llais y sir

Priffyrdd

Gwelliannau i Gludiant Cyhoeddus yn Ardal Bryneglwys

Mae gyrwyr y Cyngor Sir ar gael i breswylwyr yn ardaloedd Bryneglwys a Llandegla sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr ar hyn o bryd ar gyfer siwrneiau cludiant cyhoeddus hanfodol. 

Bydd y gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0930 a 1430 i breswylwyr lleol yn bennaf i gysylltu yn Llandegla i’r gwasanaeth bws X51 i deithio ymlaen i Ruthun neu’r Wyddgrug.  Gall siwrneiau eraill fod ar gael hefyd yn cynnwys cludiant uniongyrchol i Ruthun.

Gofynnir i deithwyr gyfrannu £2 tuag cost taith dychwelyd.  Darperir y gwasanaeth hwn gyda chymorth Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych. 

I drefnu lle, dylai teithwyr gysylltu â Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych ar 01490 266004 hyd at 1500 ar y diwrnod cyn teithio. Er mwyn teithio ar ddydd Llun, mae’n rhaid trefnu lle ar y dydd Gwener blaenorol.  Mae’n rhaid i’r siwrneiau fod o fewn canllawiau’r cynllun sydd ar gael o Bartneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych drwy ffonio'r rhif uchod, neu Gludiant Teithwyr Cyngor Sir Ddinbych (01824 706982).  Mae pob siwrnai o dan gynllun y Cyngor yn destun i amodau teithio ac argaeledd gyrwyr (h.y. gellir defnyddio gyrwyr mewn ardaloedd eraill).  Mae’r cyngor yn parhau i ddarparu cyswllt tacsi dychwelyd ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Sadwrn ar gyfer unrhyw breswylydd o Fryneglwys am 0925 i Landegla i ddal y bws X51 i Wrecsam.  Caiff ei weithredu gan Tacsis AAA o Rhuthun ac ni fydd angen i deithwyr ei archebu: bydd yn cael ei weithredu heb yr angen i ffonio'r gweithredwr ymlaen llaw.

Gosod arwyddion ffyrdd i rybuddio gyrwyr

Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn rhybuddio gyrwyr o amodau peryglus ar ddarn serth o ffordd.

Bydd y Cyngor yn gosod tri arwydd ar y ffordd rhwng Prestatyn a Gwaenysgor yn rhybuddio gyrwyr o’r amodau rhewllyd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, bu 45 damwain yn gysylltiedig ag amodau ffyrdd gaeafol yn yr ardal a bydd yr arwyddion yn cael eu defnyddio pan fydd amodau'n beryglus, a byddant yn cyfarwyddo gyrwyr i osgoi'r llwybr.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy’r Cyngor: “Bydd tri arwydd, a fydd ond yn weladwy pan fo amodau’n beryglus, yn rhybuddio gyrwyr i ddefnyddio llwybr arall.

“Gall amodau ar y darn hwn o ffordd ddod yn beryglus iawn, hyd yn oed gyda rhew yn unig ac ni ddylai gyrwyr ddefnyddio'r ffordd pan mae'r arwyddion yn cael eu gweithredu. Gallai gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr pan fo amodau’n beryglus roi bywydau mewn perygl.

“Oherwydd graddiant y darn hwn o’r ffordd, mae’n beryglus i'r Cyngor ddefnyddio peiriannau graeanu yn yr ardal.”

Mae disgwyl cael yr arwyddion rhybudd yn eu lle erbyn diwedd Tachwedd.

Y llwybr arall yw Allt y Graig yn Nyserth, darn o ffordd sy’n cael ei raeanu gan y Cyngor pan fo amodau’n gofyn am hynny.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid