llais y sir

Gaeaf 2018

Lansio ymgyrch twristiaeth i ddenu twristiaid i Ogledd Cymru’r gaeaf hwn

Tourism Campaign

Mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn cydweithio ar ymgyrch gyffrous i annog twristiaeth ar draws Gogledd Cymru yn ystod cyfnod y gaeaf. 

Mae ‘Ymgolli yn y Gogledd’ yn targedu cynulleidfaoedd y tu allan i Gymru; Manceinion yn bennaf, ac yn hyrwyddo cymysgedd o antur, bwyd a diod, llety a digwyddiadau ar draws Gogledd Cymru yn ystod misoedd y gaeaf. 

Ariennir yr ymgyrch gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru (RTEF). 

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn arwain y prosiect a bydd Cyngor Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam (Gogledd Ddwyrain Cymru), Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn yn uno â nhw i hybu twristiaeth drwy gydol y flwyddyn, gan weithio'n agos gyda Chroeso Cymru.  Y dull cydlynol hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y rhanbarth, gyda’r chwe awdurdod lleol yn dod ynghyd i weithio ar un ymgyrch ranbarthol er budd economi Gogledd Cymru i gynorthwyo i ddenu mwy o ymwelwyr newydd ar adeg fwyaf heriol y flwyddyn ar gyfer y diwydiant twristiaeth. 

Bydd yn cynnwys ymgyrchoedd radio, cyfryngau cymdeithasol, cyfleoedd teithio a masnach ar gyfer newyddiadurwyr ac ystod o adnoddau ar gyfer busnesau. 

Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r ymgyrch gan fusnesau’r rhanbarth eisoes, gyda nifer ohonynt yn cefnogi’r ymgyrch. Anogir busnesau bach a mawr Gogledd Cymru i gyfranogi i hyrwyddo eu cynnyrch a'u gwasanaethau i gynulleidfa ehangach y gaeaf hwn.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o gymryd rhan yn y prosiect a byddem yn annog cymaint o fusnesau â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae teithiau cerdded, beicio mynydd, trefi hanesyddol, gweithgareddau arfordirol, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau i’w mwynhau yn Sir Ddinbych dros fisoedd y gaeaf. Dim ond awr o Fanceinion a Lerpwl, mae Sir Ddinbych mewn lleoliad gwych fel cyrchfan hygyrch er mwyn mwynhau gwyliau byr yn yr amgylchedd trawiadol. Mae cynnig drwy gydol y flwyddyn yn allweddol i ddenu mwy o bobl i weithio yn y sector twristiaeth ac yn cael gwir effaith ar ffyniant economaidd Sir Ddinbych”.

Dilynwch yr ymgyrch i weld yr holl ddigwyddiadau diweddaraf, newyddion, cystadlaethau unigryw drwy chwilio am #DarganfodYGogledd/ #DiscoverNorthWales ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i http://www.northeastwales.wales/?lang=cy

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...