llais y sir

Gwesty yn cynnig pecyn priodas Cymreig diolch i gymorth gan y Cyngor

Mae’r briodferch a’r priodfab nawr yn gallu cael cyfle i ddweud ‘ydw’ yn Gymraeg ar eu diwrnod arbennig.Oriel House

Mae Gwesty a Sba yr Oriel House, Llanelwy nawr yn cynnig pecyn priodas Cymreig i helpu cyplau i ddathlu yn yr iaith a ffefrir ganddynt.  

Cafodd y gwesty, sy’n cynnal rhwng 65 a 100 o briodasau’r flwyddyn, gefnogaeth ar ddatblygu ei gynnig Cymraeg trwy brosiect am ddim Cymraeg mewn Busnes Cyngor Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad â chwmni Iaith Cyf.

Mae pecyn y gwesty’n cynnwys telynor, disgo a bwydlen Cymraeg yn ogystal ag arddangosfa canol bwrdd llechen siâp calon a meistr seremonïau sy’n siarad Cymraeg.   

Mae gan Michelle Seddon, cyfarwyddwr priodasau yn y gwesty dros 30 mlynedd o brofiad lletygarwch.

Dywedodd: “Gyda’n pecyn Cariad newydd, mae’r fwydlen yn seiliedig ar seigiau Cymreig, byddwn yn cynnig meistr seremoni Cymraeg ac mae gennym nifer o staff gwledda sy’n siarad Cymraeg.  

“Mae’n rhoi’r cyfle i gyplau ddod yma â chael profiad cwbl Gymreig. Rydym yn falch iawn o gynnig y profiad hwnnw.   Mae’n ymwneud â chadw diwylliant Cymru fel rhan o’r seremoni.  

“Mae gan lawer o deuluoedd werthoedd traddodiadol sy’n gallu mynd ar goll mewn cymdeithas fodern”

Mae’r pecyn eisoes yn profi’n boblogaidd gydag archebion wedi eu derbyn trwy’r flwyddyn hon ac i mewn i 2018 ac mae’n cyfannu seremonïau sifil dwyieithog sydd eisoes ar gael yn y gwesty.

Mae’r Oriel yn dyddio’n ôl i 1780, yn gartref gwledig preifat i ddechrau a phrynodd y perchnogion presennol sef y teulu Seddon y gwesty yn 1998.

Roedd Cymraeg mewn Busnes yn brosiect peilot a gynhaliwyd ym Mhrestatyn, Llanelwy a Llangollen fel rhan o waith y Cyngor i ddatblygu’r economi leol trwy Raglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol.

Roedd cefnogaeth am ddim yn cynnwys gweithdai i ddarparu sgiliau ac anogaeth i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, yn ogystal â chymorth ymarferol fel cyfieithu bwydlenni.

Dywedodd Mike Horrocks, Rheolwr Rhaglenni a Thîm Datblygiad Economaidd a Busnes: “Mae’n wych gweld yr Oriel yn croesawu’r iaith Gymraeg fel hyn ac mae’n rhoi’r cyfle i gyplau ddathlu eu diwrnod arbennig yn Gymraeg.  

“Mae Cymraeg mewn Busnes yn adeiladu ar y cryfderau economaidd a ddarperir gan hunaniaeth a diwylliant Cymreig cryf Sir Ddinbych i annog y defnydd o'r Gymraeg.

“Mae tystiolaeth yn dangos fod Cymraeg yn gallu cryfhau delwedd brand cwmni ac atgyfnerthu tarddiad lleol y nwyddau”

Mae Siwan Tomos yn gyfarwyddwr gwasanaethau addysg a hyfforddiant yr asiantaeth cynllunio a pholisi iaith, Iaith Cyf.

Dywedodd: “Mae ymchwil yn dangos y gall defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith gynyddu apêl tuag at fusnesau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a thwristiaid – y nod cyffredinol yw gwella busnes i fusnesau a chael effaith gadarnhaol ar eu llinell isaf.

“Mae’r Oriel wedi bod yn awyddus iawn i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg ac maent wedi bod yn llawn o syniadau arloesol.”

Ychwanegodd Mrs Seddon: “Roeddem yn meddwl bod y cynllun yn syniad gwych.   Mae diwylliant Cymru yn cynnwys llawer o hanes ac rydym angen ei ddiogelu.   Mae’r rhaglen wedi ein helpu i wella’r cynnig Cymraeg yn y gwesty.”

 

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid