rydym ni fel arfer yn gwneud ein paratoadau yn ystod dyddiau poetha’r flwyddyn" meddai'r uwch reolwr Tim Towers gyda gwên.

Mae cadw ffyrdd A a B y sir ar agor yn dasg fawr. Y gaeaf diwethaf oedd yr hiraf a’r gwaethaf ers 2010. Lledaenodd Sir Ddinbych dros 170,000 canpwys o halen, neu bron i werth 9,000 tunnell - tua dwywaith y cyfanswm arferol. O hyn roedd dros 65,000 canpwys yn ardal Rhuthun. Dechreuodd y gaeaf diwethaf yn fwyn iawn ond arweiniodd achosion cynyddol o rew ac iâ at dymor graeanu hir, gyda dwywaith y nifer o deithiau nac arfer. Yn 2017/18 cawsom dri achos o eira sylweddol. Yn ystod y gaeaf cyn hynny ni chafwyd dim o hynny. Roedd yna achos o eira mawr yn Rhagfyr 2017 ond wythnos olaf Chwefror ac wythnos gyntaf Mawrth 2018 fydd pobl yn ei gofio.

Mae Tim yn cofio dweud ar ddechrau Mawrth, "Roedd disgwyl i’r gaeaf orffen ond roedd yn teimlo fel mai dim ond megis dechrau yr oedd." Erbyn hyn roedd y criwiau graeanu eisoes wedi gweithio'n galed ac wedi gweithio oriau hir dros nos. Roeddent yn flinedig ac wedi bod allan yn amlach nac arfer ac weithiau o amgylch y cloc. Roedd criwiau’n wynebu amgylchiadau heriol gyda neu heb erydr eira. Yn y nos, roeddent yn treulio eu shifft gyfan gydag adlewyrchiad parhaus fflachiadau eu goleuadau oren ar arwyneb y ffordd o'u blaenau, adlewyrchiad oedd yn tynnu sylw ac yn hypnotig. Does dim dianc rhagddo. “Mae’n gur pen yng ngwir ystyr y gair", meddai Tim.

Fe aeth tymheredd yr aer yn niwedd Chwefror i lawr i –9°c, yr isaf ers 2010. Mae hyn yn is na'r tymheredd pan fo halen yn dechrau colli ei effaith. Ar Ddydd Gŵyl Dewi achosodd eira mân ar wyntoedd dwyreiniol cryf luwchio ar dir uchel a hyd yn oed tir is. Ar achlysuron fel hyn mae'n rhaid i swyddogion batrolio i ganfod, rhoi gwybod a chyfeirio criwiau at yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf.

Er bod y rhan fwyaf o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn canmol ymateb Sir Ddinbych i’r eira, roedd yna rai a oedd yn beirniadu tîm rheoli Sir Ddinbych. Mae cwynion fel arfer yn ymwneud â chwestiynau fel “Felly lle yn union oedd y graeanwyr?”

Ni all graeanwyr wrth gwrs fod ymhob man ar yr un pryd. Fe allant fynd yn sownd o ganlyniad i gerbydau sydd wedi eu gadael. Mae’n bosib iddynt hefyd lithro oddi ar y ffordd hyd yn oed, fel y profodd adroddiad am raeanwr yn Sir Ddinbych yn y Daily Mail ym mis Rhagfyr. Dywedodd Tim, "Yn ystod eira trwm yn ystod y dydd, mae graeanwyr yn ymuno â'r ciwiau o draffig araf sy’n datblygu’n gyflym ar hyd y priffyrdd gan fod gyrwyr, yn eironig, i gyd ar yr un pryd yn defnyddio'r ffyrdd y maent yn gwybod y byddant yn cael eu trin". Wrth i’r cwynion ddod i mewn, mae’r rheolwyr yn ymateb. Mae’n rhaid gwirio trywydd y graeanwyr i brofi pryd y cafodd ffyrdd eu trin, ac mae hyn yn dargyfeirio rheolwyr i ffwrdd o’r dasg o symud adnoddau go iawn.

Tra bod y gyrwyr eu hunain yn cael clod haeddiannol am y gwaith maent yn ei wneud, nid yw rheolwyr y tîm sy’n cynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf yn llai gwyliadwrus nac yn llai gweithgar. Mae rheolwyr yn gweithio dros nos yn ôl yr angen, yn ogystal â'u gyrwyr. Maent yn treulio oriau hir ar alwad yn eu tro, 24 awr y dydd dros gyfnod o saith niwrnod. Nhw fwy na thebyg yw’r tîm mwyaf profiadol yng Ngogledd Cymru. Mae gan y swyddog sydd ar ddyletswydd yn Rhuthun 35 mlynedd o brofiad ei hun. Hyd yn oed gyda delweddau lloeren mwy soffistigedig a dulliau modern o ragweld, mae llawer yn dibynnu ar sgil a barn y rhai sydd ar ddyletswydd, yn galw adnoddau, yn barnu pa uchder yn union uwchben lefel y môr i'w drin, yn ystyried y math a chyfradd gwasgaru'r halen a phryd yn union y dylid gwneud hyn yn ystod y dydd. Neu’r nos. Neu’r ddau.

Yn wir os rhoir halen ar yr adeg anghywir fe all gael ei olchi ymaith. Os rhoir halen yn rhy hwyr mae yna risg o ddamweiniau. Mae’n hanfodol sicrhau fod halen yn cael ei wasgaru cyn i’r eira ddisgyn, ond nid yw hyn fyth yn sicrhau y bydd yn atal eira rhag setlo. Ni fydd yr un swm o halen yn gwneud hynny mewn eira trwm a chyson. Ar y llaw arall mae mynd ar ôl cawodydd eira trwm ac ynysig tra’n ceisio rhagweld yr union leoliad lle byddant yn disgyn yn anodd.

Mae ffyrdd A a B yn flaenoriaeth ond bydd swyddogion yn ymateb i amgylchiadau penodol. Mae ffermwyr sy'n dod yn brin o borthiant ymhlith y rhai sy’n gofyn am – ac fel arfer yn cael - ymateb cadarnhaol gan reolwyr, ar sail lles anifeiliaid.

Mae graeanu am 1 a.m., 4 a.m., 8 p.m. a 11 p.m. a thu hwnt yn ystod y dydd i gyd yn rhan o wasanaeth cyhoeddus a gymrir yn ganiataol fel arfer.

Yng ngwres yr haf mae’n anodd dychmygu rheolwyr a staff yn gweithio o amgylch y cloc mewn amodau rhewllyd i gadw ein ffyrdd ar agor. Ond dyma beth fyddant yn dechrau ei wneud o’r mis hwn a hynny tan fis Mawrth.

Ystadegau'r Eira 2017/18

  • Y cyfanswm o halen a ddefnyddiwyd yn Sir Ddinbych: 170,000 canpwys
  • Y cyfanswm o halen a ddefnyddiwyd yn ardal Rhuthun: 65,000 canpwys
  • Cyfanswm y milltiroedd a wnaed: 98,000
  • Cyfanswm y milltiroedd yn ardal Rhuthun: 39,000
  • Y nifer o ddyddiau yr oedd y graeanwyr yn weithredol yn 17/18: 184
  • Y nifer o ddyddiau maent yn gweithredu yn ystod gaeaf arferol: 70
  • Y gronfa o reolwyr ar ddyletswydd: 5
  • Y gronfa o oruchwylwyr: 10
  • Y gronfa o yrwyr: 35

 

Credyd i Peter Daniels a Chymdeithas Ddinesig Rhuthun am yr erthygl

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...