llais y sir

Newyddion

Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu'n parhau drwy gydol y Nadolig

Am fod Dydd Nadolig ar ddydd Mawrth eleni, bydd y mwyafrif o breswylwyr Sir Ddinbych yn cael fod eu dyddiau casglu ailgylchu ac ysbwriel yn newid dros yr ŵyl. Preswylwyr sydd yn derbyn casgliad ar ddyddiau Llun fel arfer yw’r unig rai na fydd yn cael eu heffeithio.Bin with snow

Nodir y newidiadau i’r rhaglen gasgliadau dros gyfnod y Nadolig isod.

Caiff tanysgrifwyr i'r gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd eu hatgoffa y bydd casgliadau’n digwydd dros gyfnod y gwyliau.

Mae manylion llawn y dyddiau casglu ar y calendrau a ddosbarthwyd yn ystod mis Tachwedd, neu mae modd dod o hyd iddynt ar win gwefan.

DYDDIAD CASGLU ARFEROL DYDDIAD CASGLU NEWYDD
Dydd Llun 24 Rhagfyr aros yr un fath Dydd Llun 24 Rhagfyr
Dydd Mawrth 25 Rhagfyr newid i Dydd Mercher 26 Rhagfyr
Dydd Mercher 26 Rhagfyr newid i Dydd Iau 27 Rhagfyr
Dydd Iau 27 Rhagfyr newid i Dydd Gwener 28 Rhagfyr
Dydd Gwener 28 Rhagfyr newid i Dydd Sadwrn 29 Rhagfyr
Dydd Llun 31 Rhagfyr aros yr un fath Dydd Llun 31 Rhagfyr
Dydd Mawrth 1 Ionawr 2019 newid i Dydd Mercher 2 Ionawr
Dydd Mercher 2 Ionawr newid i Dydd Iau 3 Ionawr
Dydd Iau 3 Ionawr newid i Dydd Gwener 4 Ionawr
Dydd Gwener 4 Ionawr newid i Dydd Sadwrn 5 Ionawr

YMHOLIADAU

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y trefniadau casglu dros gyfnod yr ŵyl, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor Sir ar 01824 706000.

Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Am yr holl wybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ewch i'n gwefan.

Caniatau trefn gwastraff ac ailgylchu newydd yn Sir Ddinbych

Mae cynlluniau i newid casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Sir Ddinbych wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd y newidiadau i'r gwasanaeth ailgylchu yn cynnwys:

  • casgliad wythnosol newydd ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy megis papur, gwydr, caniau a phlastig
  • casgliad wythnosol newydd ar gyfer cewynnau a gwisg anymataliad
  • casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd
  • casgliad newydd pob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan

Y nod yw annog mwy o ailgylchu na chyfraddau cyfredol y Cyngor (64%) i gyrraedd targed 70% Llywodraeth Cymru erbyn 2025, gyda disgwyliad y bydd y targed yn codi i 80% yn y dyfodol.

Os yw trigolion yn defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu yn gywir, dim ond ychydig iawn o wastraff gweddilliol fydd yn cael ei greu. Felly mae'r Cyngor yn bwriadu newid y casgliad o wastraff na ellir ei ailgylchu i bob pedair wythnos ar gyfer y mwyafrif o gartrefi.

Bydd gallu i breswylwyr ddewis biniau du mwy pe bai angen, ond yn gyffredinol, byddai gan gartrefi fwy o allu bob wythnos ar gyfer rheoli eu gwastraff nag sydd ganddynt gyda'r gwasanaeth presennol.

Bydd y gwasanaeth ailgylchu wythnosol (gan ddefnyddio system Trollibloc) yn darparu mwy o gynhwysedd i ailgylchu o'i gymharu â'r casgliad pob pythefnos presennol gyda'r bin olwyn glas. Gallai pobl greu hyd yn oed mwy o le yn eu bin du trwy ddefnyddio'r gwasanaethau ailgylchu newydd ymyl y ffordd ar gyfer tecstilau, nwyddau trydanol bach, batris, cewynnau a gwastraff anymataliad. Mae'r Cyngor o'r farn y dylai cynyddu maint y biniau i'r rhai  newydd a chyflwyno
casgliadau ailgylchu wythnosol  ddiwallu anghenion trigolion.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo £ 7.9 miliwn tuag at y gwasanaeth arfaethedig. Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r seilwaith angenrheidiol i alluogi'r cyngor i newid y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: "Mae hwn wedi bod yn benderfyniad mawr i’r Cyngor ac mae’r cynigion wedi cael eu trafod a’u craffu mewn manylder.

“Rydym yn hapus bod y cynigion wedi cael eu derbyn a rŵan mae’r gwaith caled yn cychwyn i baratoi ar gyfer y newidiadau.  Rydym wedi cymryd sylw o’r sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym am weithio i sicrhau bod y newid yn digwydd mor llyfn â phosib. 

“Bydd y modd newydd o weithio yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, yn gwneud i drigolion gysidro beth i’w ailgylchu a hefyd yn arbed arian drwy gyflwyno gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon”.

Dros y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn lansio ymgyrch wybodaeth er mwyn hysbysu trigolion o’r newidiadau a’r effaith arnynt a’u cymunedau. Mae disgwyl i’r cyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi’r gwasanaeth fod mewn lle erbyn cynnar 2021, gyda’r bwriad o drosglwyddo pob cymuned i’r gwasanaeth newydd erbyn Gorffennaf 2021.

Bydd rhagor o wybodaeth i’w gael ar: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu

Neges gan y Prif Weithredwr, Judith Greenhalgh

Erbyn hyn, rwyf wedi bod gyda chi yn Sir Ddinbych, fel eich Prif Weithredwr, am wyth mis. Mae’r amser wedi hedfan ac rwy’n teimlo’n hynod o lwcus a breintiedig o weithio mewn rhan mor brydferth o Gymru a'r DU. Yn ddaearyddol, mae Sir Ddinbych yn Sir eithaf bychan, ond mae gennym bopeth yma – traethau a morlin godidog, trefi marchnad hanesyddol, cymunedau pentref sy’n ffynnu a’n cefn gwlad anhygoel – pob un o fewn tafliad carreg i’w gilydd.CEO

Balch o weithio i Sir Ddinbych

Rwy’n falch iawn o'r Cyngor. Rydym wedi bod yn Gyngor sy’n perfformio’n uchel yn gyson ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ond yn fy misoedd cyntaf rwyf wedi bod yn edrych ar bopeth a wnawn, er mwyn archwilio i weld os oes posib gwneud pethau’n fwy effeithlon ac effeithiol, gan fod lle ar gyfer gwella bob amser. Gyda’r toriadau yn y gyllideb yn parhau a gofynion a disgwyliadau ein gwasanaethau yn tyfu, rhaid i mi a fy nhîm rheoli sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau yn y ffordd orau bosib. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar gynhyrchu incwm ac ar ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau; yn ddiweddar bûm yn ymgynghori â’n preswylwyr ar newidiadau i’n model gwastraff a fydd yn cynyddu’r nifer o gasgliadau a dylai gynyddu faint yr ydym yn ei ailgylchu. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno prosiectau i wella ein heffeithlonrwydd mewnol a phrosiectau a fydd yn newid y ffordd y darparwn ein gwasanaethau. Rwy’n gweithio gyda fy rheolwyr i ystyried y rhain, nid yn unig i fodloni’r heriau cyllido a wynebwn ond hefyd er mwyn gwella ein gwasanaethau ymhellach fyth.

Gweithio i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol

Pan ymunais â Chyngor Sir Ddinbych, rhoddodd Arweinydd y Cyngor a’i gabinet y dasg i mi o gyflawni eu cynllun corfforaethol, a gafodd ei greu yn 2017 yn dilyn ‘Sgwrs y Sir’ eang, lle gofynnwyd i’n preswylwyr fynegi eu barn ar yr hyn oedd yn bwysig iddynt. Rwy’n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni’r blaenoriaethau hyn; tai, cymunedau cysylltiol a chadarn, yr amgylchedd a phobl ifanc. Mae hi dal yn ddyddiau cynnar o ran cyflawni ein cynllun, ond hyderaf y gallwn wneud gwahaniaeth yn y meysydd sy’n bwysig i chi. Ynghyd â’n cynllun corfforaethol, mae gwasanaethau pwysig eraill y mae’r Cyngor yn eu darparu bob dydd ar eich rhan; ar lefel ddwys i’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn ac yn fwy cyffredinol i gyfran ehangach o’n poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ein llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, a wyddwn sy'n bwysig iawn i chi ac mae'r Cyngor wedi buddsoddi swm sylweddol o arian i'w gwneud ymysg y gorau yn eu dosbarth. Os nad ydych wedi cael cyfle i ymweld ers tro, gwnewch hynny, rwy’n siŵr y cewch eich synnu.

Edrych i’r dyfodol

Bydd y flwyddyn newydd, 2019, yn dod â nifer o heriau a chyfleoedd i ni. Yn gynnar yn y flwyddyn, gobeithiwn gyflawni telerau Bargen Dwf Gogledd Cymru, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd yn dod â miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i’n rhanbarth, gan greu swyddi, datblygu tai a busnesau, cyllido datblygiad sgiliau a gwella ein hisadeiledd cludiant a digidol hanfodol. Mae hwn wir yn gyfle unwaith mewn bywyd ar gyfer Gogledd Cymru, a bydd yn hwb mawr i’n rhanbarth, gan ein helpu i fynd i’r afael â nifer o broblemau a materion yr ydych yn ei wynebu. Byddaf yn gweithio’n galed gydag arweinwyr a phrif weithredwyr eraill ar draws y rhanbarth i sicrhau bod hyn yn digwydd i ni.

Dymuniadau gorau i chi oll, eich ffrindiau a theuluoedd, am Nadolig llawen a blwyddyn newydd hapus a heddychlon.

Nawdd ar gael i helpu’r rheiny mewn gwaith i ddatblygu eu gyrfaoedd

Mae modd i weithwyr sy’n dymuno gwella eu sgiliau i ddatblygu eu gyrfaoedd gael help llaw diolch i gynllun newydd y Cyngor.

Mae bwrsari cyflogaeth pobl ifanc y Cyngor ar agor i weithwyr rhwng 18 a 35 mlwydd oed yn Sir Ddinbych ac mae nawdd ar gael i dalu am gyrsiau hyfforddi i’w helpu i ddatblygu o fewn y gweithle presennol neu ennill swydd â chyflog uwch gyda chyflogwr newydd yn Sir Ddinbych. 

Mae posib i'r Cyngor helpu hyd at 80 unigolyn y flwyddyn gyda nawdd rhwng £250 a £2,000 y pen fel rhan o waith y Cyngor i sicrhau bod pobl ifanc eisiau byw a gweithio o fewn y sir a gyda’r sgiliau i wneud hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r dull arloesol hwn gan y Cyngor yn anelu i helpu pobl ifanc cyflogedig i ddatblygu eu gyrfa a chreu cyfleoedd newydd iddynt.

“Rydym eisiau annog pobl ifanc sy’n gweithio yn y sir i ddatblygu a thyfu yn eu gyrfaoedd ac ennill cyflogau uwch, a fydd o fudd i fusnesau’r sir gan gadw unigolion talentog a chrefftus.”

Gellir defnyddio’r nawdd ar gyfer cyrsiau Addysg Bellach ynghyd â sgiliau proffesiynol a hyfforddiant. 

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Gall buddsoddiad mewn person ifanc, drwy dalu am gwrs hyfforddiant, wneud gwahaniaeth mawr drwy eu helpu i wneud ceisiadau am swyddi â chyflog uwch, a fydd yn cynyddu eu potensial enillion drwy gydol eu gyrfaoedd.

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd gwell i bobl ifanc, ac mae’r bwrsari yn ein helpu i gyflawni hyn.”

I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod rhwng 18 a 35 mlwydd oed, byw yn Sir Ddinbych, ac yn ennill o dan gyflog canolrif y sir o £20,326, yn gweithio ar hyn o bryd (lleiafswm o 16 awr) a gallu dangos argaeledd swyddi addas gyda chwmni wedi’i leoli yn Sir Ddinbych unwaith mae’r sgiliau wedi eu hennill.

Am ragor o fanylion gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan www.sirddinbych.gov.uk/bwrsariaeth-sgiliau 

Hosbis i elwa o gasgliad gwasanaeth carolau

Diolch i’r rheiny ohonoch fynychodd ein gwasanaeth carolau elusennol ac ein helpu ni i gasglu £400 tuag at Hosbis Sant Cyndeyrn.

Roedd y gwasanaeth, a gynhaliwyd yn Eglwys Plwyf Llanelwy yn cynnwys perfformiadau gan Côr Cytgan Clwyd, Côr Sain y Sir (yn cynnwys staff y Cyngor), unawdydd Owain John o Ysgol Glan Clwyd, y delynores Angharad Huw o Ysgol Brynhyfryd a pherfformiad difyr gan Gerddoriaeth Sir Ddinbych Ensemble pres cydweithredol i orffen y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor: "Mae ein gwasanaeth carol wedi sefydlu ers ei hun fel un o wasanaethau cyntaf tymor y carolau. Roedd yn noson wirioneddol hudol, yn cynnwys perfformiadau traddodiadol a modern. Cyflwynodd staff a chynghorwyr stori'r Nadolig trwy ddarlleniadau ac roedd yr eitemau cerddorol yn diddanu'r gynulleidfa ac yn ychwanegu rhywbeth arbennig at y noson.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau hael ac edrychwn ymlaen at basio'r casgliad ymlaen i Hosbis Sant Cyndeyrn.

Ensemble Cerddoriaeth Sir Ddinbych

Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych yn gwella bywydau trigolion

Mae cynllun pum mlynedd i wella bywydau trigolion Sir Ddinbych yn cael effaith yn barod.

Bydd Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn buddsoddi £135miliwn mewn meysydd allweddol er budd y sir.

Mae’r prosiectau’n cynnwys adeiladu tai cyngor newydd, buddsoddi mewn cludiant a seilwaith digidol, amddiffyn a gwella'r amgylchedd a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.

Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion wedi elwa ar adeiladau ysgol newydd, ac mae miloedd o goed wedi cael eu plannu fel rhan o gynllun i greu sawl hafan werdd yn nhrefi’r sir.

Meddai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Ein bwriad yw gwneud newidiadau yn ein cymunedau fydd yn gosod sylfaeni iddyn nhw lwyddo a ffynnu yn y tymor hir.

“Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bum maes allweddol sy’n cynnwys yr amgylchedd, pobl ifanc, tai yn ogystal â chlymu cymunedau cryf.

“Rydym eisoes wedi cychwyn adeiladu tai cyngor newydd – fydd i gyd yn effeithlon o ran ynni – ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â chymunedau a darparwyr i wella ein seilwaith digidol.

“Hyd yma, mae pethau’n datblygu ar gyflymder da ac at safon dda, ac rydym yn croesawu’r nodau heriol y mae ein trigolion wedi’u gosod i ni. Mae 18 mis cyntaf y cynllun wedi gosod sylfaen cadarn ar gyfer gwaith parhaus y Cynllun Corfforaethol.

“Byddwn hefyd yn cydweithio’n agos â’n trigolion i’w gwneud yn haws iddyn nhw ymdopi â heriau yn eu bywydau, drwy wella’r gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â gwrando’n fwy gofalus ar ein cymunedau a’u helpu i gyrraedd eu nodau.”

Fel rhan o’r Cynllun Corfforaethol, fydd yn rhedeg tan 2022, mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn Y Rhyl a chymorth ychwanegol i’r bobl hynny sy’n chwilio am waith neu eisiau datblygu eu gyrfaoedd.

Mae Mesuryddion Atebolrwydd Cyhoeddus 2017-18 a gyhoeddwyd gan Ddata Cymru yn gynharach eleni, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dangos bod Sir Ddinbych yn y chweched safle allan o 22 o gynghorau Cymru.

Cynnig Gofal Plant 30 Awr i Gymru

Mae'r Cyngor yn falch iawn o gadarnhau y bydd cynllun Llywodraeth Cymru sy’n cynnig 30 awr o addysg a gofal plant wedi’i gyllido'r wythnos yng Nghymru yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2019, a bydd y sir i gyd yn elwa o gyflwyno’r cynllun ar yr un pryd.

Bydd modd i blant cymwys fanteisio ar y cynnig o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.

Bydd gan blant cymwys hawl i 30 awr o ofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar am ddim, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gyda rhieni’n cael dewis unrhyw leoliad sydd wedi’u cofrestru sy’n addas ar gyfer eu hamgylchiadau personol a theuluol.

I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, mae’n rhaid i rieni / gofalwyr fodloni cyfres o feini prawf: Rhaid i’w plentyn fod yn 3 neu 4 oed; rhaid i rieni / gofalwyr weithio ac ennill cyfwerth ag 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol o leiaf, neu fod yn derbyn budd-daliadau gofal penodol a rhaid iddynt fyw yn Sir Ddinbych.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer y cynnig a gwybodaeth gyffredinol am ofal plant ar ein gwefan https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/cymunedau-a-byw/gofal-plant-a-rhianta/gofal-plant-a-rhianta.aspx neu drwy Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01745 815891.

Cofrestr Tai Fforddiadwy newydd i helpu pobl i ddod o hyd i gartref delfrydol

Mae darpar brynwyr tai a thenantiaid yn cael eu hannog i ymuno â chofrestr tai fforddiadwy ar-lein newydd er mwyn gwella eu siawns o sicrhau eu cartref delfrydol.  

Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau lleol, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn symleiddio’r dull y mae pobl yn gwneud cais am gartref fforddiadwy.

Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.

Grŵp Cynefin sy’n arwain y prosiect. Yn ogystal â Grŵp Cynefin, mae partneriaid eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a saith awdurdod lleol : Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Powys, Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir Ynys Môn.

Y cymdeithasau tai eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Tai Pennaf, Tai Gogledd Cymru, Tai Wales & West, a Cartrefi Conwy.

Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio’r gofrestr tai cyngor perthnasol yn eu hardal.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan: www.taiteg.org.uk

Lansio fideo newydd sbon ar ddiogelu

Mae fideo sy'n codi ymwybyddiaeth o'r angen i roi gwybod am bryderon am gamdriniaeth o unrhyw fath wedi'i lansio gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Mae Lansio 'Gweld Rhywbeth, Dywedwch Rhywbeth' yn canolbwyntio ar ddwy sefyllfa go iawn sy'n dangos nifer o wahanol fathau o gamdriniaeth yn digwydd a sut mae unigolion mewn penbleth rhwng yr angen i ymyrryd ai peidio.

Mae'r golygfeydd yn dangos dau unigolyn sy'n dod ar draws rhywfaint o dystiolaeth o gamdriniaeth gorfforol, emosiynol ac ariannol sy'n cael ei gadarnhau wrth i'r stori ddatblygu.

Dywedodd Jenny Williams, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru: "Gyda chymaint o sylw ar yr wythnos ddiogelu genedlaethol, mae'n amser delfrydol i godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol fathau o gamdriniaeth a allai fod yn digwydd yn ein cymunedau.

Mae hwn yn fideo gyda stori ysgytwol ac mae hynny am reswm. Rydyn ni wir am iddi wneud pobl i feddwl ac rydym wedi dod â'r mater i fywyd trwy ddweud storïau  yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn, gall helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall y problemau cymhleth hyn. Deall y cefndir i’r straeon hyn yw'r cam cyntaf tuag at unigolion a sefydliadau i fod yn fwy hyderus i gynorthwyo'r rhai sydd mewn perygl yn well.

"Rydyn ni am i'r fideo hwn gael ei rannu ymhell ac agos er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth, gwneud i bobl feddwl ac yn bwysicach fyth wneud i bobl weithredu os oes ganddynt unrhyw fath o bryder".

Llwyddiant Gwasanaeth Cerdd yn Sir Ddinbych

Mae gwasanaeth cerdd cydweithredol arloesol a sefydlwyd yn Sir Ddinbych yn 2015 erbyn hyn wedi dyblu mewn maint.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych yn sefydliad  nid er elw sy’n cynnig gwersi cerdd i ddisgyblion ar draws Sir Ddinbych, ac yn fwy diweddar, sir Wrecsam.  Sefydlwyd y gwasanaeth mewn ymateb i doriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych.  Gweithiodd tiwtoriaid a gyflogwyd yn flaenorol gan Wasanaeth Cerdd William Mathias gyda Chyngor Sir Ddinbych i sefydlu model cydweithredol amgen a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerddoriaeth barhau.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r gwasanaeth wedi tyfu gyda dros 4,000 o bobl ifanc yn cael gwersi – dwbl y nifer oedd ar y llyfrau ar y dechrau, ac mae dros 50 o diwtoriaid arbenigol yn awr yn rhannu eu profiad er budd y genhedlaeth bresennol o gerddorion ifanc.

Meddai Heather Powell, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych:  “Pan gyhoeddwyd y toriad i’r gyllideb, daeth y tiwtoriaid at ei gilydd i edrych ar fodel cydweithredol ar gyfer gwasanaethau cerdd ac roeddent o’r farn ei fod yn fodel da iawn.  Wedi hynny cafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych a chawsom gefnogaeth ganddynt ar  ffurf offerynnau a swm o arian i ddechrau gwasanaeth a dyna oedd cychwyn y cyfan.

“Mae wedi bod yn her, ond dros y tair blynedd rydym wedi tyfu ac mae gennym fwy o fyfyrwyr yn cael gwersi a llawer mwy o diwtoriaid - 50 yn Sir Ddinbych erbyn hyn.  Bu modd i ni addasu'r hyn yr ydym yn ei gynnig i ysgolion, gan ddarparu athrawon llanw gydag arbenigeddau cerddorol ac yn y celfyddydau perfformio ac mae gennym raglenni anghenion addysg arbennig a rhaglenni ‘mwy abl a thalentog’ ar gael i ysgolion.

“Rydym hefyd wedi ennill llawer o wobrau. Yn y 12 mis diwethaf enillom wobr Dewis y Beirniaid y Daily Post, Gwobr Co-operative Cymru ‘One to Watch’, ac yn fwy diweddar enillom wobr 50 Busnes Mwyaf Radical y DU papur newydd yr Observer, felly mae’n amser digon cyffrous i ni i gyd.

“Rydym yn cynnig gwersi llais ac offeryn arbenigol i bob ysgol yn Sir Ddinbych, sy’n amrywio o wersi canu i wersi telyn.  Rydym hefyd yn rhedeg gwersi theori a cherdd llafar i’n holl ddisgyblion ac yn cefnogi gwersi cerdd TGAU a Lefel A. Rydym yn rhedeg sawl ensemble ar ôl yr ysgol – mae gennym gorau, bandiau pres, band jas, grwpiau gitâr ac offerynnau taro. Ar hyn o bryd mae gennym 4,000 o ddisgyblion yr wythnos yn defnyddio’r gwasanaeth, sydd ddwywaith maint y gwasanaeth pan ddechreuodd.  

“Rydym wedi dechrau rhedeg a chefnogi  gwasanaeth yn Wrecsam ac rydym yn gwybod fod sawl awdurdod lleol arall yn edrych ar y model, sydd yn gyffrous dros ben.  Rydym yn gobeithio dal ati i gynyddu a gwella’r hyn sydd ar gael i ysgolion ac ymgysylltu â mwy o ddisgyblion ar draws Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw-Hilditch Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol dros Blant, Pobl Ifanc, Addysg a’r iaith Gymraeg:  “Nid oedd y penderfyniad i dorri cyllideb y gwasanaeth cerdd yn un a gymerwyd yn ysgafn ac roeddem eisiau dod o hyd i ateb arall a fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth cerdd barhau, ond mewn ffordd wahanol.

“Edrychom ar y syniad o greu cydweithredfa gyda’r tiwtoriaid ac roeddem yn meddwl ei fod yn ateb ymarferol a hyfyw.  Gyda chymorth ymarferol ac ariannol gan y Cyngor a llawer o ymrwymiad a brwdfrydedd ar ran y tiwtoriaid, sy’n cael eu harwain mor abl gan Heather a’r tîm, ganed y gwasanaeth cydweithredol. 

“Mae’r gwasanaeth erbyn hyn wedi mynd o nerth i nerth ac rydym wrth ein bodd gweld cenhedlaeth newydd o ddisgyblion yn cael mynediad i wersi cerdd a diwallu’r galw amlwg sydd am wasanaeth o’r fath.  

Gwastraff ac Ailgylchu

Parciau Ailgylchu: Oriau agor dros y Nadolig

PARCIAU AILGYLCHU

Bydd y cyfleusterau Parc Ailgylchu parhaol yn Ninbych, y Rhyl a Rhuthun ar agor i’r cyhoedd bob dydd yn ôl yr arfer ar wahân i 25 Rhagfyr, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr. Oriau agor y gaeaf yw:

Dinbych a Rhuthun: Dydd Llun i ddydd Gwener 10am- 4pm. Dyddiau’r penwythnos 9am – 4pm.

Y Rhyl: Bob dydd 10am - 6pm.

AILGYLCHU - CORWEN A LLANGOLLEN

Bydd y gwasanaethau ailgylchu ar ddydd Sadwrn ym Maes Parcio’r Pafiliwn, Llangollen, yn digwydd yn ôl yr arfer ar ddydd Sadwrn 22 Rhagfyr.

Fodd bynnag, ni fydd gwasanaethau bore Sadwrn o gwbl ar 29 Rhagfyr nac ychwaith ar 5 Ionawr 2019. Y rheswm dros hyn yw y bydd yr holl staff a cherbydau sydd ar gael yn gweithio mewn mannau eraill o ganlyniad i’r rhaglen ailgylchu ac ysbwriel ddiwygiedig.

Bydd gwasanaethau ailgylchu yn ailgychwyn ar Sadyrnau yn unol â’r arfer yng Nghorwen ar 19 Ionawr rhwng 9 ac 11am ac yn Llangollen ar 12 Ionawr rhwng 9 ac 11am.

AILGYLCHU MASNACHOL A CHASGLIADAU SBWRIEL

Bydd gwasanaethau busnesau gan Gyngor Sir Ddinbych yn dilyn yr un patrwm heb ei newid â’r gwasanaethau i gartrefi (gweler isod).

DYDDIAD CASGLU ARFEROL DYDDIAD CASGLU NEWYDD
Dydd Llun 24 Rhagfyr aros yr un fath Dydd Llun 24 Rhagfyr
Dydd Mawrth 25 Rhagfyr newid i Dydd Mercher 26 Rhagfyr
Dydd Mercher 26 Rhagfyr newid i Dydd Iau 27 Rhagfyr
Dydd Iau 27 Rhagfyr newid i Dydd Gwener 28 Rhagfyr
Dydd Gwener 28 Rhagfyr newid i Dydd Sadwrn 29 Rhagfyr
Dydd Llun 31 Rhagfyr aros yr un fath Dydd Llun 31 Rhagfyr
Dydd Mawrth 1 Ionawr 2019 newid i Dydd Mercher 2 Ionawr
Dydd Mercher 2 Ionawr newid i Dydd Iau 3 Ionawr
Dydd Iau 3 Ionawr newid i Dydd Gwener 4 Ionawr
Dydd Gwener 4 Ionawr newid i Dydd Sadwrn 5 Ionawr

YMHOLIADAU

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y trefniadau casglu dros gyfnod yr ŵyl, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706000. 

Twristiaeth

Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth

Rydym yn cynnal gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth chwarterol yn rhad ac am ddim er mwyn i fusnesau archebu taflenni a phamffledi. Cynhyrchwyd y wybodaeth hon i annog ymwelwyr i'r ardal, ac i wella eu profiad pan fyddant yma.Tourism Leaflets

Mae'r cynnyrch yn cynnwys:

  • Taflenni Llwybrau Tref
  • Taflen 5 Taith
  • Anturiaethau Digidol Sir Ddinbych
  • Pamffled Canolfan Grefft Rhuthun
  • Taflen Treftadaeth

Pwy sy'n gallu eu harchebu?

Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes wedi’i leoli yn, ac o amgylch, Gogledd Ddwyrain Cymru ac eich bod yn dod i gysylltiad ag ymwelwyr.

Sut i archebu?

Gallwch archebu gan ein Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth ar-lein. Byddwn yn trefnu bod ein cwmni dosbarthu yn danfon atoch, yn rhad ac am ddim. 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd ein cwmni dosbarthu yn danfon stoc atoch yn yr wythnos yn dilyn y dyddiad cau.  Os nad ydych yn derbyn eich taflenni o fewn 2 wythnos o’r dyddiad cau anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk 

Lansio ymgyrch twristiaeth i ddenu twristiaid i Ogledd Cymru’r gaeaf hwn

Tourism Campaign

Mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn cydweithio ar ymgyrch gyffrous i annog twristiaeth ar draws Gogledd Cymru yn ystod cyfnod y gaeaf. 

Mae ‘Ymgolli yn y Gogledd’ yn targedu cynulleidfaoedd y tu allan i Gymru; Manceinion yn bennaf, ac yn hyrwyddo cymysgedd o antur, bwyd a diod, llety a digwyddiadau ar draws Gogledd Cymru yn ystod misoedd y gaeaf. 

Ariennir yr ymgyrch gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru (RTEF). 

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn arwain y prosiect a bydd Cyngor Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam (Gogledd Ddwyrain Cymru), Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn yn uno â nhw i hybu twristiaeth drwy gydol y flwyddyn, gan weithio'n agos gyda Chroeso Cymru.  Y dull cydlynol hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y rhanbarth, gyda’r chwe awdurdod lleol yn dod ynghyd i weithio ar un ymgyrch ranbarthol er budd economi Gogledd Cymru i gynorthwyo i ddenu mwy o ymwelwyr newydd ar adeg fwyaf heriol y flwyddyn ar gyfer y diwydiant twristiaeth. 

Bydd yn cynnwys ymgyrchoedd radio, cyfryngau cymdeithasol, cyfleoedd teithio a masnach ar gyfer newyddiadurwyr ac ystod o adnoddau ar gyfer busnesau. 

Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r ymgyrch gan fusnesau’r rhanbarth eisoes, gyda nifer ohonynt yn cefnogi’r ymgyrch. Anogir busnesau bach a mawr Gogledd Cymru i gyfranogi i hyrwyddo eu cynnyrch a'u gwasanaethau i gynulleidfa ehangach y gaeaf hwn.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o gymryd rhan yn y prosiect a byddem yn annog cymaint o fusnesau â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae teithiau cerdded, beicio mynydd, trefi hanesyddol, gweithgareddau arfordirol, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau i’w mwynhau yn Sir Ddinbych dros fisoedd y gaeaf. Dim ond awr o Fanceinion a Lerpwl, mae Sir Ddinbych mewn lleoliad gwych fel cyrchfan hygyrch er mwyn mwynhau gwyliau byr yn yr amgylchedd trawiadol. Mae cynnig drwy gydol y flwyddyn yn allweddol i ddenu mwy o bobl i weithio yn y sector twristiaeth ac yn cael gwir effaith ar ffyniant economaidd Sir Ddinbych”.

Dilynwch yr ymgyrch i weld yr holl ddigwyddiadau diweddaraf, newyddion, cystadlaethau unigryw drwy chwilio am #DarganfodYGogledd/ #DiscoverNorthWales ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i http://www.northeastwales.wales/?lang=cy

Chwilio am lefydd i ymweld â nhw dros Wyliau’r Nadolig?

Looking for places to visit this ChristmasAngen ychydig o ysbrydoliaeth? I gael syniadau am bethau i’w gwneud a llefydd i ymweld â nhw yn ein cornel hyfryd o Ogledd Cymru, edrychwch ar http://www.northeastwales.wales/5-things-to-do-christmas/?lang=cy

A pheidiwch â chymryd ein gair ni yn unig- mae’r blogwyr hyn oll wedi ymweld â Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddiweddar ac wedi profi llwyth o weithgareddau. Darllenwch am y mannau yr aethant i'w gweld a dysgu beth sydd ganddynt i'w ddweud am lefydd ar eich carreg drws!

 http://www.northeastwales.wales/category/bloggers-cy/?lang=cy

Y newyddion twristiaeth diweddaraf!

Ydych chi eisiau clywed am y newyddion twristiaeth diweddaraf yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os felly, mae cofrestru yn hawdd ac yn syml - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx

Dymuniadau gorau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n holl ymwelwyr, busnesau, grwpiau a phartneriaid am gyfrannu at agenda twristiaeth ar draws Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru yn ystod y flwyddyn. Twristiaeth yw’r diwydiant mwyaf yn Sir Ddinbych ac mae’n bwysig ein bod yn cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy ar gyfer pawb sy’n byw, yn gweithio, yn astudio ac yn ymweld â’n rhanbarth hardd.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Awyr Dywyll

Yn ddiweddar aeth y Tîm AHNE ar daith i AHNE’r Penwynion Gogleddol i ddysgu mwy am eu safle Darganfod yr Awyr Dywyll. Fel y byddwch efallai wedi clywed, mae gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ei huchelgeisiau Awyr Dywyll mawr ei hun! Hoffem wneud cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll ryngwladol (IDA) i gael cydnabyddiaeth swyddogol i ansawdd ein Hawyr Dywyll ni, sydd ymysg y gorau yng Nghymru. 

Fel ni, nid yw AHNE’r Penwynion Gogleddol eto wedi gwneud cais i’r IDA, fodd bynnag maent wedi buddsoddi mewn sawl safle Darganfod yr Awyr Dywyll.

Mae safleoedd Darganfod yr Awyr Dywyll yn llefydd i ffwrdd o’r llygredd golau lleol gwaethaf lle gellir gweld yr awyr yn glir, sydd â mynediad cyhoeddus da ac yn gyffredinol yn llefydd y gellir mynd iddynt ar unrhyw adeg.

Mae dehongli arloesol, hamogau, gwyliau gwylio’r sêr ac arsyllfa ymysg rhai o'r pethau y mae’r North Pennines wedi llwyddo i’w gwireddu fel rhan o’u gwaith Awyr Dywyll – dim pwysau ar AHNE Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd felly!  

Yn y rhifyn nesaf o Llais y Sir byddwch yn cyfarfod Swyddog Awyr Dywyll newydd Gogledd Cymru, swydd bartneriaeth rhwng tirweddau gwarchodedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, AHNE Ynys Môn a Phen Llŷn a ninnau. 

Cefnogwyd y siwrnai ddysgu drwy nawdd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a noddir drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Cadwyn Clwyd.

Fforwm Blynyddol yr AHNE – Twristiaeth Gynaliadwy ac Ymgysylltiad Busnesau

Bob blwyddyn bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n cynnal fforwm, a’r thema eleni oedd Twristiaeth Gynaliadwy ac Ymgysylltiad Busnesau.

Wrth gynllunio’r fath ddigwyddiad does dim ond un lle i fynd, sef yn syth at y busnesau eu hunain, yn benodol Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Chlwb Bwyd Da Dyffryn Dyfrdwy. Wedi bod yn rhan o sefydliad pob un o’r grwpiau hyn, yn naturiol nhw oedd y busnesau ar ben y rhestr.

Ymunom mewn partneriaeth a’r grŵp twristiaeth a gynhaliodd eu cyfarfod yr hydref rhwng 3-5pm cyn arddangos cynnyrch blasus y cynhyrchwyr bwyd lleol ar ei orau. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys:

  • Julie Masters a Jane Clough a roddodd gyflwyniad ar ‘Aros, Bwyta a Gwneud’, sef cyfle cyffrous i fusnesau’r ardal ffurfio clystyrau marchnata.
  • Peter McDermott, Rheolwr Twristiaeth CSDd, a roddodd ddiweddariad ar Strategaeth Twristiaeth y Sir.
  • Anna Bowen, Banc Datblygu Cymru, a siaradodd am gyfleoedd ariannol i fusnesau.
  • Sarah Jones, Cadwyn Clwyd, a siaradodd am y prosiect Llwybrau Digidol Gogledd Ddwyrain Cymru arloesol sydd ar waith mewn nifer o gymunedau.

Roedd rhai o uchafbwyntiau’r noson yn cynnwys:

  • Cillian Murphy o Gymdeithas Twristiaeth Loop Head, a ysgogodd frwdfrydedd y gynulleidfa gyda’i ddyfyniadau am Dwristiaeth Gynaliadwy, megis “’Nid twristiaeth ynddo’i hun yw'r nod, yn hytrach teclyn ydyw y gallwn ei ddefnyddio i adeiladu cymunedau cynaliadwy” a “Dylid mesur twristiaeth nid yn ôl niferoedd ymwelwyr ond yn ôl ei effeithiolrwydd i greu ffyniant, cyflogaeth, amgylchedd iach a manteision i'r gyrchfan", rhywbeth perthnasol dros ben i’n siaradwyr gwadd nesaf;
  • Graham Randles a Rebecca Armstrong o’r Sefydliad Economeg Newydd sydd wedi’u comisiynu gan yr AHNE i wneud gwaith ymchwil i werth rhai o'n safleoedd ‘pot mêl’ megis Parc Gwledig Moel Famau a Rhaeadr y Bedol (bydd y casgliadau’n cael eu cynnwys yn y rhifyn nesaf o County Voice) nid yn unig o safbwynt economaidd ond hefyd o ran iechyd a lles .

Denodd y digwyddiad dros 80 o bobl a thynnodd sylw go iawn at Dwristiaeth Gynaliadwy ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran mewn digwyddiad mor wych - da iawn!

Cafodd y digwyddiad ei gefnogi'n ariannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Cadwyn Clwyd.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Sir Ddinbych yn lle pwysig ar gyfer goroesiad y Fôr Wennol Fach yn y DU

Mae’r Fôr Wennol Fach – un o’n hadar môr lleiaf a phrinnaf – yn nythu ar draethau tywod a graean bras agored ein harfordiroedd rhwng mis Mai a mis Awst bob blwyddyn.  Wedi monitro’r adar ar draws y DU, gwelwyd fod eu niferoedd wedi lleihau bron bumed ers 2000 o ganlyniad i lai o lwyddiant bridio a’r bygythiadau lu y maent yn agored iddynt ar ein traethau. Roedd cais am gyllid, gyda’r RSBP yn bartner arweiniol, yn llwyddiannus.

Ganol fis Tachwedd cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol yn Norwich i ddathlu llwyddiant y prosiect pum mlynedd, a noddir gan  yr UE, i ddiogelu’r Fôr Wennol Fach – ail aderyn môr prinnaf y DU. Mae  ‘EU Life+ Little Tern Recovery Project’ yn brosiect partneriaeth gydag 11 o sefydliadau (gan gynnwys Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a sawl AHNE) ac fe’i noddir 50% â nawdd cyfatebol.  

Meddai Susan Rendell-Read o’r RSPB, rheolwr prosiect y Fôr Wennol Fach: “Fe lwyddom i gyflawni’r hyn yr oeddem wedi gobeithio ei wneud a gosod y sylfeini ar gyfer adferiad hirdymor yr adar, ond nid yw dyfodol y Fôr Wennol Fach yn sicr o bell ffordd. Mae angen rhagor o arian ar frys i adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf ac i sicrhau y bydd ein harfordir yn parhau i fod yn lle croesawus i’r aderyn hyfryd hwn.”

Siaradodd Adrian Hibbert o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn y gynhadledd a dywedodd:  “Un o’r safleoedd a fanteisiodd yn fawr o’r prosiect hwn oedd y warchodfa natur yn Nhwyni Gronant.  Gan edrych ar y tueddiadau presennol gallai’r warchodfa fod yn gartref i un rhan o ddeg o boblogaeth bridio’r DU mewn ychydig flynyddoedd. Mae hyn yn newyddion gwych a dylem fod yn falch dros ben fod Sir Ddinbych yn helpu i arwain y ffordd tuag at eu hadferiad.

Nid yw’r Fôr Wennol Fach yn cael amser hawdd ac achosodd Storm Hector lawer o niwed eleni. Er gwaethaf hyn, yma ar arfordir Cymru daeth yr adar atynt eu hunain gan lwyddo i fagu 192 o gywion, sydd yn anhygoel. Cafodd ysglyfaethwyr eu cadw draw gyda ffensys trydan ychwanegol i rwystro llwynogod a gweithiodd bwydo dargyfeiriol y cudyll coch yn hynod o dda.  Fe wnaethom hefyd dreialu tarthu am y tro cyntaf a thrwy hynny llwyddwyd i gadw brain i ffwrdd ar ddechrau’r tymor. Yn sicr byddai rhagor o wyau a chywion wedi’u colli heb yr ymyraethau hyn. 

Gan na fydd cais am grant i Lywodraeth Cymru’n cael ei benderfynu tan fis Mawrth bydd yn arhosiad hir i weld os gellir diogelu’r adar i’r un lefel eto’r tymor bridio nesaf. Mae Grŵp y Fôr Wennol Fach Gogledd Cymru fodd bynnag wedi cyrraedd 200 o aelodau eleni ac mae hynny’n rhywbeth cadarnhaol dros ben yn y frwydr i helpu i achub yr aderyn môr prin hwn.

Natur er Budd Iechyd

A ydych yn dymuno bod yn weithgar a dysgu sgiliau newydd yn 2019?  A hoffech chi gyfarfod pobl newydd ac archwilio eich ardal leol?  Yna pam na chymerwch ran yn ein sesiynau gwirfoddoli cefn gwlad neu gerdded wythnosol, am ddim?  Maent yn digwydd yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen, felly mae digon i ddewis ohonynt!

Dewch o hyd i’ch sesiwn leol isod, rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod yn Ionawr.

Sesiynau cerdded wythnosol:

Ble?                              Man Cyfarfod                               Pryd?

Llangollen

Pafiliwn Llangollen

Dydd Mawrth

1pm - 3pm

Corwen

Canolfan Hamdden Corwen

Dydd Mawrth

10am – 12pm

Prestatyn

Porth Morfa

Dydd Iau

1pm - 3pm

Y Rhyl

Glan Morfa, Marsh Tracks

Dydd Iau

10am – 1pm

Sesiynau gwirfoddoli wythnosol:

Ble?                            Man Cyfarfod                                 Pryd?

Llangollen

Canolfan Gymunedol Pengwern

Dydd Mawrth

10am – 1pm

Corwen

Canolfan Hamdden Corwen

Dydd Mercher

1pm - 3pm

Prestatyn

Porth Morfa

Dydd Iau

10am – 1pm

Y Rhyl

Glan Morfa, Marsh Tracks

Dydd Iau

10am – 1pm

Mae’r sesiynau hyn yn ffurfio rhan o’r prosiect Natur er budd Iechyd, gyda’r nod o wella bywydau pobl drwy weithgareddau iechyd a lles. Rydym eisiau helpu unigolion a chymunedau yn Sir Ddinbych i gysylltu â chefn gwlad a mabwysiadu arferion iach am oes.

Mae Tai Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i ddarparu'r prosiect, gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Bydd y prosiect peilot 18 mis hwn yn rhedeg yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen.

Priffyrdd

Gwelliannau i Gludiant Cyhoeddus yn Ardal Bryneglwys

Mae gyrwyr y Cyngor Sir ar gael i breswylwyr yn ardaloedd Bryneglwys a Llandegla sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr ar hyn o bryd ar gyfer siwrneiau cludiant cyhoeddus hanfodol. 

Bydd y gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0930 a 1430 i breswylwyr lleol yn bennaf i gysylltu yn Llandegla i’r gwasanaeth bws X51 i deithio ymlaen i Ruthun neu’r Wyddgrug.  Gall siwrneiau eraill fod ar gael hefyd yn cynnwys cludiant uniongyrchol i Ruthun.

Gofynnir i deithwyr gyfrannu £2 tuag cost taith dychwelyd.  Darperir y gwasanaeth hwn gyda chymorth Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych. 

I drefnu lle, dylai teithwyr gysylltu â Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych ar 01490 266004 hyd at 1500 ar y diwrnod cyn teithio. Er mwyn teithio ar ddydd Llun, mae’n rhaid trefnu lle ar y dydd Gwener blaenorol.  Mae’n rhaid i’r siwrneiau fod o fewn canllawiau’r cynllun sydd ar gael o Bartneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych drwy ffonio'r rhif uchod, neu Gludiant Teithwyr Cyngor Sir Ddinbych (01824 706982).  Mae pob siwrnai o dan gynllun y Cyngor yn destun i amodau teithio ac argaeledd gyrwyr (h.y. gellir defnyddio gyrwyr mewn ardaloedd eraill).  Mae’r cyngor yn parhau i ddarparu cyswllt tacsi dychwelyd ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Sadwrn ar gyfer unrhyw breswylydd o Fryneglwys am 0925 i Landegla i ddal y bws X51 i Wrecsam.  Caiff ei weithredu gan Tacsis AAA o Rhuthun ac ni fydd angen i deithwyr ei archebu: bydd yn cael ei weithredu heb yr angen i ffonio'r gweithredwr ymlaen llaw.

Gosod arwyddion ffyrdd i rybuddio gyrwyr

Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn rhybuddio gyrwyr o amodau peryglus ar ddarn serth o ffordd.

Bydd y Cyngor yn gosod tri arwydd ar y ffordd rhwng Prestatyn a Gwaenysgor yn rhybuddio gyrwyr o’r amodau rhewllyd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, bu 45 damwain yn gysylltiedig ag amodau ffyrdd gaeafol yn yr ardal a bydd yr arwyddion yn cael eu defnyddio pan fydd amodau'n beryglus, a byddant yn cyfarwyddo gyrwyr i osgoi'r llwybr.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy’r Cyngor: “Bydd tri arwydd, a fydd ond yn weladwy pan fo amodau’n beryglus, yn rhybuddio gyrwyr i ddefnyddio llwybr arall.

“Gall amodau ar y darn hwn o ffordd ddod yn beryglus iawn, hyd yn oed gyda rhew yn unig ac ni ddylai gyrwyr ddefnyddio'r ffordd pan mae'r arwyddion yn cael eu gweithredu. Gallai gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr pan fo amodau’n beryglus roi bywydau mewn perygl.

“Oherwydd graddiant y darn hwn o’r ffordd, mae’n beryglus i'r Cyngor ddefnyddio peiriannau graeanu yn yr ardal.”

Mae disgwyl cael yr arwyddion rhybudd yn eu lle erbyn diwedd Tachwedd.

Y llwybr arall yw Allt y Graig yn Nyserth, darn o ffordd sy’n cael ei raeanu gan y Cyngor pan fo amodau’n gofyn am hynny.

Adran Busnes

Cymorth ychwanegol ar gyfer siopau lleol y Nadolig hwn

Mae gan Sir Ddinbych ei ‘Queen of Shops’ ei hun i helpu siopau’r sir baratoi ar gyfer y tymor gwerthu hanfodol y Nadolig. 

Mae’r arbenigwr siopa Helen Hodgkinson wedi bod yn gweithio gyda pherchnogion siopau a busnesau ochr yn ochr â Thîm Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor Sir ar sut i wneud y mwyaf o’r Ŵyl. 

Mae Helen, cyn siopwraig ffasiwn a darlithydd coleg, wedi bod yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb gyda busnesau, ac mae’n awyddus i gyfleu’r neges fod gan siopau’r sir ddigon i’w gynnig i siopwyr ar gyfer y Nadolig. 

Mae'n rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol Cyngor Sir Ddinbych i annog pobl leol i ddefnyddio eu siopau a gwasanaethau lleol ac i fusnesau hyrwyddo eu hunain ac i bawb ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Twitter a Facebook i rannu eu profiadau cadarnhaol o Sir Ddinbych fel lle gwych i siopa. 

Dywedodd: “Mae’n rhaid i fusnesau fod yn barod ar gyfer y Nadolig gyda’u cynlluniau wedi’u sefydlu gan mai hwn yw’r amser pwysicaf o’r flwyddyn, ac mae’n rhaid i chi gael yr hanfodion yn iawn er mwyn elwa. 

“Mae yna gynnig gwych yn Sir Ddinbych, llawer o siopau annibynnol anarferol, unigryw ac arbenigol gan gynnig cynnyrch a gwasanaeth heb eu hail, ond mae angen iddynt gynllunio a gwybod sut i werthu eu hunain.  “Mae pobl eisiau prynu rhywbeth sydd ychydig yn wahanol, heb ei gynhyrchu mewn swmp, ac mae tarddle yn bwysig, o ble mae’n dod a sut caiff ei wneud, a bod stori tu ôl iddo, gan fod hyn oll yn ychwanegu gwerth.” 

Dechreuodd Helen o Ddyserth, ym myd manwerthu ar gyfer y gadwyn archfarchnad Fine Fare yn Buxton Swydd Derby, ac yna aeth ymlaen i weithio i’r cewri bwyd iechyd Holland and Barratt yn Buxton a Stockport, cyn symud i Ogledd Cymru, lle agorodd fusnes dillad moesegol yn Llandudno. 

Yna, bu’n dysgu yng Ngholeg y Rhyl lle sefydlodd FE Retail - FE am Further Education – fel busnes bach o fewn y coleg lle gallai myfyrwyr gael blas ar werthu. 

Bu hefyd yn dysgu cyfres o gyrsiau gan uwch ddewines manwerthu, y seren deledu Mary Portas, ar fanwerthu’n llwyddiannus a lansiodd Academi Fanwerthu yn y coleg a oedd yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych. 

Rŵan, mae’r Cyngor wedi galw ar sgiliau unwaith eto a dywedodd Arweinydd y Cyngor, Hugh Evans OBE: “Rydym eisiau helpu i hyrwyddo ein masnachwyr lleol y Nadolig hwn, fel rhan o'n gwaith i greu cymunedau gwydn. 

“Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol 2018 yn ddathliad o’r profiadau siopa amrywiol a bywiog sydd gennym yn ein Sir, ac mae wedi ei anelu at annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r hashnod #CaruBusnesauLleol i hyrwyddo busnesau yn Sir Ddinbych ar draws yr holl lwyfannau rhwydweithio cymdeithasol. 

“Rydym yn helpu i dynnu sylw at y cynnig manwerthu gwych sydd yma yn Sir Ddinbych ac yn annog siopwyr i weld beth sydd ar eu strydoedd mawr lleol. 

“Nid yn unig mae ein busnesau lleol yn cynnig gwerth gwych am arian ac amrediad eang o gynnyrch, maent hefyd yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog ac rydym eisiau chwarae ein rhan mewn arddangos y busnesau sydd gennym ledled Sir Ddinbych”.

Fel rhan o’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cyflwyno cyfres o glipiau fideo byr i amlygu’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig i siopwyr a bydd yr ymgyrch yn annog pobl leol i gefnogi busnesau annibynnol lleol trwy ddefnyddio’r hashnod ar Twitter a Facebook i rannu’r profiadau da maent wedi eu cael yn ogystal â hyrwyddo’r cynnyrch a gwasanaethau lleol maent wedi eu ‘caru’.  Bydd y fideos yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfnod y Nadolig, i helpu i hyrwyddo siopa’n lleol.  Ychwanegodd Helen: “Ddeg mlynedd yn ôl, manwerthu oedd manwerthu o hyd, ond mae pethau wedi symud ymlaen gymaint ers hynny, ac mae’n rhaid i fanwerthwyr symud ymlaen hefyd.  “Mae’n hanfodol cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n digwydd yn lleol ac i gymysgu eich cynnig er enghraifft mae llawer o fusnesau stryd fawr yn ychwanegu caffi ar eu heiddo, yn darparu samplau, yn cynnal dosbarthiadau nos a chymryd rhan yn y cyfryngau cymdeithasol.  “Rwyf wedi bod o amgylch pob un o wyth tref Sir Ddinbych ac mae pethau yn digwydd ar y stryd fawr, maent yn newid er gwell gyda busnesau newydd yn agor ac yn cynnig y rhywbeth bach gwahanol hwnnw sy’n denu siopwyr.  “Maent yn mynd un gam ymhellach ac yn ysbrydoli eu cwsmeriaid gan fod yna lawer iawn o bobl dalentog yn yr ardal ac mae yna lawer i'w ddathlu yn sîn fanwerthu Sir Ddinbych."

Nodweddion

Awydd bod yn Ofalwr Maeth?

Fostering in DenbighshireMae'r Cyngor yn dymuno recriwtio Gofalwyr Maeth trwy gydol ardal Sir Ddinbych i fodloni anghenion rhai o’r plant mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas. Mae maethu yn golygu gofalu am blant, o’u geni hyd nes eu bod yn 18 oed, ond serch hynny, gall gofalwyr maeth ar y cyd â’u gweithiwr cymdeithasol, benderfynu ar oedran y plant a fyddai’n gweddu orau ar gyfer eu teulu. Rydym ni’n chwilio am bobl sydd yn gallu darparu amgylchedd saff, diogel a chariadus sy’n meithrin ar gyfer plant a phobl ifanc sydd methu byw gartref, am nifer o resymau. Gall gofalwyr maeth ddarparu gofal tymor byr, gofal tymor hir, gofal seibiant neu ofal mewn argyfwng, neu wyliau byr i blant sydd ag anghenion ychwanegol.

Ydych chi dros 21 oed, oes gennych chi'r amser a sgiliau i ofalu am blant neu bobl ifanc, oes gennych chi ystafell wely sbâr, ond yn bwysicach na dim allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Mae gan Wasanaeth Maethu Sir Ddinbych berthynas agos a chefnogol iawn gyda’u gofalwyr, ac mae hyfforddiant, cefnogaeth a lwfans ariannol yn rhan o fod yn ofalwr maeth. Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol gyda naill ai Gweithiwr Cymdeithasol Maethu neu ofalwr maeth, cysylltwch â

Sue Colman, Rheolwr y Gwasanaeth Maethu 01824 712279 neu Penny Moran 01824 712287, Swyddog Lleoli a Chomisiynu

Anrhydeddu prosiect dementia creadigol Ymgolli Mewn Celf

Bu Samuel West, seren y byd ffilm, teledu a radio yn serenu wrth gyflwyno gwobr gelfyddydol nodedig i Gyngor Sir Ddinbych.

Cyflwynodd yr actor, sy'n gadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau '(NCA) Wobr Heart For the Arts i brosiect Ymgolli Mewn Celf, a gafodd ei dyfarnu’n  Brosiect Celfyddydau Awdurdodau Lleol Gorau, Annog Cydlyniant Cymunedol. Datblygwyd y prosiect, a grëwyd gan y Gwasanaeth Celfyddydau, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Ganolfan Ddatblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor a'i brosiect ymchwil Dementia a Dychymyg.

Mae dau grŵp yn rhedeg yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd,  un yn y Rhyl a'r llall yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun.  

Dywedodd Samuel West: "Mae prosiectau fel Ymgolli Mewn Celf yn gynyddol bwysig. Wrth i ni fyw'n hirach a chael ein defnyddio i broblemau o ran dementia ac unigrwydd, mae'n dod i bob un ohonom i ddathlu'r pethau hynny sy'n dod â'r gymuned hon at ei gilydd ac yn ei gwneud yn llai stigma.

Meddai'r Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Les ac Annibyniaeth: "Rydym wrth ein bodd o gael yr anrhydedd hwn, sy'n cydnabod y gwaith aruthrol sy'n digwydd gyda demensia a'r celfyddydau. 

“Mae'r elfen rhwng cenedlaethau gydag ysgolion lleol hefyd yn ychwanegiad gwych a gwyddom fod pawb dan sylw yn cael synnwyr gwirioneddol o foddhad, gan wybod bod y gwaith hwn yn gwella ansawdd bywyd i bawb dan sylw. 

"Hoffwn hefyd gydnabod gwaith gwych y Gwasanaeth Celfyddydau a'r tîm creadigol Ymgolli Mewn Celf sydd wedi dyfeisio prosiect sydd wedi profi manteision iechyd i gyfranogwyr. Mae'n wir yn gwneud gwir wahaniaeth i ansawdd bywyd ".

"Mae ymchwil wedi dangos y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol creadigol wella hwyl a hyder ac annog ymdeimlad cynyddol o berthyn i gymuned i'r rhai sy'n cymryd rhan.

"Mae'n syniad mor syml ac felly mae ganddo'r pŵer hwn i gael ei gyflwyno i leoedd eraill. Mae'n rhoi amrywiaeth ehangach o wahanol ffurfiau celf i bobl i geisio. Mae'n eu galluogi i weithio gydag artistiaid a gwirfoddolwyr proffesiynol mewn llawer o wahanol ddisgyblaethau. Mae’n brosiect gwych, nid yn unig i'r bobl dan sylw, ond eu gofalwyr a'u teuluoedd a'u cymunedau

Mae Samuel, sy’n fab i’r actorion Timothy West a Prunella Scales, wedi cael profiad personol o ddementia. Cafodd ei fam ei hadnabod gyda'r cyflwr yn ddiweddar.

Mae Ymgolli Mewn Celf yn brosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Nod y prosiect yw archwilio rôl y celfyddydau gweledol wrth fynd i'r afael â materion a all effeithio ar bobl â dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu ac ansawdd bywyd. 

Tai Sir Ddinbych

Natur er Budd Iechyd

A ydych yn dymuno bod yn weithgar a dysgu sgiliau newydd yn 2019?

A hoffech chi gyfarfod pobl newydd ac archwilio eich ardal leol?

Yna pam na chymerwch ran yn ein sesiynau gwirfoddoli cefn gwlad neu gerdded wythnosol, am ddim?

Maent yn digwydd yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen, felly mae digon i ddewis ohonynt!

Dewch o hyd i’ch sesiwn leol isod, rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod yn Ionawr.

Sesiynau cerdded wythnosol:

Ble?                              Man Cyfarfod                               Pryd?

Llangollen

Pafiliwn Llangollen

Dydd Mawrth

1pm - 3pm

Corwen

Canolfan Hamdden Corwen

Dydd Mawrth

10am – 12pm

Prestatyn

Porth Morfa

Dydd Iau

1pm - 3pm

Y Rhyl

Glan Morfa, Marsh Tracks

Dydd Iau

10am – 1pm

 

Sesiynau gwirfoddoli wythnosol:

Ble?                            Man Cyfarfod                                 Pryd?

Llangollen

Canolfan Gymunedol Pengwern

Dydd Mawrth

10am – 1pm

Corwen

Canolfan Hamdden Corwen

Dydd Mercher

1pm - 3pm

Prestatyn

Porth Morfa

Dydd Iau

10am – 1pm

Y Rhyl

Glan Morfa, Marsh Tracks

Dydd Iau

10am – 1pm

Mae’r sesiynau hyn yn ffurfio rhan o’r prosiect Natur er budd Iechyd, gyda’r nod o wella bywydau pobl drwy weithgareddau iechyd a lles. Rydym eisiau helpu unigolion a chymunedau yn Sir Ddinbych i gysylltu â chefn gwlad a mabwysiadu arferion iach am oes.

Mae Tai Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i ddarparu'r prosiect, gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Bydd y prosiect peilot 18 mis hwn yn rhedeg yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen.

Gwobr Tai i Gina

Mae un o drigolion y Rhyl wedi cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau Mawreddog Tai Cymru am wasanaeth i'w chymuned.

Gina Jones yw Cadeirydd Cymdeithas Gymunedol y Marsh a Chydlynydd Canolfan Phoenix yn Y Rhyl. Mae'r enwebiad, a gyflwynwyd gan Dai Sir Ddinbych, yn cydnabod ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled gan Gina wrth droi o amgylch ffortiwn y ganolfan gymdogaeth leol, a oedd wedi bod yn dirywio dros nifer o flynyddoedd.

Dechreuodd ffiniau'r Ganolfan drawsnewid pan oedd grŵp bach o wirfoddolwyr, dan arweiniad Gina Jones yn dechrau gweithio gyda Thai Sir Ddinbych ac yn amlinellu eu cynlluniau ar gyfer y ganolfan. Agorwyd Canolfan Phoenix yng Ngwanwyn 2017.  . Ers yr ail-agor, mae Gina a gwirfoddolwyr eraill wedi ymdrechu i ddarparu Canolfan y mae'r trigolion ei eisiau, amgylchedd hamddenol cyfeillgar sy'n cynnig ystod eang o weithgareddau a chlybiau. Dywed preswylwyr fod y ganolfan bob amser yn groesawgar:  "Mae'r Ganolfan yn llawer mwy cyfeillgar  nag arferai fod, felly mae mwy o bobl yn ei ddefnyddio nawr".

Gyda chefnogaeth Nikki Jones, un o swyddogion Datblygu Cymunedol Tai Sir Ddinbych a sefydliadau allanol eraill, mae Gina bellach wedi ymestyn rhaglen y Ganolfan i gynnig sesiynau cyngor a datblygu sgiliau. Gall preswylwyr sy'n mynychu'r Ganolfan bellach elwa o gyrsiau Homestart, cyrsiau Coleg Llandrillo, Clwb Swyddi, cymorthfeydd tai a sesiynau coginio. Mae Canolfan Phoenix bellach wedi bod yn ganolfan lle gall trigolion wella eu hiechyd, lles a'u rhagolygon yn y dyfodol. Dywedodd un preswylydd "mae'n ddefnyddiol iawn cael defnydd rhydd o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd ar gyfer chwiliadau swyddi, a Chredyd Cynhwysol. Nid oes gennyf fynediad at gyfrifiadur neu ryngrwyd gartref, felly mae cael hyn mor agos at gartref yn wych. "

Hyd yn oed gyda gofod cyfyngedig, roedd Gina eisiau i'r ganolfan gynnig rhywbeth i bawb, nid cyrsiau a gwybodaeth yn unig. Roedd hi am greu canolfan lle byddai pobl yn dewis dod i mewn a chymdeithasu neu wneud ffrindiau newydd. Mae Gina a'r gwirfoddolwyr bellach yn rhedeg nifer o glybiau a threfnu teithiau a nosweithiau cymdeithasol, gan gynnwys nosweithiau ffilm, clwb gwau / gwnïo, ysgrifennu CV, boreau coffi, celf a chrefft plant, peintio creigiau, clwb garddio, diwrnodau hwyl y gymuned, diwrnodau allan, plant partïon a chlwb gwaith cartref.

Roedd diwrnod diweddar yn darparu rhai plant lleol gyda'u hymweliad cyntaf erioed i Sw Caer, ond y Clwb Gwaith Cartref sydd wedi gweld yr effaith fwyaf ar y plant yn y gymuned. Mae un plentyn yn dweud "Does gen i ddim neb yn y cartref a all fy helpu gyda fy ngwaith cartref, felly dwi'n dod yma i wneud hynny ac nid wyf yn mynd i drafferth yn yr ysgol."   Dywedodd plentyn arall: "Nid oes gennyf ddim i'w wneud ar ôl ysgol felly dwi'n dod yma yn hytrach na cherdded y strydoedd. "Mae annog plant i gymryd rhan yn y clwb gwaith cartref yn amhrisiadwy i'w haddysg ond mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned”.

Dywedodd un o’r trigolion:   "Mae Gina a'r gwirfoddolwyr yn hawdd mynd atynt ac yn hawdd siarad â nhw am unrhyw broblemau sydd gennym ac maen nhw'n gallu rhoi cyngor i ni a'n cyfeirio at y cyfeiriad cywir. Maen nhw bob amser gyda gwên ar eu hwyneb ac yn creu amgylchedd mor gyfeillgar a chroesawgar "

Meddai'r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai: "Rydym yn hynod falch bod gwaith diflino Gina a’i gwirfoddolwyr wedi cael ei anrhydeddu - maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd yn yr ardal.

"Mae ‘r modd llwyddiannus y mae’r ganolfan gymunedol hon yn cael ei rhedeg  i lawr i weledigaeth, gwaith caled, angerdd ac ymrwymiad Gina i wella bywydau'r bobl yn ei chymuned. Gyda chefnogaeth Nikki a chymorth partneriaid allanol, mae Gina wedi troi ei gweledigaeth i mewn i realiti a rhoi ei chymuned yn ôl i'w Canolfan.

Dros y 18 mis diwethaf, mae Gina a'i gwirfoddolwyr wedi gweithio'n ddiflino i droi canolfan gymunedol ddiddefnydd, heb fod yn gefnogol i amgylchedd prysur a chroesawgar sy'n diwallu anghenion ei chymuned. Oherwydd y gwahaniaeth gwirioneddol y mae Gina wedi'i wneud i fywydau pobl yn ei chymuned, ni all Tai Sir Ddinbych feddwl am unrhyw un sy'n haeddu'r wobr hon. Rydym yn hynod o falch ac ni allant feddwl am unrhyw un sy'n haeddu mwy am y wobr hon ".

Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Y Gwaith o drawsnewid Canolfan Hamdden Y Rhyl wedi ei gwblhau

Fel rhan o fuddsoddiad o £2.5 miliwn gan Hamdden Dinbych yn ei gyfleusterau eleni, mae gweithgareddau ymarfer corff i aelodau Canolfan Hamdden Y Rhyl wedi eu trawsnewid. Mae cwsmeriaid wrth eu boddau â’u canolfan ar ei newydd wedd, a'r gampfa yw’r cyntaf yng Ngogledd Cymru i fod â Skill Line Technogym llawn ar gael. Mae cyfres gyffrous o barthau ffitrwydd, hefyd wedi cael eu creu, ac mae’r ardaloedd newid wedi cael eu adnewyddu at y safonau uchaf.

Mae ystafell a arferai gael ei defnyddio ar gyfer drama ar y safle wedi derbyn gweddnewidiad dramatig er mwyn darparu ardal hyfforddi ymarferol sy’n cynnig offer gwella cydbwysedd, bagiau dyrnu a bocsys plyometrig ymysg pethau eraill. Mae amrywiol offer ar gyfer rhaglen hyfforddi boblogaidd HIT hefyd wedi eu cyflwyno.

Mae rhai sy’n frwd dros seiclo mewn grwpiau hefyd yn mwynhau rhith-ddosbarthiadau newydd yn eu stiwdio seiclo pwrpasol.

Oes gennych chi ddiddordeb ymuno? Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01824 712661.   

Buddsoddi yn parhau ledled y Sir

Bu lefel o fuddsoddiad nas gwelwyd ei fath o'r blaen yng nghyfleusterau hamdden Sir Ddinbych dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae prosiectau yn parhau i gael eu darparu ledled y Sir.

Mae Canolfan Hamdden Rhuthun ar y trywydd cywir i ailagor eu pwll nofio erbyn Ionawr 2019, yn dilyn buddsoddiad o £450k+ i ailwampio neuadd y pwll. Yn ogystal â’r diweddariadau i’r neuadd – sydd yn cynnwys to newydd a gosod goleuadau LED newydd – mae’r ystafelloedd newid wedi cael eu gweddnewid yn llwyr ac fe fyddant bellach yn cynnwys ardal ‘bentref’, ardal newid newydd ar gyfer grwpiau, ac ardal newid newydd hygyrch gydag offer codi a mynediad hwylus at y pwll.

 Agorodd Canolfan Hamdden Prestatyn eu hardaloedd newid newydd yn ddiweddar, gyda’r ddwy set o gyfleusterau wedi eu hadnewyddu'n llwyr o ganlyniad i fuddsoddiad o £160k.

SC2

Mae prif atyniad newydd Hamdden Sir Ddinbych, SC2, wedi ei amserlennu i agor yng Ngwanwyn 2019.

Mae’r wefan bellach yn fyw – cofrestrwch yn awr er mwyn bod â chyfle i ennill tocyn teulu am ddim!

https://sc2rhyl.co.uk/cy/cynnig-arbennig-y-nadolig/

Theatr Pafiliwn Y Rhyl

Mae Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, yn edrych ymlaen at lansiad eu pantomeim, Aladdin, a berfformir rhwng yr 11 Rhagfyr a’r 5 Ionawr.

Bydd sioeau 2019 yn cynnwys Max Boyce, Jason Manford a Joseph – cadwch lygad am Raglen y Gwanwyn a gaiff ei ryddhau fis Ionawr.

Mae’r manylion llawn ar gael o wefan y Theatr - http://www.rhylpavilion.co.uk/category/whats-on/

Cerdyn Hamdden

Mae Cardiau Hamdden yn cynnig gostyngiadau ar weithgareddau yng Nghyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych a safleoedd eraill, mae’r cardiau ar gael i oedolion, ieuenctid, myfyrwyr, unigolion dros 60 oed a grwpiau. Os ydych wedi cofrestru fel unigolyn anabl, yn hawlio budd-daliadau diweithdra neu gymhorthdal incwm, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Cerdyn Hamdden am ddim.

Ewch i http://www.denbighshireleisure.co.uk/ neu gofynnwch i aelod o staff am fanylion.

Y diweddaraf am ddatblygiadau yn Y Rhyl

Rhoi bywyd newydd i ganol tref y Rhyl mewn her dacluso

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cyflwr rhai o’r adeiladau wedi dirywio ac maent angen eu hadnewyddu. Bu newidiadau sylweddol yn yr ardal manwerthu yn arbennig dros y blynyddoedd, ond mae'r potensial yn bodoli i wella adeiladau canol y dref er mwyn annog mwy o bobl i siopa ac i wneud busnes yno.

Yn sgil hynny, mae’r Cyngor yn dymuno mynd i’r afael â’r pryder yma a bydd y fenter hon yn golygu gweithio gyda pherchnogion/meddianwyr yr eiddo yng nghanol y dref; y rhai sydd â thystiolaeth o ddatblygiad anawdurdodedig, y rhai nad ydynt yn cyrraedd y rheolau hysbysebu ac adeiladau sydd wedi mynd â’u pen iddo trwy esgeulustod, neu yn syml wedi cael eu gadael i fynd i edrych yn flêr.

“Mae yna fanteision hirdymor amlwg i berchnogion eiddo a busnesau trwy fuddsoddi er mwyn gwella eu heiddo a sicrhau eu bod yn cyrraedd safon dderbyniol. 

Trwy gydweithio, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i effaith weledol canol y dref ac annog mwy o bobl i ddewis canol tref y Rhyl ar gyfer siopa, adloniant ac i wneud busnes.

Mae Prakash Lad, uwch syrfëwr adeiladu o Gymdeithas Adeiladu Yorkshire yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw adeiladau. Mae’r Gymdeithas wedi gwneud gwaith adnewyddu helaeth ar eu hadeilad ar y stryd fawr yn ddiweddar, sydd i’w ganmol.

Dywedodd Nadeem Ahmad o siopau dillad Jean Emporium a Chrome yng nghanol y dref: “Mae canol tref sydd wedi’i chyflwyno’n dda ac sy’n groesawgar yn rhan hanfodol o adnewyddu’r Rhyl. Mae’n hanfodol bod gwelliannau’n cael eu gwneud lle bo angen a bod safonau’n cael eu cadw ar lefel a fydd yn cyd-fynd â’r prosiectau parhaus ar y promenâd.Wrth i’r fenter symud yn ei blaen bydd Swyddogion penodol o Wasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn asesu eiddo yng nghanol y dref ac yn ceisio gweithio gyda pherchnogion yr eiddo, gan fod yn agored, yn gynorthwyol, yn gymesur a chyson. Y bwriad ydi darparu arweiniad ar ba gamau gweithredu sydd eu hangen a pha gamau sydd yn angenrheidiol i wella’r sefyllfa. Pan fydd angen, fe ddefnyddir pwerau gorfodi cynllunio ffurfiol.

“Tra bod yr amodau economaidd yn anodd, mae’n bwysig bod busnesau a'r cyngor yn gweithio i wneud gwahaniaeth a chreu amgylchedd y mae pobl yn fodlon ymweld â hi”.

Meddai Prakash: “Rydym ni’n rheoli rhaglen o brosiectau a gynlluniwyd er mwyn cynnal ein rhwydwaith o ganghennau manwerthu cenedlaethol at y safon ac anelu i adolygu a chynnal gwaith trwsio allanol bob pump i saith mlynedd. Dylid croesawu unrhyw beth y gall y Cyngor ei wneud i annog perchnogion adeiladau eraill yng nghanol y dref i gynnal a chadw eu heiddo.

“Rydym yn credu bod hwn yn brosiect unigryw ac nid oes yna brosiectau penodol tebyg eraill gyda staff ymroddedig ar y gweill yng ngogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd perchnogion eiddo yn deall ac yn derbyn ein hymagwedd partneriaeth i wneud cyfraniad pan fo angen, tuag at wella canol y dref er lles pawb”.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae’r adborth gan fusnesau lleol a phreswylwyr wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, gan ei fod wedi ategu barn y Cyngor fod angen gweithio i dacluso canol y dref.

Ar ôl ymgynghoriad dan arweiniad y cyngor, mae busnesau a’r cyhoedd, wedi nodi bod cyflwr gwael rhai o’r adeiladau yng nghanol y dref yn broblem allweddol wrth ddenu buddsoddiad, twristiaid a siopwyr.

Mae menter newydd sbon sydd â’r nod o dacluso rhai o’r adeiladau yng nghanol tref y Rhyl yn cael ei lansio gan Gyngor Sir Ddinbych, fel rhan o’i ymdrechion parhaus i roi bywyd newydd i ganol y dref.

Mae strwythur ‘TAG Iau’ cyntaf y DU yn dod i’r Rhyl y Gwanwyn nesaf

TAG

Mae SC2, y parc dŵr ac ardal antur newydd sy’n dod i Ogledd Cymru flwyddyn nesaf, yn falch o gyhoeddi, ynghyd â’r arena TAG Active, bydd strwythur TAG Iau cyntaf o’i fath yn y DU yn dod i’r Rhyl.

Mae TAG Iau yn gwrs antur gydag ardaloedd amrywiol, sy’n debyg i'r prif strwythur TAG, fodd bynnag mae hwn ar gyfer plant 5 i 8 oed yn unig a bydd yn herio chwaraewyr iau i brofi eu strategaeth, cyflymder, ystwythder a dewder eu hunain, wrth hybu hwyl, ffitrwydd a chystadleuaeth.

Mae’r ddau strwythur yn ffurfio’r arena TAG Actif cyflawn sy’n cael ei adeiladu yn SC2 ar hyn o bryd, y parc dŵr a chanolfan antur £15m newydd ar bromenâd y Rhyl, sy'n agor ar 5 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bydd chwaraewyr yn gwisgo bandiau arddwrn electronig wrth gyflawni’r cwrs llawn egni, gyda dros 40 o dargedau i'w taro ar wyth lefel, sy'n gyfuniad o Ninja Warrior a Total Wipeout.

Nod TAG Iau a TAG Active yw taro targedau cyfrifiadurol ar draws nifer o lefelau a chystadlu am amser a thargedau yn erbyn ffrindiau a chydweithwyr, neu guro eich sgôr eich hunain, gan ddarparu profiad unigryw i oedolion a phlant ar arfordir Gogledd Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Rydym yn falch bod cymaint o gyffro ac edrych ymlaen at agoriad SC2 ac rydym yn gyffrous iawn i agor TAG Iau cyntaf y DU yn y Rhyl. Bydd yn atyniad o’r radd flaenaf ar gyfer arfordir Gogledd Cymru gyfan.”

Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Win Mullen-James: “Mae cyffro mawr o ran yr ardal TAG Active, yn ogystal â SC2 yn gyffredinol. Mae hwn yn rhywbeth nad yw'r ardal erioed wedi ei weld o'r blaen, ac rydym yn falch ei fod yn dod i'r Rhyl. Mae’n sicr o fod yn atyniad mawr i ymwelwyr a phreswylwyr.

Dywedodd Jim Jones, MD Twristiaeth Gogledd Cymru: “Heb unrhyw amheuaeth, mae SC2 yn ddatblygiad anhygoel i’r Rhyl, mae’n hwb anferth arall i’n heconomi twristiaeth ac eto’n dangos hyder Gogledd Cymru fel cyrchfan i fuddsoddi ynddi. Mae TAG Iau cyntaf yn y DU wedi ei anelu yn union at y targed farchnad yr ydym am ddarparu ar ei gyfer.  Mae twristiaeth werth dros £3 biliwn i Economi Gogledd Cymru a gydag atyniadau fel hyn yn cael eu datblygu, rhagwelir y bydd hynny'n cynyddu ymhellach ar gyfer Sir Ddinbych a Gogledd Cymru."

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.sc2yrhyl.co.uk neu ymwelwch â'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Bydd prisiau tocynnau llawn ar werth yn gynnar ym mis Ionawr 2019.

Treftadaeth

Ymweliadau drwy’r gaeaf i Garchar Rhuthun a Nantclwyd Y Dre

Ruthin GaolNantclwyd y Dre

Mae Amgueddfa Carchar Rhuthun a Gerddi a Tŷ Nantclwyd y Dre (Rhuthun) ar agor i deithiau preifat neu grwpiau arbennig neu digwyddiadau arbennig trwy'r gaeaf (pan fyddant ar gau ar gyfer ymweliadau cyffredinol).

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth / i archebu yn: heritage@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706868.

Teithiau sain newydd ar gyfer 2019 yng Ngharchar Rhuthun a Phlas Newydd (Llangollen)

Interactive Tours

Mae ymwelwyr â Phlas Newydd (Llangollen) a Carchar Rhuthun wedi mwynhau teithiau sain rhyngweithiol yn y safleoedd hanesyddol hyn ers blynyddoedd. Fodd bynnag, mae gwybodaeth newydd am hanes yr adeiladau a'r bobl a ddefnyddiodd nhw wedi ysgogi prosiect a ariennir gan grant i ychwanegu mwy o straeon i'r teithiau a newid i dechnoleg symlach a mwy ysgafn. Byddant hefyd yn cynnwys taith i blant yn arbennig i ymwelwyr iau, sy'n cynnwys adrodd straeon hwyliog a rhyngweithiol a chwis addysgol ... mwy i'r plant ei wneud tra bod yr oedolion yn mwynhau eu hymweliad!

Bydd y system deithiau sain newydd yn fyw ar gyfer tymor 2019.

Nodweddion Nadolig

Annog eiddo trwyddedig i baratoi’n ddigonol ar gyfer y Nadolig

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn annog eiddo trwyddedig i baratoi’n ddigonol ar gyfer cyfnod y Nadolig.

Atgoffir deiliaid trwyddedau i sicrhau bod y gweithgareddau a fwriedir yn cael eu cynnwys o fewn eu trwydded/ tystysgrif, neu fod eithriad ac unrhyw oriau estynedig sydd wedi’u cynllunio o fewn a hyn a ganiateir yn eu trwydded.

Dywedodd y Prif Arolygydd Andrew Williams: “Mae gan bawb rôl i sicrhau bywyd nos diogel a bywiog ar draws Sir Ddinbych.  

“Mae cynllunio'n dda cyn i ni gyrraedd yr wythnosau a diwrnodau cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn gallu helpu i’w wneud yn gyfnod llwyddiannus a diogel i bawb”

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Bydd deiliaid trwyddedau yn ymwybodol o amodau eu trwydded, ond dylent dreulio amser i wirio eu hamodau i sicrhau nad oes cyfyngiadau ar y gweithgareddau arfaethedig. 

Os bydd unrhyw weithgareddau y tu hwnt i gwmpas eu trwydded, yna bydd rhaid iddynt gael rhybudd digwyddiad dros dro.”

 Pwyntiau eraill i ddeiliaid trwydded eu hystyried yw:

  • Sicrhau bod unrhyw staff dros dro wedi cael eu hyfforddi’n llawn o ran eu cyfrifoldebau a’u bod wedi eu hawdurdodi i werthu alcohol.
  • Argymhellir hyfforddiant gloywi i’r holl staff presennol i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau, oherwydd gellir anghofio amdanynt yn ystod cyfnodau prysur.
  • Atgoffa staff na ddylent werthu alcohol i unigolion o dan 18 oed. Dylai pob eiddo weithredu polisi cyfyngiad oedran, megis Her 25, a chadw llyfr gwrthod. 
  • Atgoffa staff na ddylent werthu alcohol i unigolion sydd yn ymddangos wedi meddwi. Dylai pob eiddo ddilyn egwyddor menter “Amser mynd Adref” a gwrthod rhoi diodydd i unrhyw un sy’n amlwg wedi meddwi.
  • Byddwch yn ymwybodol nad yw unrhyw gynnig diod arfaethedig yn torri amodau'r drwydded orfodol.
  • Sicrhau bod unrhyw staff drws a gyflogir wedi’u trwyddedu gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ac yn gwisgo eu bathodynnau.
  • Cymryd camau i atal unrhyw weithgareddau sydd yn achosi niwsans i gymdogion, gan gynnwys monitro lefelau sŵn yn rheolaidd.
  • Gwirio bod y system TCC yn weithredol
  • Cadw rhestr o enwau galw allan, nid gwasanaethau brys yn unig, ond i sicrhau bod yr eiddo yn gallu gweithredu drwyddo (trydanwr, plymwr, TCC ac ati).

Os hoffech unrhyw gyngor neu ganllaw ar faterion trwyddedu, cysylltwch ag aelod o’r tîm trwyddedu ar 01824 706342 neu trwyddedu@sirddinbych.gov.uk i drafod eich gofynion.

Apêl i gadw llygad ar bobl ddiamddiffyn yn Sir Ddinbych

Gyda’r Gaeaf yma, rydym yn ymbil ar bobl i fod yn gymdogion da a chadw llygad ar bob hŷn a diamddiffyn.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: “Rydyn ni’n gofyn i bobl ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

 “Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy'n wael, rydyn ni'n eu hannog i ymweld â nhw, gan ofalu bod ganddyn nhw bopeth maent ei angen a chynnig help gyda phethau fel siopa. Mae hi hefyd yn bwysig gweld a ydyn nhw’n bwyta’n iawn ac yn cadw eu cartref yn gynnes.

“Efallai mai chi fydd yr unig ymwelydd fydd ganddyn nhw, felly mae’n fater o fod yn glên ac ystyriol. Mae'r 'Bwystfil o'r Dwyrain' yn dod yn nes ac mae'n debygol o bara am ddeuddydd neu dri arall, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo'n ddiamddiffyn nac yn unig.

 “Bydd dangos gofal a thrugaredd tuag at yr henoed neu bobl sy’n agored i niwed wir yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

“Mae’r neges yma yn hynod amserol yr adeg hyn o’r flwyddyn, yn arbennig o gwmpas y Nadolig sydd yn gallu bod yn gyfnod unig iawn i bobl sy’n byw eu hunain.

Os oes gennych unrhyw bryderon am berson bregus, ffoniwch yr Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000 neu y du allan i oriau ffoniwch 0345 0533116. 

Cofiwch am gynllun Parcio Am Ddim Ar ôl Tri y Cyngor

Rydym yn eich atgoffa bod cynllun parcio am ddim ar ôl 3pm bob dydd tan 31 Rhagfyr yn cymryd lle eto eleni, i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol i siopa yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Mae’r fenter yn weithredol  yn y meysydd parcio canlynol:

Corwen:  Lôn Las

Dinbych; Lôn y Goron, Ward y Ffatri, Lôn y Post, Stryd y Dyffryn

Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd, Stryd y Farchnad, Stryd y Felin.

Prestatyn: Stryd Fawr Isaf, Swyddfa’r Post, Gorsaf Drenau.

Rhuddlan: Stryd y Senedd

Y Rhyl: Ffordd Morley, Stryd y Frenhines, Neuadd y Morfa (mannau parcio i’r anabl), Tŵr Awyr, Stryd Gorllewin Cinmel

Rhuthun: Crispin Yard, : Lôn Dogfael, Stryd y Farchnad, Stryd y Parc, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr, Troed y Rhiw

Llanelwy: Lawnt Fowlio

Cadwch yn ddiogel ac archebwch eich tacsi dros gyfnod y Nadolig

Wrth i’r Nadolig nesáu, mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gadw’n ddiogel dros gyfnod yr ŵyl ac archebu tacsis ar gyfer eu nosweithiau allan o flaen llaw.

Mae tacsis didrwydded yn broblem gyffredin ledled y wlad ac wrth i dymor y partïon Nadolig gyrraedd ei anterth mae’n bwysig gwybod sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng tacsi didrwydded ac thacsi trwyddedig. 

Mae gan bob cerbyd trwyddedig blatiau sy’n cynnwys rhifau unigryw ar flaen a chefn y cerbyd ac mae gan gerbydau hacni arwydd ar y to hefyd ond bydd pob gyrrwr yn cario bathodynnau adnabod gyda nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Efallai bod tacsis didrwydded yn cynnig gwell pris ond nid yw’n werth rhoi’ch hun mewn perygl er mwyn arbed punt neu ddwy.

“Nid yw’r cerbydau hyn wedi’u hyswirio fel tacsis ac nid yw'r gyrwyr wedi bod yn destun y gwiriadau trwyadl sy'n rhan o'r broses drwyddedu.

“Bydd Swyddogion Trwyddedu yn cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes unrhyw dacsis didrwydded yn weithredol yn yr ardal. Peidiwch byth â mynd mewn tacsi heb wirio mai hwnnw yw’r tacsi a archeboch neu heb wirio a yw’n Gerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat dilys.”

Pan fyddwch yn chwilio am eich ffordd adref ar ddiwedd y parti, cofiwch y canllawiau hyn am dacsis trwyddedig y cyngor:

  • Mae gan Gerbydau Hacni blât ar flaen a chefn y cerbyd yn arddangos manylion y cerbyd a’i rif trwydded
  • Gall Cerbydau Hacni wneud cais i gael eu hurio o safleoedd tacsis dynodedig a gallant godi teithwyr sy’n eu fflagio
  • Mae gan Gerbydau Hurio Preifat arwydd glas sy’n dangos y drwydded ar ddrysau cefn y cerbyd a phlât ar gefn y cerbyd sy’n arddangos manylion y cerbyd a'r rhif trwydded
  • Gellir ond archebu Cerbydau Hurio Preifat o flaen llaw gan weithredwr

Peidiwch â cheisio mynd i mewn i gerbyd os nad yw’n arddangos plât priodol ar y cefn. Ni fydd ganddo yswiriant ac mae’n bosibl na fydd ganddo drwydded. Gofalwch bod y gyrrwr yn arddangos bathodyn gyrrwr sydd wedi’i gymeradwyo gan y cyngor. Er eich diogelwch eich hun, dylech bob amser ddefnyddio cerbyd trwyddedig y cyngor – bydd y gyrrwr a’r cerbyd wedi cael eu gwirio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd pwyllgor trwyddedu Sir Ddinbych: “Peidiwch â difetha noson dda trwy ddefnyddio tacsi didrwydded. Dylech bob amser archebu o flaen llaw neu wneud yn siŵr eich bod yn cadw rhifau ffôn nifer o gwmnïau tacsi lleol yn eich ffôn symudol cyn mynd allan.

“Cyn mynd mewn tacsi, gofalwch bod y gyrrwr yn gwybod i ble’r ydych am fynd ac eisteddwch yng nghefn y cerbyd bob tro. Gofalwch eich bod yn cael eich codi a’ch gollwng mewn man cyfarwydd sydd wedi’i oleuo’n dda, fodd bynnag os ydych yn teimlo’n anghyfforddus gyda’r gyrrwr, gofynnwch iddo stopio mewn lle prysur a chyfarwydd ac ewch allan.”

Peter Daniels yn ymuno â thîm halen a chynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf cyn y tymor eleni

Wrth i mi ymuno â thîm cynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf, gan gynllunio ar gyfer y gaeaf i ddod, mae'n eironig yn ddiwrnod clòs yng nghanol haf. “Rydym ni fel arfer yn gwneud ein paratoadau yn ystod dyddiau poetha’r flwyddyn" meddai'r uwch reolwr Tim Towers gyda gwên.

Mae cadw ffyrdd A a B y sir ar agor yn dasg fawr. Y gaeaf diwethaf oedd yr hiraf a’r gwaethaf ers 2010. Lledaenodd Sir Ddinbych dros 170,000 canpwys o halen, neu bron i werth 9,000 tunnell - tua dwywaith y cyfanswm arferol. O hyn roedd dros 65,000 canpwys yn ardal Rhuthun. Dechreuodd y gaeaf diwethaf yn fwyn iawn ond arweiniodd achosion cynyddol o rew ac iâ at dymor graeanu hir, gyda dwywaith y nifer o deithiau nac arfer. Yn 2017/18 cawsom dri achos o eira sylweddol. Yn ystod y gaeaf cyn hynny ni chafwyd dim o hynny. Roedd yna achos o eira mawr yn Rhagfyr 2017 ond wythnos olaf Chwefror ac wythnos gyntaf Mawrth 2018 fydd pobl yn ei gofio.

Mae Tim yn cofio dweud ar ddechrau Mawrth, "Roedd disgwyl i’r gaeaf orffen ond roedd yn teimlo fel mai dim ond megis dechrau yr oedd." Erbyn hyn roedd y criwiau graeanu eisoes wedi gweithio'n galed ac wedi gweithio oriau hir dros nos. Roeddent yn flinedig ac wedi bod allan yn amlach nac arfer ac weithiau o amgylch y cloc. Roedd criwiau’n wynebu amgylchiadau heriol gyda neu heb erydr eira. Yn y nos, roeddent yn treulio eu shifft gyfan gydag adlewyrchiad parhaus fflachiadau eu goleuadau oren ar arwyneb y ffordd o'u blaenau, adlewyrchiad oedd yn tynnu sylw ac yn hypnotig. Does dim dianc rhagddo. “Mae’n gur pen yng ngwir ystyr y gair", meddai Tim.

Fe aeth tymheredd yr aer yn niwedd Chwefror i lawr i –9°c, yr isaf ers 2010. Mae hyn yn is na'r tymheredd pan fo halen yn dechrau colli ei effaith. Ar Ddydd Gŵyl Dewi achosodd eira mân ar wyntoedd dwyreiniol cryf luwchio ar dir uchel a hyd yn oed tir is. Ar achlysuron fel hyn mae'n rhaid i swyddogion batrolio i ganfod, rhoi gwybod a chyfeirio criwiau at yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf.

Er bod y rhan fwyaf o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn canmol ymateb Sir Ddinbych i’r eira, roedd yna rai a oedd yn beirniadu tîm rheoli Sir Ddinbych. Mae cwynion fel arfer yn ymwneud â chwestiynau fel “Felly lle yn union oedd y graeanwyr?”

Ni all graeanwyr wrth gwrs fod ymhob man ar yr un pryd. Fe allant fynd yn sownd o ganlyniad i gerbydau sydd wedi eu gadael. Mae’n bosib iddynt hefyd lithro oddi ar y ffordd hyd yn oed, fel y profodd adroddiad am raeanwr yn Sir Ddinbych yn y Daily Mail ym mis Rhagfyr. Dywedodd Tim, "Yn ystod eira trwm yn ystod y dydd, mae graeanwyr yn ymuno â'r ciwiau o draffig araf sy’n datblygu’n gyflym ar hyd y priffyrdd gan fod gyrwyr, yn eironig, i gyd ar yr un pryd yn defnyddio'r ffyrdd y maent yn gwybod y byddant yn cael eu trin". Wrth i’r cwynion ddod i mewn, mae’r rheolwyr yn ymateb. Mae’n rhaid gwirio trywydd y graeanwyr i brofi pryd y cafodd ffyrdd eu trin, ac mae hyn yn dargyfeirio rheolwyr i ffwrdd o’r dasg o symud adnoddau go iawn.

Tra bod y gyrwyr eu hunain yn cael clod haeddiannol am y gwaith maent yn ei wneud, nid yw rheolwyr y tîm sy’n cynnal Sir Ddinbych yn ystod y gaeaf yn llai gwyliadwrus nac yn llai gweithgar. Mae rheolwyr yn gweithio dros nos yn ôl yr angen, yn ogystal â'u gyrwyr. Maent yn treulio oriau hir ar alwad yn eu tro, 24 awr y dydd dros gyfnod o saith niwrnod. Nhw fwy na thebyg yw’r tîm mwyaf profiadol yng Ngogledd Cymru. Mae gan y swyddog sydd ar ddyletswydd yn Rhuthun 35 mlynedd o brofiad ei hun. Hyd yn oed gyda delweddau lloeren mwy soffistigedig a dulliau modern o ragweld, mae llawer yn dibynnu ar sgil a barn y rhai sydd ar ddyletswydd, yn galw adnoddau, yn barnu pa uchder yn union uwchben lefel y môr i'w drin, yn ystyried y math a chyfradd gwasgaru'r halen a phryd yn union y dylid gwneud hyn yn ystod y dydd. Neu’r nos. Neu’r ddau.

Yn wir os rhoir halen ar yr adeg anghywir fe all gael ei olchi ymaith. Os rhoir halen yn rhy hwyr mae yna risg o ddamweiniau. Mae’n hanfodol sicrhau fod halen yn cael ei wasgaru cyn i’r eira ddisgyn, ond nid yw hyn fyth yn sicrhau y bydd yn atal eira rhag setlo. Ni fydd yr un swm o halen yn gwneud hynny mewn eira trwm a chyson. Ar y llaw arall mae mynd ar ôl cawodydd eira trwm ac ynysig tra’n ceisio rhagweld yr union leoliad lle byddant yn disgyn yn anodd.

Mae ffyrdd A a B yn flaenoriaeth ond bydd swyddogion yn ymateb i amgylchiadau penodol. Mae ffermwyr sy'n dod yn brin o borthiant ymhlith y rhai sy’n gofyn am – ac fel arfer yn cael - ymateb cadarnhaol gan reolwyr, ar sail lles anifeiliaid.

Mae graeanu am 1 a.m., 4 a.m., 8 p.m. a 11 p.m. a thu hwnt yn ystod y dydd i gyd yn rhan o wasanaeth cyhoeddus a gymrir yn ganiataol fel arfer.

Yng ngwres yr haf mae’n anodd dychmygu rheolwyr a staff yn gweithio o amgylch y cloc mewn amodau rhewllyd i gadw ein ffyrdd ar agor. Ond dyma beth fyddant yn dechrau ei wneud o’r mis hwn a hynny tan fis Mawrth.

Ystadegau'r Eira 2017/18

  • Y cyfanswm o halen a ddefnyddiwyd yn Sir Ddinbych: 170,000 canpwys
  • Y cyfanswm o halen a ddefnyddiwyd yn ardal Rhuthun: 65,000 canpwys
  • Cyfanswm y milltiroedd a wnaed: 98,000
  • Cyfanswm y milltiroedd yn ardal Rhuthun: 39,000
  • Y nifer o ddyddiau yr oedd y graeanwyr yn weithredol yn 17/18: 184
  • Y nifer o ddyddiau maent yn gweithredu yn ystod gaeaf arferol: 70
  • Y gronfa o reolwyr ar ddyletswydd: 5
  • Y gronfa o oruchwylwyr: 10
  • Y gronfa o yrwyr: 35

 

Credyd i Peter Daniels a Chymdeithas Ddinesig Rhuthun am yr erthygl

 

Gwasanaethau Parcio

Gwaith Gwella Maes Parcio Stryd y Dyffryn, Dinbych

Rydym yn bwriadu gwella ein holl feysydd parcio yn ystod y 5 mlynedd nesaf i’w gwneud yn fwy ystyriol o drigolion ac ymwelwyr â’n trefi. Yn ddiweddar, gwnaethom rywfaint o waith gwella ar Faes Parcio Stryd y Dyffryn yn Ninbych. Roedd gwaith yn cynnwys gosod peiriant talu ac arddangos newydd, bwrdd prisiau a gwneud y maes parcio’n fwy hygyrch i bobl gyda llai o symudedd. Isod mae rhai ffotograffau o’r gwaith ar ôl ei orffen.

Beth sydd nesaf?

Cilfannau parcio di-dâlMeysydd Parcio Ffordd Morley a Gorllewin Stryd Cilmael, Y Rhyl

Yn dilyn llwyddiant y cilfannau parcio di-dâl am 1 awr yn Ninbych a Rhuthun, byddwn yn lledaenu’r cynllun i’r Rhyl. Bydd y cilfannau ym Maes Parcio Gorllewin Stryd Cilmael a Maes Parcio Ffordd Morley. Bydd y cilfannau'n cael eu marcio fel rhai parcio di-dâl gydag arwyddion cysylltiedig.

Peiriannau talu ac arddangos newydd

Byddwn yn disodli 14 o’n peiriannau talu ac arddangos presennol cyn diwedd Mawrth 2019. Bydd y peiriannau newydd yn cynnig talu trwy gerdyn. Y meysydd parcio a nodwyd ar gyfer y peiriannau newydd yw:

  • Ward y Ffatri, Dinbych
  • Heol y Dwyrain, Llangollen
  • Heol y Farchnad, Llangollen
  • Heol y Felin, Llangollen
  • Heol y Parc, Rhuthun
  • Ffordd Llys y Nant (Canolog), Prestatyn
  • Cefn Nova, Prestatyn
  • Rhodfa’r Brenin, Prestatyn
  • Ffordd Morley, Y Rhyl
  • Gorsaf Drenau, Y Rhyl
  • Crispin Yard, Rhuthun

Meysydd Parcio Ffordd Llys y Nant (Canolog) a Rhodfa Rhedyn, Prestatyn

O 1af Ionawr 2019 bydd prisiau newydd yn berthnasol yn y meysydd parcio uchod. Y prisiau newydd yw:

  • Hyd at 4 awr – am ddim (Cyngor Tref Prestatyn sy’n noddi hyn)
  • Dros 4 awr – £3.50

Fe all cwsmeriaid sy’n defnyddio’r meysydd parcio hyn bob dydd brynu hawlenni o Siop Un Alwad Prestatyn ac mae dewisiadau ychwanegol ar gyfer gwneud cais i’w gael ar ein gwefan >>> www.sirddinbych.gov.uk/parcio.

Prosiect cyfnewid byrddau prisiau

Yn fuan, byddwn yn dechrau prosiect i adnewyddu ein holl fyrddau prisiau. Mae enghraifft o’r bwrdd prisiau newydd i’w weld isod.

Hysbysebu ar gefn ein tocynnau Talu ac Arddangos

Fe fydd gan y Cyngor rhai cyfleoedd i fusnesau hysbysebu ar gefn ein tocynnau talu ac arddangos. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â James Parson ar 01824 706889 neu e-bostiwch ef ar james.parson@sirddinbych.gov.uk.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Hoffai staff ac aelodau Cyngor Sir Ddinbych ddymuno Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Côr Sain y Sir

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid