Adran Busnes
Mis Mawrth Menter
Rhaglen fwyaf erioed Sir Ddinbych o ddigwyddiadau busnes yn cael ei galw’n llwyddiant.
Mae mwy na 400 o bobl wedi cymryd rhan mewn 17 gweithdy, cynhadledd, a sesiynau rhwydweithio ar draws y sir, fel rhan o raglen Mis Mawrth Menter Cyngor Sir Ddinbych.
Roedd digwyddiadau’n cynnwys gweithdai hyfforddi o amgylch e-fasnach, cyfryngau cymdeithasol a marchnata, cynhadledd ar dwf a chyfleoedd buddsoddi yn Sir Ddinbych, sesiynau ‘holi’r arbenigwr’ a chinio rhwydweithio a gynhaliwyd ar y cyd â'r Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Dyfeisiwyd y rhaglen gan dîm Datblygiad Busnes ac Economaidd y Cyngor, yn dilyn adborth o arolwg busnes blynyddol Sir Ddinbych, ac mae'n rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu'r economi leol drwy ei Raglen Uchelgais Cymunedol ac Economaidd, sy'n bwriadu cefnogi busnesau preifat iach, creu swyddi sy'n talu fwy, a chysylltu'r rhain â phreswylwyr i gynyddu incymau'r aelwyd.
Dywedodd Mike Horrocks, rheolwr rhaglen a thîm y Cyngor ar gyfer Datblygiad Busnes ac Economaidd: “Mae Mis Mawrth Menter eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Rydym wedi gweld y nifer fwyaf erioed yn mynychu ar gyfer ein rhaglen fwyaf erioed, gyda phob lle wedi’i archebu ar gyfer sawl digwyddiad.
“Y peth pwysicaf yw ein bod wedi cael adborth grêt gan fusnesau a ddywedodd wrthym fod y sesiynau wedi bod o fudd go iawn iddyn nhw.
“Hoffwn ddiolch i bob busnes a gymerodd amser o’u hamserlenni prysur i fuddsoddi mewn digwyddiadau datblygu sgiliau a rhwydweithio, sydd wedi helpu i wneud Mis Mawrth Menter yn llwyddiant. Y targed go iawn i ni yw gweld llwyddiant y rhaglen yn troi’n llwyddiant busnes lleol, ac mae rhai arwyddion cryf bod hyn yn digwydd.
“Nawr mae yna fwy o fusnesau newydd nag erioed yn sefydlu bob blwyddyn yn Sir Ddinbych, o 280 y flwyddyn yn 2012 i 350 yn 2015, mae gennym y cyfraddau gorau o ran goroesi am flwyddyn, a’r cynnydd canraddol mwyaf o drosiant ariannol busnes nag unrhyw le arall yng Nghymru.
“I ychwanegu at hynny, mae cyflogaeth yn Sir Ddinbych wedi cyrraedd 40,000, gyda mwy na 1,500 o bobl yn gweithio nawr na phan wnaethom ddechrau’r rhaglen yn 2013.
“Fel rhan o’n ffocws o gael y budd mwyaf i fusnesau, byddwn yn cysylltu eto â’r rhai a gofrestrodd ar gyfer Mis Mawrth Menter er mwyn gweld sut y gwnaethant ddefnyddio’r cysylltiadau, y sgiliau a’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau hyn yn effeithiol yn eu busnes – dyma yw ei bwrpas."
Mae gweithdai ychwanegol wedi’u trefnu ar gyfer 25 Ebrill ac 16, 17 a 23 Mai, a bydd yn cynnwys sesiynau ar farchnata, cyfryngau cymdeithasol ac adeiladu eich busnes ar-lein.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.sirddinbych.gov.uk/busnes
Gwesty yn cynnig pecyn priodas Cymreig diolch i gymorth gan y Cyngor
Mae’r briodferch a’r priodfab nawr yn gallu cael cyfle i ddweud ‘ydw’ yn Gymraeg ar eu diwrnod arbennig.
Mae Gwesty a Sba yr Oriel House, Llanelwy nawr yn cynnig pecyn priodas Cymreig i helpu cyplau i ddathlu yn yr iaith a ffefrir ganddynt.
Cafodd y gwesty, sy’n cynnal rhwng 65 a 100 o briodasau’r flwyddyn, gefnogaeth ar ddatblygu ei gynnig Cymraeg trwy brosiect am ddim Cymraeg mewn Busnes Cyngor Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad â chwmni Iaith Cyf.
Mae pecyn y gwesty’n cynnwys telynor, disgo a bwydlen Cymraeg yn ogystal ag arddangosfa canol bwrdd llechen siâp calon a meistr seremonïau sy’n siarad Cymraeg.
Mae gan Michelle Seddon, cyfarwyddwr priodasau yn y gwesty dros 30 mlynedd o brofiad lletygarwch.
Dywedodd: “Gyda’n pecyn Cariad newydd, mae’r fwydlen yn seiliedig ar seigiau Cymreig, byddwn yn cynnig meistr seremoni Cymraeg ac mae gennym nifer o staff gwledda sy’n siarad Cymraeg.
“Mae’n rhoi’r cyfle i gyplau ddod yma â chael profiad cwbl Gymreig. Rydym yn falch iawn o gynnig y profiad hwnnw. Mae’n ymwneud â chadw diwylliant Cymru fel rhan o’r seremoni.
“Mae gan lawer o deuluoedd werthoedd traddodiadol sy’n gallu mynd ar goll mewn cymdeithas fodern”
Mae’r pecyn eisoes yn profi’n boblogaidd gydag archebion wedi eu derbyn trwy’r flwyddyn hon ac i mewn i 2018 ac mae’n cyfannu seremonïau sifil dwyieithog sydd eisoes ar gael yn y gwesty.
Mae’r Oriel yn dyddio’n ôl i 1780, yn gartref gwledig preifat i ddechrau a phrynodd y perchnogion presennol sef y teulu Seddon y gwesty yn 1998.
Roedd Cymraeg mewn Busnes yn brosiect peilot a gynhaliwyd ym Mhrestatyn, Llanelwy a Llangollen fel rhan o waith y Cyngor i ddatblygu’r economi leol trwy Raglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol.
Roedd cefnogaeth am ddim yn cynnwys gweithdai i ddarparu sgiliau ac anogaeth i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, yn ogystal â chymorth ymarferol fel cyfieithu bwydlenni.
Dywedodd Mike Horrocks, Rheolwr Rhaglenni a Thîm Datblygiad Economaidd a Busnes: “Mae’n wych gweld yr Oriel yn croesawu’r iaith Gymraeg fel hyn ac mae’n rhoi’r cyfle i gyplau ddathlu eu diwrnod arbennig yn Gymraeg.
“Mae Cymraeg mewn Busnes yn adeiladu ar y cryfderau economaidd a ddarperir gan hunaniaeth a diwylliant Cymreig cryf Sir Ddinbych i annog y defnydd o'r Gymraeg.
“Mae tystiolaeth yn dangos fod Cymraeg yn gallu cryfhau delwedd brand cwmni ac atgyfnerthu tarddiad lleol y nwyddau”
Mae Siwan Tomos yn gyfarwyddwr gwasanaethau addysg a hyfforddiant yr asiantaeth cynllunio a pholisi iaith, Iaith Cyf.
Dywedodd: “Mae ymchwil yn dangos y gall defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith gynyddu apêl tuag at fusnesau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a thwristiaid – y nod cyffredinol yw gwella busnes i fusnesau a chael effaith gadarnhaol ar eu llinell isaf.
“Mae’r Oriel wedi bod yn awyddus iawn i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg ac maent wedi bod yn llawn o syniadau arloesol.”
Ychwanegodd Mrs Seddon: “Roeddem yn meddwl bod y cynllun yn syniad gwych. Mae diwylliant Cymru yn cynnwys llawer o hanes ac rydym angen ei ddiogelu. Mae’r rhaglen wedi ein helpu i wella’r cynnig Cymraeg yn y gwesty.”
Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i dorri lawr ar fân reolau
Mae masnachwyr yn cefnogi cynllun i dorri lawr ar fân reolau ar gyfer busnesau Sir Ddinbych - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae prosiect Gwell Busnes i Bawb (GBiB) y Cyngor Sir yn dod â busnesau ac adran Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio y Cyngor ynghyd i wella sut mae rheolau’n cael eu darparu i arbed arian ac amser i fusnesau.
Mae’r Cyngor bellach yn cynnig gwell cydlyniant rhwng gwasanaethau fel bod gwasanaeth cyfannol yn cael ei ddarparu i fusnesau yn ystod ymweliadau.
Mae GBiB yn cynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, trwyddedu a chynllunio, ac mae’n darparu un pwynt mynediad syml i fusnesau i gael cyngor am ddim am reoliadau busnes.
Mae GBiB hefyd yn helpu busnesau i gael arian grant ac yn eu cyfeirio at gefnogaeth arall.
Dywedodd Emlyn Jones, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd: “Mae Gwell Busnes i Bawb yn golygu cael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio i dwf - a chodi cystadleurwydd economaidd Sir Ddinbych.
"Mae gwasanaethau rheoleiddio’n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi busnesau. Gall y gefnogaeth yma ddarparu mantais economaidd i fusnesau, yr hyder i dyfu a ffynnu a’r sicrwydd eu bod yn bodloni gofynion statudol.
“Rydym yn cefnogi cannoedd o fusnesau bob blwyddyn a drwy wella’r gwasanaeth, gallwn ostwng nifer yr ymweliadau gan reoleiddwyr a'r amser maen nhw'n dreulio ar reoliadau.
“Rydym ni’n credu bod hon yn ffordd effeithiol o gefnogi busnesau, ac ynghyd â nifer o brosiectau dan ein Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, mae’n helpu busnesau Sir Ddinbych drwy ddatblygu’r economi.”
Dan y cynllun, mae swyddogion y Cyngor wedi cael hyfforddiant i wella eu ymwybyddiaeth o'r pwysau y mae busnesau yn eu wynebu.
Dywedodd Tom Moore o Fecws Henllan, ar Stâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych bod cymorth Sir Ddinbych yn amhrisiadwy wrth adeiladu estyniad i’r safle wrth ehangu’r stordy.
Dywedodd: “Bu Cyngor Sir Ddinbych yn ddefnyddiol iawn, iawn. Os ydw i angen siarad â nhw, mae wastad rhywun ar ochr arall y ffôn.
“Mae’n wasanaeth da, cyflym a phroffesiynol. Pan rydym ni'n siarad efo rhywun, maen nhw'n dod i'n gweld ar unwaith. Maen nhw wedi bod yn ffantastig.
“Mae’n fuddiol iawn i’n busnes, mae’n helpu ni i dyfu’n gyflymach gan eu bod bob amser ar gael. Mae’n hawdd iawn cael gafael ar y Cyngor.”
Dywedodd Colin Brew, Siambr Fasnach Gorllewin Sir Caer a Gogledd Cymru: “Mae Gwell Busnes i Bawb yn fodel arloesol sy’n cynorthwyo i gael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio hynny sy’n effeithio ar allu busnesau i dyfu.
“Bydd busnesau lleol yn Sir Ddinbych yn croesawu’r ymagwedd arloesol hon a fydd nid yn unig yn darparu cynnyrch o safon gystadleuol y mae busnesau’n gallu ymddiried ynddo ond hefyd yn gallu amlygu a helpu i gael gwared ar ddefnydd aneffeithiol o adnoddau yn y sir."
Dywedodd Mike Learmond o’r Ffederasiwn y Busnesau Bach: “Roedd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn falch o gefnogi’r cynllun Gwell Busnes i Bawb yn Sir Ddinbych – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
“Mae rheoliadau’n parhau’n brif bryder i’n haelodau ac mae’n galonogol yr ymgynghorwyd â ni o’r dechrau a’n bod yn gallu bwydo pryderon ein haelodau i’r cynllun.
“Mae angen rheoliadau, ond mae’n ymwneud â sut y gorfodir y rheoliad. Mae busnesau yn adborth bod Sir Ddinbych yn edrych am ffordd gyflymach a gwell i helpu busnesau i arbed amser ac arian. Rydym yn falch bod Cyngor Sir Ddinbych wedi achub y blaen ar hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Cyngor yn dweud y gall casglu data welal rhwydweithiau ffonau symudol
Mae cwmni cynhyrchu bara wedi ymuno â'r Cyngor i helpu i wella perfformiad rhwydwaith ffôn symudol y rhanbarth.
Mae gyrwyr Henllan Bakery yn Ninbych yn lawrlwytho ap sy’n asesu ansawdd signal ffôn symudol i nodi mannau gwan yn y sir.
Mae’r Sir hefyd yn gofyn i staff lawrlwytho ap Ofcom sy’n anfon gwybodaeth i’r rheoleiddiwr heb i’r defnyddiwr orfod gwneud unrhyw beth.
Dywedodd Ed Moore, cyfarwyddwr yn y siop fara: “Rydym angen cysylltu â’n staff dosbarthu lle bynnag maen nhw a gall diffyg signal wneud hyn yn amhosibl.
“Mae’r sefyllfa’n ymddangos yn arbennig o wael tuag ardal y Waun a Chroesoswallt ond mae yna fannau gwan wedi eu gwasgaru ym mhobman, nid mewn ardaloedd gwledig yn unig.”
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr ffonau symudol i wella ansawdd signal yn y sir a bydd mwy o ddata yn helpu’r Cyngor i gyflwyno achos ar gyfer gwell isadeiledd.
Dywedodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Sir: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol o rwystredigaeth trigolion, busnesau ac ymwelwyr pan nad ydynt yn gallu cael signal boddhaol ar eu ffôn symudol.
“Mae newidiadau i’r system gynllunio ar lefel genedlaethol a chynlluniau gan weithredwyr rhwydwaith ar gyfer y dyfodol yn anelu tuag at welliannau.
“Mae Ofcom wedi gwneud camau cadarnhaol trwy ddatblygu technoleg sydd gan y rhan fwyaf trwy’r adeg.
“Gellir lawrlwytho'r ap unwaith ac yna mae’n casglu ac yn rhoi gwybodaeth am ansawdd y signal. Nid yw’r defnyddiwr angen gwneud unrhyw beth arall ac ni chesglir data personol.
“Rydym yn gweithredu tua 700 set llaw o fewn yr Awdurdod felly rydym mewn sefyllfa gadarn i gynorthwyo Ofcom.
“Gall busnesau fel Henllan Bakery hefyd wneud cyfraniad gwerthfawr ac rwy’n annog unrhyw un gyda ffôn Android i ystyried lawrlwytho’r ap.”
Mae Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor wedi amlygu cyfathrebu fel blaenoriaeth ac mae gwaith yn cael ei wneud i nodi problemau a chyfleoedd gyda seilwaith band eang a ffôn symudol trwy brosiect Sir Ddinbych Digidol.
Mae Ofcom wedi dweud y bydd cyhoeddi data a gasglwyd gan yr ap yn annog gweithredwyr rhwydwaith ffôn symudol i wella eu rhwydweithiau.
Gellir lawrlwytho ap Ymchwil Ffôn Symudol Ofcom yn http://www.ofcom.org.uk/
Cyllid ychwanegol ar gael i helpu busnesau i fod ar-lein
Gall cwmnïau sy’n chwilio am weddnewidiad digidol bellach fanteisio ar grant busnes.
Mae cynllun Grant Datblygu Busnes y Cyngor Sir wedi dyfarnu mwy na £71,000 i 17 o gwmnïau Sir Ddinbych ers mis Ebrill y llynedd.
Mae'r grant wedi’i ehangu i gynnig mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau sy'n ceisio manteisio ar dechnoleg ddigidol i helpu i ysgogi arloesedd lleol, gwella cystadleurwydd a helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd.
Mae hyn yn golygu cyfleoedd i bob math o fusnesau, gan gynnwys cwmnïau sydd am gymryd archebion ar-lein a gyrru nodau atgoffa awtomatig am apwyntiadau trwy negeseuon testun neu e-byst neu rai sydd am gael systemau rhatach dros y we yn lle hen systemau ffôn.
Dywedodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol: “Gall hyd yn oed y busnes lleiaf elwa o’r grant hwn.
“Mae gan wefannau manteision masnachu amlwg ac mae mwy o gyllid ar gael i fusnesau lleol yn 2017 i greu eu presenoldeb ar-lein sydd o safon uchel a mentro i werthu ar-lein, hyd yn oed.
“Byddwn yn annog busnesau cymwys y Sir i wneud cais am grant mor fuan â phosib’ gan fod yr arian ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.”
Mae posib ariannu hyd at 75 y cant o'r costau a bydd yn rhaid i gynigion ddangos sut y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r busnes.
Mae'r cynllun, sy'n ffurfio rhan o Raglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor, hefyd yn cynnig arian i fusnesau newydd a rhai sy'n bod eisoes i greu swyddi, gwella cystadleurwydd a chreu economi leol fywiog.
Yn ogystal â chynyddu’r arian ar gyfer elfen ddigidol y cynllun, mae cap y grant wedi’i gynyddu o £5,000 i £10,000 ac mae’r terfyn ar drosiant blynyddol yr ymgeiswyr wedi cynyddu o £250,000 i £500,000.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Sir Ddinbych ewch i'n gwefan neu cysylltwch â 01824 706896.