llais y sir

Addysg

Gwaith yn symud yn ei flaen ar safle datblygiad ysgolion newydd Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos

Mae gwaith yn symud ymlaen ar safle datblygiad ysgolion newydd ar gyfer yr Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos. Mae gwaith wedi bod yn symud ymlaen ar y safle y datblygiad newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn Glasdir, Rhuthun. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r gwaith tirwedd wedi parhau a dau gam yn y gwaith adeiladu wedi eu cwblhau. Mae dyluniad yr adeiladau ysgol newydd yn golygu bod codi lefel y ddaear yn ofynnol. Yn ystod mis Ionawr a dechrau mis Chwefror cludwyd deunydd llenwi i'r safle er mwyn creu y llwyfandir adeiladu. Cam arall y prosiect a gwblhawyd oedd y gwaith peilio a oedd yn ofynnol i gryfhau'r llwyfandir adeiladu. Defnyddiwyd y dechneg hon hefyd pan adeiladwyd y stadiwm Olympaidd newydd yn Llundain. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y gwaith tirwedd ar gyfer yr adeiladau yn parhau. Ar hyn o bryd mae ffosydd sylfaen yn cael eu cloddio a mae concrid eisoes wedi dechrau i gael ei dywallt ar y safle.

Mae diweddariadau ar gael ar y blog Addysg.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif.

Glasdir3

Awdur Harry Potter yn anfon llythyr at blant Ysgolion Sir Ddinbych drwy 'Post Gwdihŵ'

Mae J K Rowling wedi ysbrydoli plant ysgol yn Sir Ddinbych ar ôl anfon llythyr atynt trwy 'bost tylluan'.

Mae’r llythyr gan yr awdur enwog yn diolch i blant Sir Ddinbych am gysylltu â hi ac mae’n dweud wrthynt ei bod yn gobeithio ysgrifennu llyfr arall i blant yn fuan. 

Daeth yr ymateb hud ar ôl i swyddog o adran addysg Cyngor Sir Ddinbych anfon llythyr at J K Rowling i ddweud wrthi am y digwyddiad ar thema Harry Potter yn Sir Ddinbych yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain ac fel pe bai trwy hud, daeth ymateb wedi’i stampio gyda ‘phost tylluan’.

  

Llwyddodd Ysgol Bodfari ger Dinbych i dderbyn grant gan y Gymdeithas Gwyddoniaeth Prydeinig (BSA) trwy ei “Gynllun Bwrw Ymlaen’ ac mae digwyddiad thema Harry Potter yr ysgol wedi derbyn yr anrhydedd o gael ei ddewis fel fflaglong y DU ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain (10-19 Mawrth 2017). 

Bydd disgyblion a staff yn defnyddio byd dewin hud Harry Potter i feddwl am wyddoniaeth o fewn cyd-destun y newidiadau sy’n digwydd yn y byd o’u hamgylch, gan rannu eu canfyddiadau trwy gyfrwng cymdeithasol gydag ysgolion eraill yn Sir Ddinbych, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  

Harry Potter Letter

Camau cadarnhaol ar gyfer Ysgol Llanfair

Ym mis Tachwedd 2016, cymeradwyodd Cabinet Sir Ddinbych y prosiect gyda’i ffocws yn ymwneud â datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC.

Ystyriwyd Cabinet Sir Ddinbych y cynnig busnes cychwynnol ym mis Ionawr 2017 a rhoddwyd eu cefnogaeth i'r prosiect. Mae’r cynnig presennol ar gyfer datblygiad newydd sy’n addas ar gyfer 126 o ddisgyblion llawn amser ar safle wedi eu lleoli o fewn y pentref. Byddai’r safle newydd yn darparu cyfleusterau gwell o lawer a’r gallu i ddarparu cwricwlwm yr 21ain ganrif yn effeithiol.

Bydd trafod cynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd yn digwydd dros y misoedd nesaf ac mi fydd cyfle i'r gymuned roi sylwadau ar y cynigion cyn eu cyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio.

Ochr yn ochr â hyn bydd y Cyngor yn datblygu ymhellach y cynllun busnes a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo fel rhan o'r rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Galw am ddarparu cynorthwywyr croesi’r ffordd ger ysgolion

Ydych chi’n chwilio am rôl fyddai’n eich gweld yn helpu’r Cyngor i sicrhau bod plant ac oedolion yn croesi’r ffordd yn ddiogel? Os felly, dymunwn glywed gennych.

Mae’ Cyngor yn chwilio am gynorthwywyr croesi’r ffordd fyddai’n gallu llenwi bylchau, yn ogystal â rhai sy’n chwilio am swyddi parhaol.

Y cwbl sydd ei angen yw:

  • Person brwdfrydig gydag agwedd aeddfed
  • Dealltwriaeth dda o beryglon croesi’r ffordd
  • Prydlondeb, ysbryd cymunedol ac yn gyfathrebwr da
  • Yn hapus i ddilyn hyfforddiant
  • Y gallu i deithio ar gyfer rolau llenwi bwlch.

Diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth? Ffoniwch Alan Hinchliffe, Swyddog Diogelwch y Ffordd Sir Ddinbych, ar 01824 706887 neu e-bostiwch: alan.hinchliffe@sirddinbych.gov.uk <mailto:alan.hinchliffe@sirddinbych.gov.uk>

Dyma fideo byr gan un o’n cynorthwywyr croesi’r ffordd yn ardal y Rhyl.

 

 

Polisi Cludiant o’r cartref i’r ysgol

Mae cyfle i drigolion y Sir gael dweud eu dweud ar fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol ar gyfer disgyblion ar draws y sir.

Daeth y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol cyfredol i rym o fis Medi 2015, ar ôl cytundeb gan y Cyngor yn 2014; y byddai adolygiad o'r polisi yn cael ei gynnal ar ôl bod ar waith am 12 mis.

Dywedodd Karen Evans, Pennaeth Addysg: “Mae'r Cyngor yn cydnabod roedd yna bryderon ynghylch elfen benodol o’r polisi presennol, ac rydym wedi ceisio ymdrin â’r pryderon hyn yn ôl yr angen.  Wrth weithredu’r polisi hwn, cytunodd y Cyngor y byddai’n cael ei adolygu ar ôl bod ar waith am flwyddyn.   Mae’r adolygiad hwnnw bellach wedi digwydd ac mae wedi ystyried adborth gan ysgolion, rhieni, cynghorwyr a chyngor drwy drafodaethau cyfreithiol.” 

“Mae un o'r prif newidiadau sy'n cael eu cynnig yn ymwneud â threfniadau ysgolion ‘bwydo’. Mae'r polisi presennol yn nodi y bydd cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf.  Mynegwyd peth pryder mewn rhai cymunedau am y mater hwn, ac erbyn hyn, y cynnig yw y bydd cludiant ysgol i ysgolion uwchradd yn seiliedig ar yr ysgol addas agosaf neu pa un ai fynychodd y disgybl ysgol fwydo gynradd ddynodedig. Bydd cludiant ar sail porthi yn cael ei ddarparu o dan drefniadau dewisol.”

“Yn ogystal, mae eglurder yn cael ei gynnig yn ymwneud â mannau codi a llwybrau peryglus, ac mae nodyn canllaw a oedd ar wahân yn flaenorol wedi cael ei ymgorffori yn y polisi diweddaraf.”

“Fel gyda’r polisi cyfredol, byddai’r Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant i’r ysgol Gymraeg neu Ffydd addas agosaf, os mai hyn oedd dewis y rhieni/ gofalwyr.”

Gallwch weld y ddogfen ddiwygiedig ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau. Gall bobl fynegi sylwadau drwy e-bost moderneiddio.addysg@sirddinbych.gov.uk neu yn ysgrifenedig: Tim Moderneiddio Addysg, Neuadd y Sir, Rhuthun, LL15 1YN. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 30 Ebrill 2017

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid