llais y sir

Nodweddion Nadolig

Annog eiddo trwyddedig i baratoi’n ddigonol ar gyfer y Nadolig

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn annog eiddo trwyddedig i baratoi’n ddigonol ar gyfer cyfnod y Nadolig.

Atgoffir deiliaid trwyddedau i sicrhau bod y gweithgareddau a fwriedir yn cael eu cynnwys o fewn eu trwydded/ tystysgrif, neu fod eithriad ac unrhyw oriau estynedig sydd wedi’u cynllunio o fewn a hyn a ganiateir yn eu trwydded.

Dywedodd y Prif Arolygydd Andrew Williams: “Mae gan bawb rôl i sicrhau bywyd nos diogel a bywiog ar draws Sir Ddinbych.  

“Mae cynllunio'n dda cyn i ni gyrraedd yr wythnosau a diwrnodau cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn gallu helpu i’w wneud yn gyfnod llwyddiannus a diogel i bawb”

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Bydd deiliaid trwyddedau yn ymwybodol o amodau eu trwydded, ond dylent dreulio amser i wirio eu hamodau i sicrhau nad oes cyfyngiadau ar y gweithgareddau arfaethedig. 

Os bydd unrhyw weithgareddau y tu hwnt i gwmpas eu trwydded, yna bydd rhaid iddynt gael rhybudd digwyddiad dros dro.”

 Pwyntiau eraill i ddeiliaid trwydded eu hystyried yw:

  • Sicrhau bod unrhyw staff dros dro wedi cael eu hyfforddi’n llawn o ran eu cyfrifoldebau a’u bod wedi eu hawdurdodi i werthu alcohol.
  • Argymhellir hyfforddiant gloywi i’r holl staff presennol i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau, oherwydd gellir anghofio amdanynt yn ystod cyfnodau prysur.
  • Atgoffa staff na ddylent werthu alcohol i unigolion o dan 18 oed. Dylai pob eiddo weithredu polisi cyfyngiad oedran, megis Her 25, a chadw llyfr gwrthod. 
  • Atgoffa staff na ddylent werthu alcohol i unigolion sydd yn ymddangos wedi meddwi. Dylai pob eiddo ddilyn egwyddor menter “Amser mynd Adref” a gwrthod rhoi diodydd i unrhyw un sy’n amlwg wedi meddwi.
  • Byddwch yn ymwybodol nad yw unrhyw gynnig diod arfaethedig yn torri amodau'r drwydded orfodol.
  • Sicrhau bod unrhyw staff drws a gyflogir wedi’u trwyddedu gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ac yn gwisgo eu bathodynnau.
  • Cymryd camau i atal unrhyw weithgareddau sydd yn achosi niwsans i gymdogion, gan gynnwys monitro lefelau sŵn yn rheolaidd.
  • Gwirio bod y system TCC yn weithredol
  • Cadw rhestr o enwau galw allan, nid gwasanaethau brys yn unig, ond i sicrhau bod yr eiddo yn gallu gweithredu drwyddo (trydanwr, plymwr, TCC ac ati).

Os hoffech unrhyw gyngor neu ganllaw ar faterion trwyddedu, cysylltwch ag aelod o’r tîm trwyddedu ar 01824 706342 neu trwyddedu@sirddinbych.gov.uk i drafod eich gofynion.

Apêl i gadw llygad ar bobl ddiamddiffyn yn Sir Ddinbych

Gyda’r Gaeaf yma, rydym yn ymbil ar bobl i fod yn gymdogion da a chadw llygad ar bob hŷn a diamddiffyn.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: “Rydyn ni’n gofyn i bobl ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

 “Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy'n wael, rydyn ni'n eu hannog i ymweld â nhw, gan ofalu bod ganddyn nhw bopeth maent ei angen a chynnig help gyda phethau fel siopa. Mae hi hefyd yn bwysig gweld a ydyn nhw’n bwyta’n iawn ac yn cadw eu cartref yn gynnes.

“Efallai mai chi fydd yr unig ymwelydd fydd ganddyn nhw, felly mae’n fater o fod yn glên ac ystyriol. Mae'r 'Bwystfil o'r Dwyrain' yn dod yn nes ac mae'n debygol o bara am ddeuddydd neu dri arall, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo'n ddiamddiffyn nac yn unig.

 “Bydd dangos gofal a thrugaredd tuag at yr henoed neu bobl sy’n agored i niwed wir yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

“Mae’r neges yma yn hynod amserol yr adeg hyn o’r flwyddyn, yn arbennig o gwmpas y Nadolig sydd yn gallu bod yn gyfnod unig iawn i bobl sy’n byw eu hunain.

Os oes gennych unrhyw bryderon am berson bregus, ffoniwch yr Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000 neu y du allan i oriau ffoniwch 0345 0533116. 

Cofiwch am gynllun Parcio Am Ddim Ar ôl Tri y Cyngor

Rydym yn eich atgoffa bod cynllun parcio am ddim ar ôl 3pm bob dydd tan 31 Rhagfyr yn cymryd lle eto eleni, i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol i siopa yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Mae’r fenter yn weithredol  yn y meysydd parcio canlynol:

Corwen:  Lôn Las

Dinbych; Lôn y Goron, Ward y Ffatri, Lôn y Post, Stryd y Dyffryn

Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd, Stryd y Farchnad, Stryd y Felin.

Prestatyn: Stryd Fawr Isaf, Swyddfa’r Post, Gorsaf Drenau.

Rhuddlan: Stryd y Senedd

Y Rhyl: Ffordd Morley, Stryd y Frenhines, Neuadd y Morfa (mannau parcio i’r anabl), Tŵr Awyr, Stryd Gorllewin Cinmel

Rhuthun: Crispin Yard, : Lôn Dogfael, Stryd y Farchnad, Stryd y Parc, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr, Troed y Rhiw

Llanelwy: Lawnt Fowlio

Cadwch yn ddiogel ac archebwch eich tacsi dros gyfnod y Nadolig

Wrth i’r Nadolig nesáu, mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gadw’n ddiogel dros gyfnod yr ŵyl ac archebu tacsis ar gyfer eu nosweithiau allan o flaen llaw.

Mae tacsis didrwydded yn broblem gyffredin ledled y wlad ac wrth i dymor y partïon Nadolig gyrraedd ei anterth mae’n bwysig gwybod sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng tacsi didrwydded ac thacsi trwyddedig. 

Mae gan bob cerbyd trwyddedig blatiau sy’n cynnwys rhifau unigryw ar flaen a chefn y cerbyd ac mae gan gerbydau hacni arwydd ar y to hefyd ond bydd pob gyrrwr yn cario bathodynnau adnabod gyda nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Efallai bod tacsis didrwydded yn cynnig gwell pris ond nid yw’n werth rhoi’ch hun mewn perygl er mwyn arbed punt neu ddwy.

“Nid yw’r cerbydau hyn wedi’u hyswirio fel tacsis ac nid yw'r gyrwyr wedi bod yn destun y gwiriadau trwyadl sy'n rhan o'r broses drwyddedu.

“Bydd Swyddogion Trwyddedu yn cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes unrhyw dacsis didrwydded yn weithredol yn yr ardal. Peidiwch byth â mynd mewn tacsi heb wirio mai hwnnw yw’r tacsi a archeboch neu heb wirio a yw’n Gerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat dilys.”

Pan fyddwch yn chwilio am eich ffordd adref ar ddiwedd y parti, cofiwch y canllawiau hyn am dacsis trwyddedig y cyngor:

  • Mae gan Gerbydau Hacni blât ar flaen a chefn y cerbyd yn arddangos manylion y cerbyd a’i rif trwydded
  • Gall Cerbydau Hacni wneud cais i gael eu hurio o safleoedd tacsis dynodedig a gallant godi teithwyr sy’n eu fflagio
  • Mae gan Gerbydau Hurio Preifat arwydd glas sy’n dangos y drwydded ar ddrysau cefn y cerbyd a phlât ar gefn y cerbyd sy’n arddangos manylion y cerbyd a'r rhif trwydded
  • Gellir ond archebu Cerbydau Hurio Preifat o flaen llaw gan weithredwr

Peidiwch â cheisio mynd i mewn i gerbyd os nad yw’n arddangos plât priodol ar y cefn. Ni fydd ganddo yswiriant ac mae’n bosibl na fydd ganddo drwydded. Gofalwch bod y gyrrwr yn arddangos bathodyn gyrrwr sydd wedi’i gymeradwyo gan y cyngor. Er eich diogelwch eich hun, dylech bob amser ddefnyddio cerbyd trwyddedig y cyngor – bydd y gyrrwr a’r cerbyd wedi cael eu gwirio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd pwyllgor trwyddedu Sir Ddinbych: “Peidiwch â difetha noson dda trwy ddefnyddio tacsi didrwydded. Dylech bob amser archebu o flaen llaw neu wneud yn siŵr eich bod yn cadw rhifau ffôn nifer o gwmnïau tacsi lleol yn eich ffôn symudol cyn mynd allan.

“Cyn mynd mewn tacsi, gofalwch bod y gyrrwr yn gwybod i ble’r ydych am fynd ac eisteddwch yng nghefn y cerbyd bob tro. Gofalwch eich bod yn cael eich codi a’ch gollwng mewn man cyfarwydd sydd wedi’i oleuo’n dda, fodd bynnag os ydych yn teimlo’n anghyfforddus gyda’r gyrrwr, gofynnwch iddo stopio mewn lle prysur a chyfarwydd ac ewch allan.”

Peter Daniels yn ymuno â thîm halen a chynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf cyn y tymor eleni

Wrth i mi ymuno â thîm cynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf, gan gynllunio ar gyfer y gaeaf i ddod, mae'n eironig yn ddiwrnod clòs yng nghanol haf. “Rydym ni fel arfer yn gwneud ein paratoadau yn ystod dyddiau poetha’r flwyddyn" meddai'r uwch reolwr Tim Towers gyda gwên.

Mae cadw ffyrdd A a B y sir ar agor yn dasg fawr. Y gaeaf diwethaf oedd yr hiraf a’r gwaethaf ers 2010. Lledaenodd Sir Ddinbych dros 170,000 canpwys o halen, neu bron i werth 9,000 tunnell - tua dwywaith y cyfanswm arferol. O hyn roedd dros 65,000 canpwys yn ardal Rhuthun. Dechreuodd y gaeaf diwethaf yn fwyn iawn ond arweiniodd achosion cynyddol o rew ac iâ at dymor graeanu hir, gyda dwywaith y nifer o deithiau nac arfer. Yn 2017/18 cawsom dri achos o eira sylweddol. Yn ystod y gaeaf cyn hynny ni chafwyd dim o hynny. Roedd yna achos o eira mawr yn Rhagfyr 2017 ond wythnos olaf Chwefror ac wythnos gyntaf Mawrth 2018 fydd pobl yn ei gofio.

Mae Tim yn cofio dweud ar ddechrau Mawrth, "Roedd disgwyl i’r gaeaf orffen ond roedd yn teimlo fel mai dim ond megis dechrau yr oedd." Erbyn hyn roedd y criwiau graeanu eisoes wedi gweithio'n galed ac wedi gweithio oriau hir dros nos. Roeddent yn flinedig ac wedi bod allan yn amlach nac arfer ac weithiau o amgylch y cloc. Roedd criwiau’n wynebu amgylchiadau heriol gyda neu heb erydr eira. Yn y nos, roeddent yn treulio eu shifft gyfan gydag adlewyrchiad parhaus fflachiadau eu goleuadau oren ar arwyneb y ffordd o'u blaenau, adlewyrchiad oedd yn tynnu sylw ac yn hypnotig. Does dim dianc rhagddo. “Mae’n gur pen yng ngwir ystyr y gair", meddai Tim.

Fe aeth tymheredd yr aer yn niwedd Chwefror i lawr i –9°c, yr isaf ers 2010. Mae hyn yn is na'r tymheredd pan fo halen yn dechrau colli ei effaith. Ar Ddydd Gŵyl Dewi achosodd eira mân ar wyntoedd dwyreiniol cryf luwchio ar dir uchel a hyd yn oed tir is. Ar achlysuron fel hyn mae'n rhaid i swyddogion batrolio i ganfod, rhoi gwybod a chyfeirio criwiau at yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf.

Er bod y rhan fwyaf o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn canmol ymateb Sir Ddinbych i’r eira, roedd yna rai a oedd yn beirniadu tîm rheoli Sir Ddinbych. Mae cwynion fel arfer yn ymwneud â chwestiynau fel “Felly lle yn union oedd y graeanwyr?”

Ni all graeanwyr wrth gwrs fod ymhob man ar yr un pryd. Fe allant fynd yn sownd o ganlyniad i gerbydau sydd wedi eu gadael. Mae’n bosib iddynt hefyd lithro oddi ar y ffordd hyd yn oed, fel y profodd adroddiad am raeanwr yn Sir Ddinbych yn y Daily Mail ym mis Rhagfyr. Dywedodd Tim, "Yn ystod eira trwm yn ystod y dydd, mae graeanwyr yn ymuno â'r ciwiau o draffig araf sy’n datblygu’n gyflym ar hyd y priffyrdd gan fod gyrwyr, yn eironig, i gyd ar yr un pryd yn defnyddio'r ffyrdd y maent yn gwybod y byddant yn cael eu trin". Wrth i’r cwynion ddod i mewn, mae’r rheolwyr yn ymateb. Mae’n rhaid gwirio trywydd y graeanwyr i brofi pryd y cafodd ffyrdd eu trin, ac mae hyn yn dargyfeirio rheolwyr i ffwrdd o’r dasg o symud adnoddau go iawn.

Tra bod y gyrwyr eu hunain yn cael clod haeddiannol am y gwaith maent yn ei wneud, nid yw rheolwyr y tîm sy’n cynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf yn llai gwyliadwrus nac yn llai gweithgar. Mae rheolwyr yn gweithio dros nos yn ôl yr angen, yn ogystal â'u gyrwyr. Maent yn treulio oriau hir ar alwad yn eu tro, 24 awr y dydd dros gyfnod o saith niwrnod. Nhw fwy na thebyg yw’r tîm mwyaf profiadol yng Ngogledd Cymru. Mae gan y swyddog sydd ar ddyletswydd yn Rhuthun 35 mlynedd o brofiad ei hun. Hyd yn oed gyda delweddau lloeren mwy soffistigedig a dulliau modern o ragweld, mae llawer yn dibynnu ar sgil a barn y rhai sydd ar ddyletswydd, yn galw adnoddau, yn barnu pa uchder yn union uwchben lefel y môr i'w drin, yn ystyried y math a chyfradd gwasgaru'r halen a phryd yn union y dylid gwneud hyn yn ystod y dydd. Neu’r nos. Neu’r ddau.

Yn wir os rhoir halen ar yr adeg anghywir fe all gael ei olchi ymaith. Os rhoir halen yn rhy hwyr mae yna risg o ddamweiniau. Mae’n hanfodol sicrhau fod halen yn cael ei wasgaru cyn i’r eira ddisgyn, ond nid yw hyn fyth yn sicrhau y bydd yn atal eira rhag setlo. Ni fydd yr un swm o halen yn gwneud hynny mewn eira trwm a chyson. Ar y llaw arall mae mynd ar ôl cawodydd eira trwm ac ynysig tra’n ceisio rhagweld yr union leoliad lle byddant yn disgyn yn anodd.

Mae ffyrdd A a B yn flaenoriaeth ond bydd swyddogion yn ymateb i amgylchiadau penodol. Mae ffermwyr sy'n dod yn brin o borthiant ymhlith y rhai sy’n gofyn am – ac fel arfer yn cael - ymateb cadarnhaol gan reolwyr, ar sail lles anifeiliaid.

Mae graeanu am 1 a.m., 4 a.m., 8 p.m. a 11 p.m. a thu hwnt yn ystod y dydd i gyd yn rhan o wasanaeth cyhoeddus a gymrir yn ganiataol fel arfer.

Yng ngwres yr haf mae’n anodd dychmygu rheolwyr a staff yn gweithio o amgylch y cloc mewn amodau rhewllyd i gadw ein ffyrdd ar agor. Ond dyma beth fyddant yn dechrau ei wneud o’r mis hwn a hynny tan fis Mawrth.

Ystadegau'r Eira 2017/18

  • Y cyfanswm o halen a ddefnyddiwyd yn Sir Ddinbych: 170,000 canpwys
  • Y cyfanswm o halen a ddefnyddiwyd yn ardal Rhuthun: 65,000 canpwys
  • Cyfanswm y milltiroedd a wnaed: 98,000
  • Cyfanswm y milltiroedd yn ardal Rhuthun: 39,000
  • Y nifer o ddyddiau yr oedd y graeanwyr yn weithredol yn 17/18: 184
  • Y nifer o ddyddiau maent yn gweithredu yn ystod gaeaf arferol: 70
  • Y gronfa o reolwyr ar ddyletswydd: 5
  • Y gronfa o oruchwylwyr: 10
  • Y gronfa o yrwyr: 35

 

Credyd i Peter Daniels a Chymdeithas Ddinesig Rhuthun am yr erthygl

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid